BBC HomeExplore the BBC

MERCHER
2il Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Digwyddiadau
Eisteddfod Papurau Bro
Trefnwyd Eisteddfod Ddwl yn Llanarth, Ceredigion ar Fawrth 20, 2008 gan Antur Teifi "i gydnabod gwaith caled gwirfoddolwyr papurau bro Ceredigion a Sir Benfro".
Dewi Pws ac Ifan yn yr eisteddfod dwl
Dewi Pws ac Ifan Gruffydd Tregaron next page
1  2  3  4  5 


Yn cymryd rhan o dan arweinyddiaeth Ifan Gruffydd roedd cystadleuwyr o'r 11 papur bro sydd yn rhan o Brosiect Papurau Bro Ceredigion a Sir Benfro, cynllun Amcan Un a weithredir gan Antur Teifi.

Daeth toreth o ddeunydd llenyddol i law, i'w tafoli gan y beirniad Dewi 'Pws' Morris, a fu hefyd yn dethol y goreuon o gystadlaethau llwyfan y noson a gynhaliwyd yng Ngwesty Llanina, Llanarth. Ynghyd â hen ffefrynnau eisteddfodol fel y Darn Heb ei Atalnodi a'r Adroddiad Digri, roedd disgwyl clywed ambell i Stori Gelwydd a dynwaredwr hefyd.

Rhaglen yr Eisteddfod

Llenyddiaeth
Diarhebion:
Paratoi pump dihareb gyfoes.

Slogan Hysbysebu:
Agored.

Gorffen Limrig:
Aeth Arthur i'r Co-op gyda whilber i chwilio am rywbeth i swper.

Llunio Brawddeg:
Gyda'r geiriau yn eu tro yn cychwyn gyda'r llythrennau P-A-P-U-R-A-U B-R-O.

Llefaru
Darllen darn:
Heb ei atalnodi.

Adroddiad Digri:
Agored.

Stori Gelwydd:
Agored.

Dynwared:
Unrhyw wleidydd.

Rheolau'r Eisteddfod
Dyfarnir marciau ymhob cystadleuaeth o 5 i'r enillydd, 3 i'r sawl ddaw yn ail, ac 1 i'r trydydd. Cyflwynir gwobr i'r papur bro sydd â'r cyfanswm uchaf o farciau ar ddiwedd y cystadlu.

Gwobrau
Mae cwmnïau Gwasg Gomer, Fflach, Sain a'r Lolfa wedi darparu gwobrau i'w rhoi i enillwyr pob cystadleuaeth, a bydd y papur bro a ddaw i'r brig ar ddiwedd y barnu a'r cystadlu yn ennill taith i weld Canolfan y BBC yng Nghaerdydd, diolch i garedigrwydd y BBC a chymorth ariannol gan Cynnal Ceredigion.

Mwy am yr Eisteddfod Ddwl ar wefan papur bro Clonc


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Peidiwch â datgelu eich cyfenw os ydych o dan 16 oed.
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.



Radio Cymru
Trefi
Bws BBC Cymru


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy