Roedd achos i ddathlu gan un o ganolfannau addysg Abertawe ar 20 Medi. Fe ddaeth ffrindiau a gwesteion ynghyd i nodi pen-blwydd Canolfan Eifftaidd y brifysgol yn ddeg oed.
Ymhlith y rhai a ddaeth i'r parti oedd staff a gwirfoddolwyr y ganolfan, yn ogystal ag academyddion a chyn-wirfoddolwyr.
Y siaradwr gwadd oedd yr Athro Alan Lloyd, cyn bennaeth yr Adran Eifftoleg, a draddododd ddarlith ar y pwnc 'Beth yw Duw Eifftaidd?'.
Roedd ei gyflwyniad yn gyfuniad o wers ieithyddol a darluniau o hynafion Eifftaidd, a thrwy'r rhain, llwyddodd i ddangos pwysigrwydd y gymdeithas a'i phobl i'r duwiau.
Roedd bywyd a marwolaeth yn holl bwysig yn niwylliant yr Eifftwyr, a dyna'r rheswm dros ddewis y 'Tŷ Bywyd' a'r 'Tŷ Marwolaeth' fel dwy oriel y ganolfan.
O safbwynt bywyd, roedd yna saith elfen bwysig ym mywyd yr Eifftwyr cyffredin, sef 'Ba' (grym angenrheidiol), 'Ka' (hanfod), 'Ren' (enw), 'Shuyet' (cysgod), Ib (calon), 'Khet' (corff) ac 'Akhu' (y goleuedig). Roedden nhw'n rhoi cryn dipyn o bwyslais ar fywyd uchelwrol hefyd ac ar bwysigrwydd y duwiau.
Mae yma drysorau gwerthfawr i'r myfyrwyr sydd wedi penderfynu dilyn cwrs Eifftoleg yn y ganolfan. Gwraig oedd yn allweddol yn y broses o gael gafael ar y trysorau hyn a'u rhoi nhw i'r brifysgol oedd Kate Bosse-Griffiths.
Yn Eifftolegydd o dras Iddewig symudodd i Gymru o'r Almaen lle'i ganed hi. Roedd hi'n gyfrifol am sicrhau bod eitemau a gymerwyd o'r Aifft yn cael cartref yn y lle cyntaf yn yr Adran Eifftoleg yn Abertawe, ac yna yn y ganolfan pan agorwyd hi ym 1998, ychydig wedi marwolaeth Kate Bosse-Griffiths.
Ond roedd ei mab, Heini Gruffudd, yno i ddathlu pen-blwydd y ganolfan ddydd Sadwrn. Ac roedd yn falch o weld bod plant a phobl ifanc yn cael eu haddysgu am yr hynafion hyn.
"Mae'n wych gweld gwaith llwyddiannus y ganolfan yn parhau, yn enwedig yng nghyd-destun ysgolion. Byddai Mam wrth ei bod yn gweld plant yn ymdrin â'r Aifft a'i hynafion fel hyn," meddai Heini.
Yn y dathliadau roedd pwyslais pendant ar y to iau wrth i'r staff gyfeirio'n aml at ymroddiad a brwdfrydedd y bobl ifanc sy'n gwirfoddoli yn y ganolfan. Mae gweithdai yn cael eu cynnal yno'n rheolaidd er mwyn i blant gael dysgu am y bywyd a fu drwy ymdrin â rhai o hynafion y ganolfan.
Ar y dydd, cyflwynwyd tystysgrifau i rai o'r gwirfoddolwyr am eu hymdrechion ar hyd y blynyddoedd. Felly, ar ddiwrnod dathlu carreg filltir i'r ganolfan, roedd yna gyfle i hel atgofion am rai o'r bobl sydd wedi cyfrannu at ei llwyddiant ac sydd wedi sicrhau bod gan blant a myfyrwyr Abertawe ganolfan y gallan nhw i gyd ymfalchïo ynddi. Pen-blwydd hapus iawn i Ganolfan Eifftaidd Abertawe!