BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Llanelli
Eileen Beasley Anrhydeddu Eileen Beasley
Bu Eileen Beasley yn ymgyrchydd di-flino o blaid yr iaith Gymraeg. Fe'i hanrhydeddwyd yn ddiweddar mewn seremoni arbennig yn Aberystwyth
Ar ddydd Sadwrn y 10fed o Fehefin 2006, cynhaliwyd seremoni arbennig yn Aberystwyth i anrhydeddu cyfraniad Eileen Beasley i fywyd Cymru- gwraig a adnabyddir gan lawer o bobl fel Rosa Parks y mudiad iaith.

Roedd y seremoni yn ran o ŵyl fawr a drefnwyd gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg. Roedd yna gynrychiolaeth o'r prif bleidiau gwleidyddol, o Ferched y Wawr, Undeb Athrawon Cymru ac o Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth.

Roedd cannoedd yno i glywed areithiau gan Ieuan Wyn Jones, Hywel Teifi Edwards ymhlith enwogion mawr eraill. Ond heb os, seren y sioe oedd Eileen Beasley.

Mae Stori Eileen a'i theulu yn cychwyn yn y 1950au. Symudodd Eileen Beasley a Threfor Beasley yn 1952 i fyw yn Llangennech, Sir Gaerfyrddin. Dyna pryd y gofynnodd i Gyngor Gwledig Llanelli am bapur treth drwy gyfrwng y Gymraeg. Gwrthodwyd yr hawl yma iddynt a bu hwythau yn eu tro wrthod talu'r dreth gyngor.

Bu o flaen ei gwell o flaen Barnwr a rheithgor bron i ddwsin o weithiau. Mynnai Eileen a'i gŵr fod yr achos llys yn cael ei gynnal yn y Gymraeg ar bob achlysur. A hithau yn y cyfamser yn gwrthod talu'r dreth, casglwyd dodrefn ac eitemau o eiddo personol o gartref y ddau gan y Beiliaid lleol. Casglwyd eiddo o'i chartref ar dair achlysur. Parhaodd y sefyllfa anobeithiol yma am wyth mlynedd, cyn y derbyniodd Mr a Mrs Beasley eu papur treth yn ddwyieithog yn 1960.

Trafodwyd yr achos yma mewn peth manylder yn narlith radio enwog Saunders Lewis, 'Tynged yr Iaith' a ddarlledwyd ym 1962.

Roedd hi ymhlith yr unigolion cyntaf i brotestio dros hawliau iaith, ac i fynnu gohebiaeth Gymraeg oddi wrth Gyngor Lleol. Yr oedd Eileen Beasley yn arloeswraig, ac yn ysbrydoliaeth i genhedlaethau i ddod.

Chwaraeodd ei safiad hi rôl ddylanwadol yn sicrhau'r hawliau ry' ni Gymry yn cymryd mor ganiatawol heddiw, megis gwasanaeth Gymraeg yn ein sector gyhoeddus.

Meddai Catrin Dafydd o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg, "Flynyddoedd yn ol gwnaeth Eileen Beasley a'i theulu safiad dewr, gan bwysleisio y dylai fod gan bobl Cymru yr hawl i ddefnyddio'r Gymraeg ac i dderbyn gwasanaethau trwy gyfrwng yr iaith. Ers hynny, gwelwyd nifer o ddatblygiadau pwysig"

Ategodd Menna Machreth o Brifysgol Aberystwyth "Mae ein dyled i Eileen Beasley a'i theulu yn fawr iawn, gan iddi sefyll wrth eu hegwyddorion yn anad dim arall a herio'r drefn mewn amgylchiadau caled iawn."

 hithau bellach yn ei wythdegau, hyfryd oedd medru bod yn ran o'r achlysur hanesyddol yma, a phrofi gwefr y dorf wrth i Eileen ymddangos ar y llwyfan, a derbyn ei anrhydedd gwbwl haeddiedig oddi wrth Hywel Teifi Edwards.

gan Tomos Dafydd


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.



Lluniau
Chwaraeon
Digwyddiadau


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy