BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Caerfyrddin

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Caerfyrddin
Oriel Myrddin. Llun trwy garedigrwydd Oreil Myrddin Oriel Myrddin
Ebrill 2007
Bu Adam James o Landysul yn ymweld ag Oriel Myrddin yng Nghaerfyrddin i weld yr arddangosfa gyntaf yno wedi i'r adeilad ail agor ar ei newydd wedd.

Mae Oriel Myrddin yn gyfleus. Mae'n gyfleus i bobl fel fi sydd bron bob tro yn parcio ym maes parcio San Pedr yng Nghaerfyrddin, ger yr eglwys. Gyda'r Spar 'lleol', y llyfrgell ac amryw o siopau; yr Oriel yw un o'r pethau cyntaf i'w weld wrth gerdded am ganol bywyd siopa'r dref.

Os ydych chi am fynd i gael 'topup' ar ddiwylliant yn hytrach na 'topup' ar eich ffôn yn y siop gyfagos, mae'r Oriel wedi ei lleoli yn berffaith. Yn y gorffennol, rydw i wastad wedi gweld yr arddangosfeydd yn ddiddorol ac yn chwilfrydig. Roeddwn i'n hapus iawn i weld arddangosfa o grysau - t 'howies' yno dros gyfnod yr haf yn 2006, ac mae'r oriel yn hoff iawn o gyfuno addysg i mewn i'r arddangosfeydd. Mae hyn yn rhoi siawns i bobl i ymrwymo'i hunain yn y gelf am brynhawn neu fore ac i siarad â phobl gyffredin tebyg iddyn nhw a gwrando ar ddarlithwyr, ymarferwyr a churaduron sydd, nid yn unig yn hoff ac yn falch o'r gwaith am bwy maen nhw'n sôn; ond yn byw ac yn anadlu holl naws y lle a'i ddarnau.

Ail agor ar ei newydd wedd - beth sydd wedi newid?
Mae'r oriel wedi cael ei ariannu'n yn ddiweddar i gael ailwampiad. Roedd yr oriel yn debyg i lawer o orielau eraill - gwyn, plaen, glân a ffres. Mae'r ffenestri mawr a'r nenfydau uchel o fudd i unrhyw gelf sy'n cael ei rhoi o fewn y gwagle arddangos. Dyna fel roeddwn i'n cofio'r oriel. Ac fel hynny mae'r oriel yn dal i sefyll, hyd y gwela i. Mae'n wyn, plaen, yn lân ac yn ffres - dim mwy na dim llai.

Mae'r ail lawr a fu yno wedi ei ddinistrio ac yn hytrach mae gennym ni ystafell fawr wen, plaen, glan a ffres - gwych! Ond oedd rhaid cau'r oriel am wythnosau i gyflawni hyn? Ac ar ben hynny, lle mae'r £100,000 o fuddsoddiad wedi ei wario? O beth rydw i'n cofio, yr un fath o loriau oedd yno, ac nid oes bron dim wedi newid ym mynedfa'r adeilad na'r ail ystafell. Mae'r ail ystafell yma nawr wedi ei droi'n siop. Siop sydd yn gwerthu da i ddim, yn fy marn i, heblaw am rhai cylchgronau.

Os ydych am brynu bowlen am £3,000 mae'r siop yn fendigedig, ond eto mae'r myfyriwr celf cyffredin a'r rhan fwyaf o ymwelwyr â'r Oriel yn llawer mwy tebygol o brynu carden bost o'r bowlen am 50c yn hytrach na'i phrynu i roi ar silff i gasglu llwch. Felly, pam symud y siop o un ardal o'r oriel i'r llall? Teimlaf fyddai'n well os fyddai'r siop wedi diflannu'n llwyr, a'i agor i fyny i arddangos fwy o gelf - y nodwedd sydd yn denu pobl yno yn y lle cyntaf wedi'r cwbl.

Yr arddangosfa
Y siom fwyaf i mi, oedd gweld yr un darn oedd wedi cael ei ddewis ar gyfer yr arddangosfa agoriadol. 'Neither from nor towards' oedd yr unig ddarn oedd i'w weld tan Ebrill 7, 2007. Crewyd y darn gan un o artistiaid amlycaf Prydain ar hyn o bryd - Cornelia Parker. Nid yw'r darn yma sydd heb ei arddangos yn aml iawn yn y gorffennol yn meddiannu ar unrhyw ysblennydd yn fy marn i, fel rhai o'i darnau cynt megis 'Cold Dark Matter: An exploded view' (darn a gafodd ei enwebu am wobr Turner ym 1997). Mae'r siapau hylifol a grëwyd gan y brics crog yn drawiadol ar yr olwg gyntaf oherwydd maint y darn a'r ddelweddaeth o gerrig trwm yn arnofio yn yr aer. Ond wrth gymryd ail edrychiad mae'r gwaith yn syml ac yn wag o unrhyw emosiwn ag unrhyw fwriad plaen.

Roedd yr arlunydd wedi darganfod y briciau ar waelod Clogwyni Gwynion Dover wedi iddynt syrthio i'r traeth islaw oherwydd erydiad arfordirol. Mae'r ail osodiad o'r cerrig yn y ffordd yma yn ddiddorol, ac yn cael ei weld yn farddol ac yn hynod anghyffredin gan nifer o bobl. Efallai mewn oriel gyda rhai darnau eraill byddai'r darn yn mynnu mwy o fy sylw. Mae'r ystafell ei hun yn ymddangos fel petai hi wedi ei hadeiladu ar gyfer y darn, gan ei fod yn ffitio'r gwagle'n berffaith. Efallai fy mod i'n sinigaidd gan fy mod i'n disgwyl fwy, wrth gofio am yr arddangosfeydd blaenorol.

Teimlaf y byddai'r darn gan Cornelia Parker yn gweithio'n well mewn oriel fwy o faint (y Tate er enghraifft) a fyddai'n mabwysiadu ar y ffigwr mawr heb broblemau ond hefyd yn fwy perthnasol o ran naws. Mae Caerfyrddin yn dref amaethyddol, ac nid yw darn o Lundain gan arlunydd Seisnig yn teimlo'n gywir yn y fath awyrgylch, yn fy marn i. Rhywbeth gan arlunydd lleol (adolwg o waith un o arlunwyr gorau Cymru efallai?) fyddai wedi bod yn llawer mwy perthnasol fel agoriad i wedd newid yr arddangosle.

Ni fydd Oriel Myrddin byth yn gallu cystadlu gyda'r Tate, neu'r Saatchi newydd sydd i'w agor yn haf 2007, oherwydd diffyg lle. Roedd yr adeilad ei hun yn gyn safle i Goleg Celf Caerfyrddin, fyddai o fudd i'r oriel i gofio ei wreiddiau mewn addysg, a'i arddangosfeydd teg o waith y crefftwyr ac arlunwyr sydd yn byw yn ein plith ni yn yr ardal leol. Ni ddylai'r oriel barhau gyda'i hudoliaeth newydd gydag arlunwyr fel Parker a'i pherthynas gyda'r Hayward Gallery yn Llundain, yn fy marn i.

Yn ardal Caerfyrddin y mae cyfrifoldeb yr oriel yn gorwedd, ac nid gydag arlunwyr gor amlwg y byd celf gyffredin. Mae arlunwyr mawr y byd, rhai'r gorffennol a phresennol yn cael sylw mawr gan orielau amlwg megis yr Oriel Genedlaethol a'r Tate - ac mae hynny'n deilwng. Credaf bod yn rhaid i orielau bach fel y Myrddin ganolbwyntio ar ddarganfod ac arddangos gwaith ymarferwr sydd ddim yn amlwg yn llygaid y cyhoedd.

Mae arddangosfa 'Llif', sydd yn yr oriel rhwng Mehefin 30 a Medi 8 yn 'ddathliad o waith pedwar ar ddeg o wneuthurwyr crefftau sydd â chysylltiadau agos a Chymru...' yn ôl y bamffled. Tan hynny bydd rhaid aros i weld a fydd yr oriel yn gweithredu ar ei swyddogaeth fel arloesydd o waith gwreiddiol lleol. Bydd arddangosfa 'Llif' yn cael ei ddangos am wythnos o'i gymharu â'r 5 wythnos o gerrig crog yr arlunydd Cornelia Parker - gobeithio na fydd hyn yn rywbeth a ddigwyddir eto.

Adam James o Landysul

Cyhoeddwyd yr erthygl hon fel rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng BBC Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.


Cyfrannwch

Becca o Gaerfyrddin
Pryd es i i Oriel myrddin roedd yr arddangosfeydd yn wych!Oriel myrddin yw'r Oriel gorau dwi byth wedi bod yno!


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Peidiwch â datgelu eich cyfenw os ydych o dan 16 oed.
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.



Bach o Bopeth
Trefi
Lluniau
Digwyddiadau


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy