Yn ystod un penwythnos y flwyddyn mae dolydd gleision fferm Tegwyn a Mair Davies yn lwyfan i rai o'r goreuon yn y sîn Cymreig ac i rai o fandiau mwyaf talentog y byd. Mae'r ŵyl wedi bod yn dathlu ei 6ed penblwydd eleni ac yn ehangu o flwyddyn i flwyddyn.
Dywed Dick Turner, Cyfarwyddwr Gŵyl y Cenhedloedd Bychain: "Mae'r ŵyl yn mynd o nerth i nerth. Eleni rydym wedi sicrhau rhai o artistiaid mwyaf talentog a gwreiddiol Cymru, sef Steve Eaves, Sian James, Ember, Swci Boscawen, Fflur Dafydd, Yukatan a Radio Luxembourg, a'r band lleol, Amheus.
"Bydd gennym arlwy amrywiol a rhywbeth i blesio pawb. Byddwn yn estyn croeso i fandiau o bedwar ban byd gan gynnwys y Bedouin Jerry Can Band o'r Aifft; Basseokou Kouyate o Mali, sydd wedi gwneud cryn argraff ar y sin miwsig byd gyda Damon Albarn yn ddiweddar; y band sipsiwn, Terne Chave o Slofacia; a chor Bwlgaraidd Llundain. Mae rhain i gyd yn berfformwyr penigamp."
Tocynnau
Bydd y tocynnau ar werth o fore Llun, 7 Ebrill, 2008 a bydd y 150 cyntaf yn cael eu gwerthu am bris gostyngedig. Rhaid cofio hefyd bydd nifer cynfyngedig o docynnau rhad yn cael eu gwerthu ar 21 Ebrill i bobl sydd yn byw o fewn 10 milltir i Gil-y-cwm. Mwy o fanylion ar wefan yr ŵyl: www.smallnations.co.uk.
Stiwardiaid
"Cofiwch mae gwirfoddowlyr yn cael mynediad i'r ŵyl am ddim" medd y rheolwr personel, Kari Lucas. "Mae'r penwythnos yn waith caled ond r'ych yn siŵr o gael lot o hwyl a gwneud ffrindiau newydd. Mae' na naws arbennig i Glangwenlais ac mae'r gerddoriaeth yn ychwanegu at y cyfan wrth gwrs! Rydym yn chwilio am bobl i weithio yn ystod, cyn ac ar ôl yr ŵyl". Mae croeso i wirforddolwyr gysylltu drwy anfon e-bost at Kari@smallnations.co.uk neu ffonio 01550 720321 am fanylion pellach.
 |