bbc.co.uk
Home
Explore the BBC

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod Dinbych 2001

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf

Newyddion

Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



BBC Homepage

Cymru'r Byd
Cymru'r Byd
» Dinbych 2001
Straeon
Adolygiadau
Newyddion
Lluniau
Gwledd yn Ninbych
Y lle i fod
Canrif o Brifwyl
Y Sîn Roc
Llais Llên

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Anrhydeddau Gorsedd y Beirdd

Y rhestr gyflawn o bawb fydd yn cael eu derbyn o'r newydd i Orsedd y Beirdd yn Ninbych eleni



Y mae cyn gapten tîm rygbi Cymru ac aelod seneddol ymhlith y rhai a fydd yn cael eu derbyn yn aelodau er anrhydedd o Orsedd y Beirdd yn Eisteddfod Dinbych eleni.


Llion Jones, bardd y gadair, Llanelli 2000Hefyd yn cael eu derbyn yn aelodau, bydd prifeirdd y llynedd.

Cyhoeddwn isod y rhestr gyflawn o bawb sy’n cael eu derbyn gyda sylwadau cofiadur yr Orsedd, Jâms Niclas, amdanynt.

Llwyddodd yr ymgeiswyr hyn yn arholiadau Gorsedd Beirdd Ynys Prydain eleni, ac urddir hwy yn aelodau gan yr Archdderwydd fore Llun 6 Awst 2001 mewn gorsedd agored yn Ninbych:

• Urdd Iaith (Gwisg Las)

Michael David Bassett (Mihangel Elli), Llwynhendy, Llanelli

• Urdd Llenor (Gwisg Las)

Enid Roberts (Enid Clwyd), Llanycil, Y Bala
Dafydd Hugh Slaughter (Eirin y Perthi), Caer-wynt
Brenda Williams (Brenda o’r Briw), Croesoswallt - wedi llwyddo y llynedd, ond heb ei hurddo

• Urdd Cerdd Ofydd (Gwisg Werdd)

Sarah Teifwen Evans, Castell Newydd Emlyn

• Urdd Iaith Ofydd (Gwisg Werdd)

Adrian Mark John, Pontarddulais
Stella Lewis, Yr Hendy, Pontarddulais
David Smart, Cilgwri

• Urdd Llên Ofydd (Gwisg Werdd)

Hazel Williams Jones, Rhuthun

Bu’r ymgeisydd a ganlyn yn llwyddiannus yn ail arholiad ei adran yn unig:

Llên Ofydd 2

Brian William Baldwin, Prestatyn



I’w hurddo i’r Wisg Las fore Llun 6 Awst 2001 ar gyfrif eu graddau mewn Cymraeg neu Gerddoriaeth

Urdd Llenor (Gwisg Las)
• Rhiannon Ferch Dafydd, B.A., Llwyn Onn, Parc, Ger Y Bala, Meirion
• Bethan Jones, B.A., 14 Llwyn yr Eos, Penparcau, Aberystwyth, Ceredigion
• Delyth Wyn Jones, B.A., 2 Bwthyn Bryn Asaph, Ffordd Dinbych, Llanelwy, Sir Ddinbych
• Gwenan Mair Roberts, B.A., 4 Lôn y Gelli, Colomendy, Dinbych, Sir Ddinbych


Urdd Cerddor (Gwisg Las)
• Gwenan Gibbard, B.Cerdd., Llwyn Eithin, 10 Lôn Ceredigion, Pwllheli, Arfon
• Meinir Llwyd Jones, B.Cerdd., Ferm y Rhewl, Waen, Llanelwy, Sir Ddinbych


I’w hurddo fore Llun Awst 6 yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir Ddinbych a’r Cyffiniau 2001


Enillwyr llwyfan
Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llanelli a’r Cylch 2000


(i) (a) Urdd Ofydd er Anrhydedd

• Iona Jones, Llandâf, Caerdydd - Enillydd y Rhuban Glas

• Mandy Louise James, Caerdydd - Enillydd Gwobr Goffa Llwyd o’r Bryn

• Sandra de Pol, Trefelin, Chubut - Enillydd Tlws y Dysgwyr


(ii) Urdd Derwydd er Anrhydedd
• Geraint Vaughan Jones, Ffestiniog -
Enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen


• Y Prif Lenor Eirug Wyn, Caernarfon -
Enillydd Y Fedal Ryddiaith

• Y Prifardd Dylan Iorwerth, Llanbedr Pont Steffan - Enillydd Coron yr Eisteddfod

• Y Prifardd Llion Jones, Bangor -
Enillydd Cadair yr Eisteddfod.

• John Marc Davies, Genefa -
Enillydd Tlws y Cerddor.

(iii) Urdd Derwydd er Anrhydedd
• Garry Nicholas, Llannon, Llanelli - Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol, Llanelli a’r Cylch 2000.

• Dennis Davies (Dennis Tudur), Llanrwst - Enillydd Gwobr Goffa Syr T.H. Parry-Williams Eisteddfod Genedlaethol Llanelli a’r Cylch 2000.


I’w Hurddo i Urdd Derwydd er anrhydedd ar gyfrif gwasanaeth maith ac arbennig i’r Orsedd a’r Eisteddfod
• Y Parchedig Ifor ap Gwilym (Ifor ap Gwilym), Abergele.

• Rhiannon Alun Evans (Prystwyth), Caerdydd.

• Myron Lloyd (Meuron), Rhuthun.

• Haf Jones Morris (Prysorwen), Llandegfan.

• Elinor Bennett Wigley (Elinor Bened), Bontnewydd.


I’w hurddo fore Gwener Awst 10

Urdd Ofydd er Anrhydedd

• Ceryl Wynne Davies, Blaenau Ffestiniog -
Addysgwyd ef yn Ysgol Ramadeg Ffestiniog a’r Coleg Nomal Bangor.

Bu’n athro a phennaeth ysgolion ac yn awr ef yw Rheolwr Olygydd papur wythnosol Y Dydd a gyhoeddir yn Nolgellau.

Awdur dramâu a fu’n gydradd gyntaf yng nghystadleuaeth ysgrifennu drama fer yn Eisteddfodau Cenedlaethol Y Barri a’r Fflint. Darlledwr, cynhyrchydd, cyflwynydd, pwyllgorwr, a phregethwr lleyg.

• William Gareth Davies, Caerdydd - Cadeirydd Cyngor Chwaraeon Cymru. Yn gyn-bennaeth adran chwaraeon y BBC, enillodd 21 o gapiau dros Gymru, a bu’n gapten ar dîm rygbi Cymru bum gwaith.

Cymerodd ran yn nhaith y Llewod i dde Affrig yn 1980. Cychwynnodd ei yrfa ym myd rygbi gyda Llanelli, gan ymddeol o’r gamp wedi deuddeg tymor yng Nghaerdydd. Bellach ac yntau’n Gadeirydd y Cyngor Chwaraeon y mae mewn sefyllfa allweddol i lunio polisi iaith y Cyngor, gan ofalu bod holl lenyddiaeth y Cyngor yn sicrhau Cymraeg graenus.

Bydd yn mynychu’r Eisteddfod Genedlaethol yn gyson.

• Goronwy Clemence Ellis, Treffynnon, Sir y Fflint -
O Eryrys ger Yr Wyddgrug. Derbyniodd hyfforddiant athro yn Y Coleg Normal, Bangor a threuliodd ei holl yrfa fel athro ysgol yn Sir y Fflint tan ei ymddeoliad diweddar.

Yn dilyn cyfnod fel athro Cymraeg yn Ysgol Uwchradd Queensferry, treuliodd weddill ei amser ym maes ysgolion cynradd, gan dreulio ugain mlynedd olaf ei yrfa yn brifathro Ysgol Gymraeg Gwenffrwd, Treffynnon.

Cyfrannodd yn helaeth i fywyd Cymraeg Sir y Fflint - prif ysgogydd sefydlu Cwmni Bro Treffynnon, prif ysbrydolwr Eisteddfod flynyddol Bro Treffynnon, ac un o olygyddion papur bro’r Glannau o’r cychwyn. Croniclodd hefyd hanes datblygiad addysg Gymraeg y Sir. Ar hyn o bryd ef yw Ysgrifennydd Cymdeithas Eisteddfodau Cymru.

• William Lynworth Harry, Ontario, Canada - Yn wreiddiol o Lanelli. Addysgwyd yn Ysgol Ramadeg Llanelli a Choleg Brenhinol Cerdd, Llundain.

Symudodd i fyw i Lundain ym 1948 gan ddysgu mewn nifer o ysgolion yno ac yn 1958 sefydlodd Gôr Meibion Cymru Llundain.

Dychwelodd i Gymru yn y chwedegau a daeth yn Gyfarwyddwr Cerdd Côr Meibion enwog Orffiws, Treforus. Bu’n arweinydd y côr am wyth mlynedd cyn iddo ymfudo i Ganada. Yno sefydlodd Gôr Orffiws Hamilton a ddaeth yn ddiweddarach yn Gôr Orffiws Canada.

Bu’n arwain Cymanfaoedd Canu yng Nghymru a Chanada, a bu’n feirniad eisteddfodau gan gynnwys Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd. Cymro alltud a wnaeth gyfraniad gwerthfawr i ganu corawl Cymru a Chanada.

• Catherine Hughes, Tregaron - Rhoddodd oes o wasanaeth i’w milltir sgwâr. Etholwyd hi’n Organyddes capel Bwlchgwynt pan yn bedair-ar-ddeg oed.

Bu’n arweinydd y plant yng Nghymanfa Ganu Presbyteraidd Glannau Teifi ac Aeron ers 18 mlynedd, a bu’n Gyd-Ysgrifennydd Pwyllgor y Gymanfa Ganu am 13 mlynedd.

Mae’n aelod ffyddlon o Glwb Ffermwyr Ieuanc, Tregaron ac yn unawdydd i Gôr Caron am chwarter canrif, ac arweinydd y côr ers 10 mlynedd. Sefydlodd adran o’r Urdd yn Nhregaron 14 mlynedd yn ôl.

Hi sy’n dysgu plant lleol i ganu mewn eisteddfodau, ac mae’n rhoi cymorth i gôr yr Ysgol Gynradd.

• Clarence Edwin Jones, Llanddaniel Fab, Ynys Môn -
Wedi ei eni a’i fagu yn Llangefni ac wedi treulio ei oes ar Ynys Môn. Er pan oedd yn ifanc bu’n aelod o gorau a phartïon canu yn Llangefni a’r cylch.

Yn 1962 enillodd ysgoloriaeth yn Eisteddfod Môn, ac yn sgîl hynny ennill gwobr i gael hyfforddiant lleisiol am ddwy flynedd gan y diweddar Bradwen Jones, Caergybi.

Estynnodd gyfnod yr hyfforddiant hwn am wyth mlynedd arall. Cystadleuydd cyson a rheolaidd mewn eisteddfodau bach a mawr led-led Gogledd Cymru.

Bu hefyd yn cystadlu fel unawdydd yn yr Eisteddfod Genedlaethol gan ddod yn gyntaf ar yr unawd bas yng Nghasnewydd yn 1988. Ym 1987 daeth yn gyntaf ar yr unawd bas/bariton yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen ac yno hefyd y cafodd yr ail wobr fel canwr y flwyddyn.

• Bryner Jones, Porthaethwy, Ynys Môn - Gwr sydd â chysylltiadau agos â Dyffryn Clwyd. Wedi iddo raddio yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Bangor penodwyd ef yn ddarlithydd yng Ngholeg Pencraig, Llangefni ym 1960. Dyrchafwyd ef yn Ddirprwy Brifathro’r Coleg yn 1986 a bu yn y swydd honno hyd ei ymddeoliad.

Trwy ei waith yn y Coleg, ynghyd â blynyddoedd o waith gwirfoddol gyda Ffermwyr Ieuanc Môn, cyfrannodd yn helaeth i ddiwylliant Ynys Môn. Bu’n aelod o Bwyllgorau Gwaith Eisteddfod Genedlaethol 1983 (lle’r oedd yn un o’r Prif Stiwardiaid), ac Eisteddfod Genedlaethol 1999 - lle’r oedd yn Ysgrifennydd y Pwyllgor Safle. Mae’n awdur y gyfrol Agor Cwys, hanes Coleg Pencraig o 1914 hyd 1994 (pan sefydlwyd Coleg Menai).

Cyflawnodd lawer fel Ysgrifennydd Cyfundeb Annibynnwyr Môn, a bu’n aelod gweithgar o Bwyllgor Golygyddol papur Bro Menai gan fod yn Gadeirydd y pwyllgor hwnnw o 1995-1998.

• Margaret Elizabeth Jones, Chwilog - Daeth o Landrillo yn Rhos i Chwilog yn 10 oed, ac yno y dysgodd Gymraeg. Cychwynnodd ei gyrfa fel athrawes yn Sychdyn ac yna daeth i Abersoch lle gwasanaethodd fel athrawes ac yna prifathrawes - cyfnod o 33 o flynyddoedd.

Bu’n aelod ffyddlon a gweithgar o gapel Annibynwyr Chwilog - lle mae’n ddiacones, organyddes ac athrawes Ysgol Sul. Mae’n aelod o gyngor Undeb yr Annibynwyr ac etholwyd hi ar Bwyllgor Gweinyddol yr Undeb am ddwy flynedd. Bu’n Gadeirydd Cyfundeb Llyn ac Eifionydd ac ar hyn o bryd hi yw trysoryddes y Gyfundeb.

Bu’n ysgrifenyddes Cymanfau Ganu Llyn ac Eifionydd ers y saithdegau. Mae’n eisteddfodwraig frwd, a gwelwyd hi ers chwarter canrif yn gweinyddu fel arolygwr ym mhafiliwn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Hefyd mae ganddi ddiddordeb yn y ddrama a bu’n aelod o gwmni drama Pwllheli am flynyddoedd.

• E. Alice Jones, Rhuddlan - Ganwyd yn Prion ac addysgwyd yn Ysgol Gynradd Pant Pastynog ac Ysgol Ramadeg Dinbych.

Yna aeth i Leeds lle cafodd Ddiploma, Dosbarth cyntaf, mewn Gwyddor Ty a Diploma mewn Dietegaeth yn Ysbyty Leeds. Bu ganddi swyddi cyfrifol mewn amryw ysbytai gan gynnwys Broadgreen, Lerpwl ac Ysbyty Coffa, Rhyl. Yna ar ôl priodi daeth i ffermio yn Pengwern, Rhuddlan - fferm lle rhoddodd y teulu groeso a chartref i Eisteddfod Genedlaethol Rhyl a'r Cyffiniau 1985.

Bu ganddi ran mewn sefydlu Ysgol Feithrin Gymraeg gyntaf Rhuddlan, bu'n athrawes Ysgol Sul am 15 mlynedd, a bu'n Gadeirydd Cangen Llanelwy o Ferched y Wawr. Penodwyd hi'n Ynad Heddwch yn 1986 ac etholwyd hi'n Is- Gadeirydd Mainc Sir Ddinbych yn 1999.

Mae'n olygydd papur i fudiadau gwirfoddol ac mae'n Gadeirydd Pwyllgor Cymraeg Cymeithas Tai Clwyd Alun. Gwraig a'i gwreiddiau'n ddwfn ym mhridd daear Dyffryn Clwyd, a rhoddodd oes o wasanaeth i'r bywyd a'r diwylliant Cymraeg yno.

• R. Emrys Jones, Bro Morgannwg - Ganwyd yn Nhalsarnau, Meirionnydd a chafodd ei addysg gynnar yn yr ysgol elfennol yno ac yna yn Ysgol Ramadeg Abermaw.

Cychwynnodd ar ei brentisiaeth fel Fferyllydd ym Mhenrhyndeudraeth, ond torrwyd ar ei yrfa adeg yr ail ryfel byd pan ymunodd â’r Awyrlu. Bu am bedair blynedd yn y Dwyrain Canol, a phan yng Nghaersalem bu’n Ysgrifennydd y Gymdeithas Gymraeg ac yn ohebydd i Seren y Dwyrain.

Wedi’r rhyfel graddiodd mewn Fferylliaeth yng Nghaerdydd, a bu’n fferyllydd ym Mangor, Pontypridd a Gilfach Goch cyn rhedeg busnesau personol yng Nghaerdydd, Casnewydd a’r Barri.

Trwy ei ddiddordeb mawr mewn llenyddiaeth a phob agwedd o ddiwylliant Cymru bu’n gefnogol i’r pethe ym mhob cylch. Bu ganddo ddiddordeb arbennig mewn Rasio Colomenod lle cyrhaeddodd y brig fel Llywydd y Ffederasiwn am 32 mlynedd ac yna fel noddwr pan ymddeolodd o’r Llywyddiaeth y llynedd.

Ym myd rasio colomenod enillodd wyth o fedalau Olympaidd, ac ef yw’r unig un i ennill Cwpan y Frenhines ddwywaith.

• Aur Roberts, Llanuwchllyn - Merch i Tom Jones, Llanuwchllyn ac mae wedi dilyn ôl troed ei thad gan gyfrannu’n helaeth i ddiwylliant Cerdd Dant yn ardal Llanuwchllyn. Gweithiodd yn ddiarbed gyda ieuenctid yr ardal a gwelir ôl ei gwaith yn Eisteddfodau’r Urdd, y Ffermwyr Ifanc ac ar hyd a lled y wlad. Ar wahân i hyfforddi’r ifanc ers 40 mlynedd, bu’n un o sefydlwyr Côr Merched Uwchllyn, a bu’n feirniad cyson yn eisteddfodau Penllyn. Bu hefyd yn weithgar iawn gyda Chymdeithas Cymry Ariannin, a bu’n Gadeirydd y Gymdeithas. Ymwelodd â’r Wladfa droeon a bu’n gyfrifol am drefnu Gwyl y Glaniad yn y Bala bob mis Gorffennaf.

• John Rees, Llanelli -
Addysgwyd ef yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Abertawe. Bu’n athro yn Ysgol Fodern Y Strade, Llanelli, Ysgol Ramadeg y Bechgyn, Llanelli, ac yna am 12 mlynedd bu’n ddirprwy Brifathro Ysgol Gyfun y Strade, Llanelli. Ef oedd Is-gadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol Llanelli a’r Cylch 2000. Bu’n gwasanaethu rygbi ysgolion Llanelli a’r cylch am 40 mlynedd ac am 20 mlynedd bu’n actio ac yn aelod o Gwmni Drama Cymraeg Llanelli. Gweithiodd yn ddiwyd i hyrwyddo’r iaith Gymraeg

• Olga Williams de Roberts, Unol Daleithiau’r America - Ganwyd yn y Wladfa Gymreig ym Mhatagonia yn ferch i John Williams Dolwyddelan a’i wraig Elizabeth Jones, Cymraes o’r Wladfa. A hithau’n dair oed symudodd y teulu i Buenos Aries, lle cafodd ei haddysg a graddio’n athrawes. Priododd ag Arturo Roberts, ffisegwr o Gymro o Batagonia, a symudasai i Detroit, U.D.A. ac yno sefydlodd y ddau a magu teulu. Yn ystod yr 20 mlynedd y bu yn Detroit a thros 20 mlynedd o fyw yn New Jersey cadwodd gysylltiad â’r cymunedau Cymaeg lleol. Cyfraniad arbennig yw ei chefnogaeth diflino i gyhoeddi Ninnau, papur Cymry Gogledd America. Nid gormodiaith yw dweud na fyddai Ninnau wedi cyrraedd ei chwarter canrif, onibai am ei llafur hi. Daeth yn bapur cryf a bywiog a chafodd ei hymroddiad drwy gyfrwng Ninnau ddylanwad arbennig ar yr adfywiad yn y bywyd Cymreig yng Ngogledd America.

• John Samuel, Swydd Caint
Brodor o Abernant, Aberdâr -
Graddiodd mewn glweidyddiaeth ac astudiaethau cymdeithasol ym Mhrifysgol Keele. Cyn iddo ymddeol ef oedd Prif Weithredwr Newham, Dwyrain Llundain. Bu’n weithgar iawn gyda Chymry Llundain ac ar hyn o bryd ef yw Is-Gadeirydd Ymddiriedolaeth a Chymdeithas Cymry Llundain. Bu hefyd yn weithgar gydag Eisteddfod Cymry Llundain a’i Chwmni Drama. Ef yw Ysgrifennydd presennol Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion. Mae’n ddiacon yn Eglwys y Bedyddwyr Castle Street, ac Ysgrifennydd Eglwysi Cymraeg Llundain. Bu’n flaenllaw yn yr ymgais o geisio sefydlu Eglwys Gymraeg an-enwadol yn Llundain.

• Alwina Thomas, Gaiman, Chubut - Bu ei chyfraniad mawr ar hyd y blynyddoedd yn gyfrwng i hyrwyddo’r traddodiad cerddorol Cymreig yn y Wladfa ac i hybu’r iaith Gymraeg.

O ganlyniad i’w gwaith hi fel athrawes biano, ei gwasanaeth gwirfoddol fel cyfeilydd corau a phartïon ac fel hyfforddwraig cantorion, fe gafodd cenedlaethau o drigolion y Wladfa gyfle i feithrin a datblygu eu doniau cerddorol.

Oni bai am ei hanogaeth hi, ni fyddai llawer ohonynt erioed wedi mentro i ganu fel unawdwyr, ac ymdrechodd bob amser i gynnal y safonau uchaf posibl.

Rhoddodd flynyddoedd o wasanaeth i gapel Bethel y Gaiman, fel organyddes, ac mae’n dal i wneud hyn. Ni chyfyngodd ei chyfraniad i’r maes cerddorol yn unig - bu hefyd yn frwd ei chefnogaeth i bob un o sefydliadau Cymreig y Wladfa.

• Emrys Williams, Pwllheli - Yn wreiddiol o Bentrefoelas. Addysgwyd ef yn Ysgol Gynradd Pentrefoelas, Ysgol Uwchradd Llanrwst a Choleg Prifysgol Cymru, Bangor.

Tra bu’n gweithio mewn swydd weinyddol yng Nghaernarfon yn y chwedegau rhoddodd lawer o’i amser yn wirfoddol i gynorthwyo plant dan anfantais meddyliol. Bu’n ohebydd i’r Cambrian News dros gyfnod o 10 mlynedd, lle gwnaeth gyfraniad o bwys i’r gymdeithas yn neheudir Gwynedd. Yn 1991 penodwyd ef gan Gyngor Sir Gwynedd yn uwch-warchodwr Amgueddfa Lloyd George, Llanystumdwy.

Rhedodd yr amgueddfa tan ei ymddeoliad yn 2000, gan ymdrwytho ei hun yn hanes gyrfa a chyfnod Lloyd George, a darlithio’n gyson ar y pwnc.

Ychydig cyn iddo ymddeol lluniodd sgript ddwyieithog i gyd-fynd â phortread byw o’r crydd Richard Lloyd wrth ei waith ym y gweithdy yn Highgate.

• Fred Williams, Abertawe
Gwr o Ffynon Groes, Sir Benfro -
a raddiodd yn Beirianydd Sifil yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Abertawe. Yn rhinwedd ei swydd rhoddodd wasanaeth gwych i Awdurdodau Sirol De Cymru.

Gwasanaethodd ar bwyllgorau safle, trafnidiaeth a thechnoleg y Brifwyl yn 1980, 1982, 1994 a 2000. Bu’n arolygydd stiwardiaid y brifwyl am 20 mlynedd ac yn Brif Stiward Eisteddfodau Cenedlaethol Dyffryn Lliw 1980 a Llanelli 2000. Bu’n Gadeirydd Pwyllgor Safle Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 1993 a deil i fod yn aelod o’r Pwyllgor Safle Canolog.

Bu’n ddiacon a thrysorydd Capel Cymreg Bethel Abertawe ers dros 20 mlynedd, a bu’n Ysgrifennydd Cylch Cinio Cymraeg dinas Abertawe er 1980.


(ii) Urdd Derwydd er Anrhydedd

• Buddug Verona James, Rhos Hill, Sir Benfro -
Merch a’i gwreiddiau’n ddwfn yn naear Sir Benfro.

Yn gyn-ddisgybl o Ysgol y Preseli enillodd wobrau di-ri mewn eisteddfodau lleol, taleithiol, a chenedlaethol fel unawdydd, ac fel aelod o grwpiau a chorau.

Wedi iddi adael yr ysgol ymunodd â busnes y teulu, ac am gyfnod o naw mlynedd bu’n gweithio y tu ôl i’r cownter yn un o siopau cigydd ei thad.

Yn y cyfamser roedd yn dal i gystadlu a phan oedd yn 24 oed dechreuodd ddilyn cwrs proffesiynol yng Ngholeg Cerdd y Guildhall, Llundain. Erbyn hyn cydnabyddir hi fel un o’r coloratura mezzo-sopano’s groau ein gwlad a thu hwnt.

Yn ystod ei gyrfa y mae wedi perfformio prif rannau ar lwyfannau Tai Opera yng Nghymru, Lloegr ac Iwerddon, Ffrainc, yr Iseldiroedd, Canada, Unol Daleithiau America a Siapan a’r Dwyrain Canol.

Yn ddiweddar gwahoddwyd hi i gyflwyno perfformiadau cyntaf o weithiau cyfansoddwyr Cymraeg - Richard Elfyn Jones a Pwyll ap Siôn.

• Eirian James, Aberteifi -
Cantores o fri a’i gwreiddiau’n ddwfn ym mhridd y Preselau. Yn gyn ddisgybl o Ysgol y Preseli amlygodd ddoniau cerddorol anghyffredin.

Yn 18 oed cafodd ei derbyn i’r Coleg Cerdd Brenhinol yn Llundain, ac ar ôl graddio bu galw mawr am ei gwasanaeth ar lwyfannau opera a chyngerdd fel mezzo soprano.

Ymddangosodd mewn prif rannau opera - ar lwyfannau blaenllaw’r wlad - yn eu plith Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru, Covent Garden, Cwmni Opera Cenedlaethol Llundain, Cwmni Opera Caint Sadlers Wells, Gwyliau Buxton a Chaeredin.

Tramor mae wedi bod yn amlwg iawn ar lwyfannau prif dai opera’r byd, megis Cwmni Opera’r Iseldiroedd, Opera’r Swisdir yn Genefa, Opera Ffrainc - Paris, de Lyon a Bordeux, Opera’r Almaen, Munich Dresden, Sbaen ac Unol Daleithiau America.

Hefyd mae eisteddfodwyr Cymru wedi ei chlywed droeon fel unawdydd ar lwyfan yr Eisteddfod Genedlaethol

• Ieuan Wyn Jones, Rhosmeirch, Ynys Môn - Ganed ef yn Ninbych, tref lle bu ei dad yn weinidog gyda’r Bedyddwyr. Cafodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg, Pontardawe ac Ysgol y Berwyn, Y Bala.

Enillodd radd allanol Prifysgol Llundain yn y Gyfraith yng Ngholeg Politechnig Lerpwl. Cymhwysodd fel cyfreithiwr yn Rhuthun, Dinbych a Llangefni. Etholwyd ef yn Aelod Seneddol Plaid Cymru Ynys Môn yn 1987.

Bu’n Gyn-Gadeirydd y Blaid ac yn 2000 etholwyd ef yn Llywydd Plaid Cymru, yn olynydd i Dafydd Wigley.

Yn 1998 cyhoeddwyd ei gyfrol ar Thomas Gee, gan Wasg Gee.

• John Lloyd Jones, Tywyn - Ffermwr a’i wreiddiau’n ddwfn ym mhridd Meirionnydd ar fferm Hendy, Tywyn, Meirionnydd. Mae’n magu defaid a gwartheg ac yn cadw ymwelwyr.

Y mae’r fferm yn rhan o Tir Cymen ers dechrau’r cynllun. Ef yw Cadeirydd Cyngor Cefn Gwlad Cymru 2000 - a bu’n Gyn-Gadeirydd Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr (Cymru) 1993-98.

Ymhlith amryw bwyllgorau y bu’n gwasanaethu arnyn nhw mae Pwyllgor Cymru o’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol 1992-2000, Pwyllgor Ymgynghorol Cymru Asiantaeth yr Amgylchedd, a Pharc Cenedlaethol Eryri 1988-98.

Ef hefyd yw cynrychiolydd Ffermwyr Prydain ar bwyllgor ymgynghorol Amgylchedd Ewrop.

• Dr Alun Morris, Bangor -
Ganwyd yng Ngharmel, Arfon yn fab i chwarelwr. Cafodd ei addysgu yn Lerpwl, a threuliodd gyfnod yn Alder Hey.

Fe’i penodwyd yn wedyn yn arbenigwr mewn Pediatreg yn Ysbyty Dewi Sant, Bangor, a symudodd wedyn i’r un adran yn Ysbyty Gwynedd. Eleni fe fydd yn ymddeol wedi bron i 40 mlynedd o wasanaeth fel arbenigwr. Arbenigodd ym maes cancr ar blant a bu ei gyfraniad i feddygaeth plant yn Ngwynedd yn allweddol.

Mae gan ei gydfeddygon yn yr ysbyty a’r meddygon teulu yng Ngogledd Cymru barch mawr tuag ato. Eleni cydnabyddwyd ei gyfraniad eithriadol drwy ddyfarnu iddo wobr Dr E.C. Benn, rhoddir y wobr am wasanaeth clerigol proffesiynol unigryw.

Hefyd mae ganddo ddawn a gwybodaeth ym myd ffotograffiaeth, ond ei brif ddiddordeb yw cerddoriaeth, yn arbennig y piano.

Ymddiddorodd mewn bandiau pres. Mae’n aelod o Fand Pres Porthaethwy, gan ganu’r tuba i ddechrau ac yn awr y trombôn.

• Buddug Owens, Llanelwy - Ganwyd yn Nantcellan, Llangorwen, Aberystwyth, ac addysgwyd hi yn Ysgol Ardwyn Aberystwyth ac Ysgol Genedlaethol Meddygaeth Caerdydd. Am 25 mlynedd bu’n anesthetegydd ymgynghorol yn Ysbyty Glan Clwyd.

Bu’n aelod o amryw Gymdeithasau Meddygol a bu’n Gyfarwyddwr a Chyn-Ddirprwy Cynghorwr Rhanbarthol Cymru i Goleg Brenhinol yr Anesthetegwyr. Bu’n Gadeirydd Adran Ambiwlans Eisteddfod Genedlaethol Y Rhyl 1985, a thraddododd y Ddarlith Feddygol yn Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst, Dyffryn Conwy 1989 ar y testun Ifor o Wynfe - darlith a gyhoeddwyd gan y Gymdeithas Feddygol.

Bu’n aelod o banel golygyddol Ein Gwasanaeth Iechyd ni 1948-98, a bu’n Gadeirydd panel golygyddol Ysbyty Glan Clwyd - Birth and Life of a Hospital a gyhoeddwyd ym Mehefin 2000.

Y mae ei chyfraniad yn helaeth iawn i feddygaeth a iechyd Cymru a rhoddodd wasanaeth teilwng i Gymdeithas Tai Clwyd Alyn, gan fod yn Gadeirydd y Bwrdd Rheoli ers 1998.

• Penri Roberts, Aberteifi -
Gwr o ogledd Sir Benfro ond a fagwyd ar Ynys Môn. Bu’n drefnydd Cymdeithas Barnardo yng Nghymru am dros 21 mlynedd.

Yn y swydd hon fe ddaeth i gysylltiad ag ysgolion, eglwysi, cymdeithasau diwylliannol a mudiadau cenedlaethol ar hyd a lled Cymru. Bu ei ymroddiad i’r gwaith hwn yn fodd i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd mudiad Barnardo. Rhwng 1988 – 1996 fe fu’n Drefnydd Eisteddfodau Cenedlaethol y De.

Ond bu’n rhaid iddo roi’r gorau i’r gwaith o ganlyniad i anhwylder iechyd. Hefyd hyrwyddodd waith yr Eglwys yn lleol a chenedlaethol yn ei waith fel pregethwr lleyg, Llywydd Cymanfa Caerfyrddin a Cheredigion, Ysgrifennydd a Chadeirydd Cwrdd Chwarter, Diacon ac Ysgrifennydd Eglwys.

• John Owen Thomas, Caerdydd - Cafodd ei addysg yn Ysgol Uwchradd Howardian a Choleg y Barri. Enillodd radd M.A. Prifysgol Cymru yn 1990.

Yn ystod ei yrfa fel athro a dirprwy Brifathro llwyddodd i drosglwyddo iaith a diwylliant Cymru i genedlaethau o blant Caerdydd a oedd yn cynnwys nifer mawr o dras a chefndiroedd ethnig amrywiol iawn. Dysgodd y Gymraeg yn ei ugeiniau a bu’n un o’r rhai mwyaf gweithgar a brwd yn yr ymgyrch i Gymreigio Caerdydd a’i gwneud hi yn fwy teilwng o’i statws fel prifddinas Cymru.

Ef oedd un o brif ysgogwyr sefydlu Clwb Ifor Bach sy’n gyrchfan i Gymru ifanc Caerdydd a’r cyffiniau lle cânt eu hadloniant drwy gyfrwng y Gymraeg. Bu’n Llywydd y Clwb rhwng 1983-1989. Mae’n aelod ffyddlon yng nghapel y Tabernacl, Caerdydd, yn llywodraethwr ysgol ac yn aelod o Lys Llywodraethwyr Prifysgol Cymru, Caerdydd.

Ers blynyddoedd bu’n hybu ymgyrch dros ddiwygio cyfraith prydlesi, a bu’n cynghori nifer mawr o bobl mewn achosion yn ymwneud â phrydlesi.

Dros gyfnod o 40 mlynedd daliodd nifer o swyddi ym Mhlaid Cymru yn cynnwys bod yn ddirprwy Lywydd ac erbyn hyn y mae’n aelod o’r Cynulliad Cenedlaethol.

Ef ar hyn o bryd yw Gweinidog yr wrthblaid ar Ddiwylliant, Chwaraeon a’r Gymraeg.



Straeon Eisteddfod 2001:
BBC
© MMI

Pafiliwn (dydd)
Pafiliwn (nos)
Clecs Clwyd - Dysgwyr
Dinistr - Pabell Roc
Drama
Gigs y Gymdeithas
Gwyddoniaeth
Maes B
Pabell Cymdeithasau
Pagoda
Pabell Lên
Theatr y Maes
Y Stiwdio

Neuadd Ddawns
Be wyddoch chi am  y Steddfod?
[an error occurred while processing this directive]
Be wyddoch chi am  y Steddfod?


Gwledd yn Ninbych
[an error occurred while processing this directive]
Gwledd yn Ninbych
Y byd llyfrau - Llais Llên
Y byd llyfrau - Llais llên
Newyddion diweddaraf y sîn roc
Newyddion Y Sîn Roc
Gemau
Chwaraewch y gemau



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy