bbc.co.uk
Home
Explore the BBC

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod Dinbych 2001

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf

Newyddion

Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



BBC Homepage

Cymru'r Byd
Cymru'r Byd
» Dinbych 2001
Straeon
Adolygiadau
Newyddion
Lluniau
Gwledd yn Ninbych
Y lle i fod
Canrif o Brifwyl
Y Sîn Roc
Llais Llên

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


O hil gerdd

Bu Catrin Jones yn holi Rhys Jones - cerddor ac arweinydd

Rhys JonesBydd Rhys Jones ymhlith y rhai prysuraf yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.

Nid yn unig mae’n gyd-arweinydd Côr yr Eisteddfod ar y cyd â Beryl Lloyd Roberts ond bydd hefyd yn arwain y gymanfa yn y pafiliwn ar brynhawn Sul olaf yr wyl.

Mae gan Rhys Jones brofiad helaeth o weithio gyda chorau yr Eisteddfod.

Yn eisteddfod Y Rhyl 1953 roedd yn cyfeilio i’r côr pan wnaed y mwyaf erioed o waith gan gôr Eisteddfod erioed gan eu bod yn canu tri darn.

Fe fu’n cyfeilio i’r côr hefyd yn eisteddfod Y Fflint yn 1969.

Yna yn eisteddfod Y Rhyl yn 1985 ac ym Mro Colwyn yn 1995 bu’n gyd-arweinydd fel eleni.

Y tro hwn bydd y côr yn canu Requiem Verdi mewn cyngerdd yn y Pafiliwn nos Sul.

Yna, mewn cyngerdd yn y Pafiliwn nos Wener fe fyddan nhw’n canu Requiem Brahms a rhai o ganeuon Robat Arwyn gyda Bryn Terfel, Fflur Wyn a Chôr Rhuthun a’r Cylch.

Verdi yn ffefryn

Meddai Rhys Jones: "Fe wnaethon ni ddewis Requiem Verdi am fod can mlynedd ers ei farw. Verdi yw fy ffefryn i, rwy’n ffan mawr o’i waith."
Mae Côr yr Eisteddfod eleni yn enfawr. Dangosodd pobol yr ardal gymaint o frwdfrydedd yr oedd dros 400 yn yr ymarfer cyntaf.

Erbyn hyn mae’r nifer wedi gostwng i 250 oherwydd y lle sydd ar gael ar lwyfan y Steddfod. Meddai Rhys Jones:

"Mae presenoldeb y cantorion yn yr ymarferion wedi bod yn gyson. Mae Côr yr Eisteddfod yn wyrth flynyddol," meddai.

Trydydd tro

Eleni mae'n arwain am y trydydd tro y gymanfa flynyddol ar brynhawn Sul olaf yr eisteddfod i gloi’r wyl. Bu’n arwain yn Llangefni yn 1983 a Bro Delyn yn 1991.

"Mae’n wefr ac yn gyfrifoldeb aruthrol does na ddim profiad tebyg i arwain cymanfa’r eisteddfod," meddai.

Dylanwad ei dad

Y mae Rhys Jones yn gerddor - o hil gerdd!

Ganwyd ef yn Nhrelawnyd yn yr hen Sir Fflint yn 1927 lle'r oedd ei dad yn sgubo ffyrdd yr ardal a'ii fam yn nyrs gymunedol.

"Roeddwn i’n falch iawn o nhad am ei fod yn cadw Trelawnyd yn lân.

"Hefyd roedd yn frenin yn y pentref am ei fod yn arwain y Côr Plant a’r Côr Cymysg.

"A doedd o rioed wedi cael gwers gerddorol yn ei fywyd."

Gwybod holl ganeuon côr

Yr oedd ei dad hefyd yn un o sefydlwyr Côr Meibion Trelawnyd a dyma’r dylanwad cerddorol cyntaf ar Rhys Jones.

Pan oedd yn fachgen dywed ei fod yn gwybod holl ganeuon y côr cymysg a chôr y plant.

Yn wir, dyma’r unig gerddoriaeth yr oedd yn ymwybodol ohoni.

Gartref dysgodd sol ffa gyda'i dad oddi ar fodiwletor ar wal y gegin.

"Roeddwn i'n gorfod ei ganu’n gyson pan yn blentyn ac fe ddes i’n giamstar arno cyn gallu darllen yr hen nodiant."

Anrheg gan offeiriad

Pan oedd yn yr ysgol sir yn Y Rhyl y daeth y dylanwad nesaf. Yn agos i’r ysgol roedd ysgol Babyddol y byddai bws yr ysgol yn galw ynddi ar y ffordd adref.

Un diwrnod holodd offeiriad ef am ei ddiddordebau.

Wedi iddo glywed fod gan Rhys ddiddordeb mewn cerddoriaeth dywedodd wrtho am aros yn y ty y dydd Sadwrn canlynol ac y byddai’n anfon rhywbeth iddo.

Y Sadwrn daeth bachgen ifanc gyda gramoffon a 12 o recordiau a nodyn gan y Brawd Redmond yn ei orchymyn i wrando ar y recordiau o leia ddwywaith y dydd.

Yr wythnos wedyn cafodd recordiau eraill yn gyfnewid amdanynt

Gwrandawodd ar operâu, unawdwyr, a chonsiertos.

"Roedd yn fy mwydo fi efo cerddoriaeth a recordiau ac roeddwn i’n cael cyfle i wrando ar gantorion mawr. Y Brawd Redmond fu’r dylanwad mwyaf arnaf i. Fo agorodd y drws i mi i fiwsig o bob math."

Yn y fyddin

Yn 1944 aeth i’r Coleg Normal a threuliodd gyfnod yn athro cerdd cyn gorfod ymuno â’r fyddin.

"Fy atgof mwyaf pleserus o’r cyfnod hwnnw yw chwarae gyda bandiau dawns mewn gwersyll yn yr Amwythig. Un diwrnod anfonwyd y pianydd adref ac fe ges i gymryd ei le. Drwy wneud hyn dysgais chwarae fiwsig rhythmig." Wedyn bu’n cyfeilio mewn amryw o eisteddfodau, yn lleol a chenedlaethol.

"Dyma brofiad pianyddol na allwch roi pris arno. Mae’n ysgol galed ond yn un werthfawr iawn."

Yn athro wrth ei waith bob dydd ymddeolodd 17 mlynedd yn ôl yn dilyn cyfnodau ym Mronant, Ffynnongroyw, Maes Garmon Yr Wyddgrug, Treffynnon a Maes Garmon eto.

Cyfansoddodd nifer o ganeuon a sioeau cerdd ac mae’n awdur dau lyfr o ganeuon i blant.

Er 1985 bu’n arweinydd a chyfeilydd Cantorion Gwalia.

Beirniadu a darlledu

Yn ogystal â hyn bu’n feirniad cerdd mewn eisteddfodau ac mae’n ddarlledwr cyson sydd wedi cyflwyno rhaglenni fel Dechrau Canu, Dechrau Canmol. Pa elfen o hyn i gyd y mae wedi’i fwynhau orau felly?

"Gwaith cyhoeddus dwi’n ei fwynhau fwyaf. Dwi wedi cyflwyno llawer o gyngherddau cerddorol a does dim gwell na chyflwyno i gynulleidfa pan fo cefndir da o dalentau’r tu ôl i chi. Hefyd dwi’n mwynhau cyflwyno Taro Nodyn."

Mae teulu Rhys Jones yn un cerddorol iawn hefyd gyda’i briod Gwen wedi ennill yr unawd Mezzo yn yr eisteddfod genedlaethol chwe gwaith.

Yn ogystal, enillodd wobr goffa T.H.Parry-Williams.

Mae ganddo ef a gwen ddau o blant, Dafydd sy’n gweithio gyda Nwy Cymru a Caryl sy’n berfformwraig amlwg iawn.



Straeon Eisteddfod 2001:
BBC
© MMI

Pafiliwn (dydd)
Pafiliwn (nos)
Clecs Clwyd - Dysgwyr
Dinistr - Pabell Roc
Drama
Gigs y Gymdeithas
Gwyddoniaeth
Maes B
Pabell Cymdeithasau
Pagoda
Pabell Lên
Theatr y Maes
Y Stiwdio

Neuadd Ddawns
Be wyddoch chi am  y Steddfod?
[an error occurred while processing this directive]
Be wyddoch chi am  y Steddfod?


Gwledd yn Ninbych
[an error occurred while processing this directive]
Gwledd yn Ninbych
Y byd llyfrau - Llais Llên
Y byd llyfrau - Llais llên
Newyddion diweddaraf y sîn roc
Newyddion Y Sîn Roc
Gemau
Chwaraewch y gemau



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy