BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Digwyddiadau
Christmas Evans gan Williams Roos Portreadau

Rhwng 1 Chwefror a 9 Ebrill 2010 bydd Oriel Gregynog Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn llawn Portreadau o Gymry'r gorffennol a'r presennol.

Bydd yn gyfle unigryw i weld rhai o wynebau mwyaf eiconig a diddorol Cymru o gasgliad y Llyfrgell.

Casgliad portreadau'r Llyfrgell yw'r casgliad myaf o bortreadau Cymreig yn y byd ac mae'n cynnwys degau o filoedd o ddelweddau mewn ystod eang o gyfryngau, o ffotograffau i frasluniau, engrafiadau a gweithiau celf mewn ffrâm.

Mae'r arddangosfa'n llawn 'beirdd a chantorion, enwogion o fri'. Yn eu mysg mae lluniau o bencampwyr megis y bocsiwr byd-enwog o Drecelyn yng Ngwent, Joe Calzaghe, chwaraewyr rygbi fel Barry John ac Ieuan Evans a'r athletwraig, Tanni Grey-Thompson.

Cawn weld casgliad o gartwnau cynnar y Vanity Fair; portread o Christmas Evans y Gweinidog anghydffurfiol oedd ag ond un llygad; Griff Rhys Jones, yr actor adnabyddus a Mary Hopkin y gantores, ynghyd â rhai o wleidyddion enwog Cymru gan gynnwys David Lloyd George, Aneurin Bevan, Gwynfor Evans a Neil Kinnock.

Meddai'r Llyfrgellydd Andrew Green: "Mae'n wych ein bod yn gallu arddangos cymaint o bortreadau diddorol a phwysig o gasgliad y Llyfrgell i'r cyhoedd.

"I'r rheini sy'n methu dod i Aberystwyth neu wedi cael blas ar yr arddangosfa ac am weld mwy, yna bydd hyd ar 15,000 o bortreadau o'r casgliad yn mynd ar wefan arbennig yn ystod 2010."



Radio Cymru
Trefi
Bws BBC Cymru


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy