BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Llanelli
Adfer Adfeilion Lleol
Mae'r gyfres deledu boblogaedd Restoration wedi dychwelyd i'n setiau teledu. Ar ol llwyddiant lleol arall yn y gyfres gyntaf, mae disgwyliadau mawr am drysor lleol arall eleni
Lleolir adfeilion Llys Pen-bre sy'n dyddio o'r unfed ganrif ar bymtheg, ar ochr orllewinol Mynydd Pen-Bre, gyda golygfeydd gwych dros Borth Tywyn a Phenrhyn Gŵyr ac ehangder Bae Caerfyrddin.

Y bobl ddiwethaf i fyw yn y tŷ oedd y teulu Thomas, yn 1948, ac mae wedi bod yn wag ers hynny. Mae'r adeilad unigryw hanesyddol hwn wedi adfeilio i gysgod o'r hyn a fu bryd hynny ac anodd yw gweld ei saith simnai yn sgil yr holl iorwg a thyfiant a choed mawr sy'n ei guddio.

Ers y dyddiau canoloesol mae Fferm Llys wedi parhau i fod yr annedd pwysicaf yn y plwyf gyda thipyn o hanes lleol yn canoli ar y tŷ a'i breswylwyr. Yn ystod y cyfnod canoloesol roedd Pen-Bre yn rhan o Arglwyddiaeth Cydweli. Yn ystod yr oes Normanaidd roedd maenor a thŷ Llys yma. Y perchnogion mor gynnar â 1361 oedd y Butlers (le Botoler), ond erbyn 1630 o dan y Vaughaniaid roedd yn annibynnol o Arglwyddiaeth Cydweli. Cafodd ei berchnogi gan deulu'r Ashburnham yn 1677.

Syr Walter Vaughan a'i fab Thomas Vaughan, disgynyddion o dirfeddianwyr Normanaidd, adeiladodd yr adeilad presennol ynghanol yr unfed ganrif ar ddeg, ond credir i ran o'r hen dy gael ei ymgorffori i mewn i'r adeilad. Roedd adeilad newydd Vaughan ar ffurf siâp 'L' gyda'r prif adeilad yn wynebu'r de ac un llai yn wynebu'r dwyrain. Fe ychwanegon nhw'r adain ogleddol deulawr yn ddiweddarach i'r Llys, er mwyn creu adeilad tri ochrog gyda buarth agored yn wynebu'r gorllewin. Fe ddywedir i Oliver Cromell ymweld ag aros yno yn 1648, a chanddo feddwl fawr o'r bobl.

Yn yr 1700au cynnar cafodd y Llys adnewyddiadau er mwyn troi'r adeilad un teulu yn adeilad ar gyfer dau deulu gwahanol. Golygai hyn gael gwared ar furiau mewnol a ffenestri a drysau, a chyflwyno agoriadau ac adrannau newydd. Cafodd y Llys wedyn ei roi ar les i wahanol berchnogion dros y blynyddoedd canlynol gyda'r rhan fwyaf yn defnyddio'r tir ar gyfer ffermio gyda defnydd ychwanegol y Sgubor a'r Beudy.

Yn cael ei adnabod nawr fel Fferm Llys, mae'r eiddo yn cynnwys tri adeilad, y prif adeilad yw'r Llys, gyda'r Sgubor i'r de a'r Beudy i'r gogledd. Mae'r tri adeilad wedi eu hadeiladu o garreg rwbel. Defnyddiwyd tywodfaen o chwarel Garreg Lwyd drwy'r adeiladau. To llechi oedd i'w weld yma er mai ychydig sydd weddill o doeau'r Llys a'r Beudy.

Yn ystod y canrifoedd o fasnach arfordirol mae'n ddiddorol nodi bod amlinelliad nodedig a safle gweledol Fferm Llys ynghyd â thwr Eglwys Pen-Bre yn cael eu defnyddio fel mannau llywio ar siartiau llongau lleol er mwyn hwyluso mordwyaeth yn nyfroedd peryglus morydd Tywyn cyn adeiladu goleudy Whiteford yn 1865 a chafodd ei nodi ar fapiau fel cymorth llywio!

Ym 1903 cafodd y tŷ ei droi nôl i fod yn annedd i un ac yn 1922 gwerthodd disgynyddion y teulu Vaughan yr holl ystâd gan gynnwys Fferm Llys. Ffermwyr fu'n denantiaid ar y tŷ yn ystod y 30-40 mlynedd canlynol a phan i'r tenant olaf adael yn 1962, cafodd y plwm oedd ar do'r tŷ gwag ei ddwyn. Parhau wnaeth yr edwino anochel a heddiw, mae tŷ mwyaf Sir Gaerfyrddin sy'n dyddio o'r cyfnod cyn-dadeni, fu unwaith y tŷ pwysicaf yn y plwyf, yn adfail gwag.

Ym 1985, roedd y gymuned leol o blaid gwneud rhywbeth gyda'r adeilad a chafwyd cyllid ar gyfer astudiaeth dichonolrwydd i'r eiddo. Cynigiodd Cadw grant o 50% tuag at y gost o baratoi astudiaeth a daeth y gweddill gan Gyngor Bwrdeistref Llanelli. Daeth yr astudiaeth dichonolrwydd i'r casgliad bod gwerth mewn cadw Llys Pen-bre ar sail:-

• ei unigrywiaeth yn yr ardal a Chymru o bosib, yn benodol mewn lleoliad siapiwyd gymaint gan y Chwyldro Diwydiannol;

• ei amrywiaeth cyfoethog o nodweddion pensaernïol o fewn un adeilad;

• bron dim enghraifft o anheddiad canoloesol neu Duduraidd ar ôl yn yr ardal; a

• maint y diddordeb lleol a phryder dros ddyfodol yr eiddo, sydd wedi ffurfio rhan o hanes lleol a chymeriad pentre' Pen-Bre.

Heddiw cynnigir ail-gyfle i Lys Pen-Bre, wrth i'r gyfres boblogaedd "Restoration" ymddangos am y trydydd tro ar y BBC.

Daeth trysor hanesyddol lleol arall o fewn trwch blewyn o ennill y gyfres gyntaf yn 2003, wrth i Tŷ Llanelli gipio'r drydedd wobr.

Pe gall Llys Pen-Bre fynd dau gam ymhellach eleni, fe all dderbyn nawdd ariannol pellgyrhaeddol oddi wrth y gyfres deledu. Mi fyddai hyn yn ddigon i atgyweirio a chynnal a chadw yr adfeilion, a dyrchafu Llys Pen-Bre yn ol i'w phriod le yn ein llyfrau hanes.

Da chi cofiwch ddilyn y gyfres Restoration ar BBC 2 a chofiwch bleidleisio!


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.



Lluniau
Chwaraeon
Digwyddiadau


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy