BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Dyffryn Tywi Crwydro Dinefwr
Mehefin 2007
Fel Cardi sydd wedi symud i'r ardal ac sydd wedi ymgartrefu yma ers bron i bymtheg mlynedd ni allaf wadu i mi gael fy hudo'n llwyr gan Fro Dinefwr.
Gorwedd yr ardal brydferth hon yng nghysgod mynydd Du Bannau Brycheiniog i'r dwyrain a Mynyddoedd y Cambrian i'r Gogledd. Dyma ardal sy'n nefoedd i gerddwyr, naturiaethwyr, pysgotwyr ac ymwelwyr fel ei gilydd. Ond i mi, mae Dinefwr yn fy hudo oherwydd ei bod yn llawn hen, hen hanes - o fwyngloddiau aur y Rhufeiniaid yn Nolaucothi i fryngaer Garn Goch a saif fry uwchben pentref bychan Bethlehem, o lwybrau treuliedig y Porthmyn i gestyll cadarn tywysogion y Deheubarth.

Mae Dinefwr yn ardal sy'n cynnig amrywiaeth o olygfeydd a deuoliaeth ryfedd o ran ei hanes - dyma ardal a ymwelwyd â hi gan nifer o saint-genhadon cynnar megis Sant Teilo un o gyfoedion Dewi Sant ond eto does dim dianc chwaith rhag hanes y brwydrau canol oesol gwaedlyd yng nghestyll cyfagos megis Dryslwyn.

Hoffwn feddwl bod croeso llawer iawn mwy gwaraidd yn disgwyl ymwelwyr â Dinefwr heddiw a charem estyn croeso cynnes iawn i'r rhai ohonoch sy'n mynychu Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Caerfyrddin i ymweld â'r ardal odidog hon yn ystod wythnos y brifwyl os am hoe rhag yr holl gystadlu brwd. Yn ddi-os mae yma lu o deithiau i chi eu mwynhau ym Mro Dinefwr - felly beth amdani? Dewch i "Eden y Deheudir" -

"Y fro mae'r droed am oedi
Ar ei hynt trwy'i herwau hi". (T.M. Thomas)

Gwibdaith yn y car - ardal Llanymddyfri
Mae fy nhaith yn cychwyn fry uwchben Llanymddyfri, yn ardal hyfryd Rhandirmwyn. Nepell o darddiad yr afon Tywi ynghanol anialdir mynyddoedd y Cambrian y dewch o hyd i gronfa ddŵr Llyn Brianne. Er bod teimladau cymysg iawn yng Nghymru am foddi cymoedd a dyffrynnoedd er mwyn cyflenwi dŵr domestig, wrth edrych ar harddwch naturiol Llyn Brianne a gweld y bywyd gwyllt o'ch amgylch gallech feddwl bod y llyn wedi bod yno erioed. Gallwch barcio'r car yn y maes parcio bychan a cherdded dros wal yr argae gan edrych i lawr ar y rhaeadr ddŵr fodern ysblennydd islaw.

I'r rhai mwy heini yn eich plith mae modd cerdded o Fforest y Tywi ac heibio i nifer o hen ffyrdd y Porthmyn i'r gogledd o'r Llyn i lawr dros y mynydd i gartref fy nheulu i sef Ystrad Fflur. Ond i'r rhai llai uchelgeisiol yn eich plith mae'n braf eistedd ar lan y llyn gyda phicnic a gwerthfawrogi'r adar gwyllt (yn cynnwys y barcud) a'r llonyddwch anhygoel. Rhyw ddydd ofnaf y bydd cyfarwyddwr hysbyseb car neu gyfarwyddwr ffilm James Bond yn darganfod y lle a bydd y llonyddwch yn diflannu am byth.

O lyn Brianne, rhaid pwyntio trwyn y car i gyfeiriad Llanymddyfri gan basio heibio i warchodfa Natur yr RSPB yn Dinas a Chapel bychan St Paulinus, Ystrad Ffin. Yn ôl yr hanes priododd y lleidr pen-ffordd a'r arwr Cymreig Twm Sion Cati gweddw Thomas Rhys Williams, Fferm Ystrad Ffin gerllaw. Oddi yma gallwch gerdded i ogof Twm lle y byddai'n cuddio ei ysbail a chuddio rhag ei elynion. Lleolir ogof Twm ar fryn Dinas ar dir gwarchodfa'r RSPB (cyfeirnod grid SN780468 ar y map).

Ymlaen wedyn heibio i bentref gwasgaredig a hardd Rhandirmwyn gan yrru ymlaen am Lanymddyfri. Byddem yn argymell eich bod yn taro golwg sydyn ar bont hynafol Dolau Hirion ar y ffordd os yw amser yn caniatau.

Ar gyrraedd Llanymddyfri, bydd gofyn i chi droi i'r chwith (am Lanelwedd) cyn troi'n sydyn i'r chwith eto wrth ymyl Ysbyty Llanymddyfri a dringo i fyny i Eglwys Llanfair ar y Bryn. Dyma un o fannau harddaf Llanymddyfri a gallwch edrych i lawr ar y gwastadedd ir o'ch cwmpas. Dyma le mae bedd y Ficer Pritchard, awdur Canwyll y Cymry. Protestant pybyr oedd y Ficer ac roedd dysgeidiaeth y Pab yn wrthun ganddo. Cymaint oedd llwyddiant y gyfrol Cannwyll y Cymry fel y daeth 52 argraffiad o'r wasg cyn 1820. Ym mynwent yr Eglwys hon saif colofn goffa i un arall o fawrion Llanymddyfri sef William Williams, Pantycelyn. Yn ystod ei oes ysgrifennodd bron i 1,000 o emynau ac erys nifer ohonynt yr un mor boblogaidd heddiw (hyd yn oed mewn lleoliadau eithaf annhebygol fel meysydd rygbi!). Tanlinellir pwysigrwydd y ddau wron i'r dref gan i'r ddwy ysgol leol gael eu henwi yn Ysgol Rhys Prichard ac Ysgol Pantycelyn.

I orffen y daith gyrrwch ymlaen i ganol y dref gan barcio yn y maes parcio yng nghysgod Castell Llanymddyfri. Cyn dringo i fyny'r llwybr serth i'r castell cofiwch daro i mewn i'r ganolfan treftadaeth gerllaw, pe bai ond i weld y cerflun efydd o'r porthmon sy'n sefyll yn falch tu allan. Mae hanes y porthmyn yn frith ledled yr ardal hon - ond yn fwy diweddar Porthmyn tra gwahanol sydd wedi dod â bri i'r dref - sef y tîm rygbi. Ar ddydd Sadwrn 28 Ebrill eleni cipiodd tîm y Porthmyn fuddugoliaeth hanesyddol wrth ennill gêm derfynol Cwpan Konika ac yn ôl y sôn mae'r dathlu yn parhau.

Cofeb LlywelynWrth anelu am y castell fe gewch eich hudo gan gerflun arall bendigedig sy'n disgleirio'n urddasol yng ngolau'r haul. Yma gorffen fy nhaith - ni all unrhyw un adael y dref heb weld y cerflun dur gloyw 16 troedfedd bendigedig yma sy'n coffau yr arwr Llywelyn ap Gruffudd Fychan. Cerflun weddol ddiweddar yw hwn a welodd olau dydd diolch i ymdrechion arbennig Pwyllgor Coffa Llywelyn ap Gruffydd Fychan, a saernïaeth a chynllunio medrus y ddau frawd Toby a Gideon Petersen o San Clêr.

Nid yw hanes Llywelyn ap Gruffydd Fychan mor gyfarwydd i ni efallai a nifer o'i gyfoedion megis Owain Glyndŵr ond bu ei gyfraniad yntau yn un uchelwrol a dewr dros ben. Pan drechodd Owain Glyndŵr byddin Harri 1V yn Hyddgen yn haf 1401, ymatebodd Harri drwy arwain byddin anferth o Gaerwrangon i gipio Owain a cheisio dod â'r rhyfel i ben ar unwaith.

Cyrhaeddodd ardal Llanymddyfri a gorfodi Llywelyn ap Gruffydd Fychan, tirfeddiannwr o Gaeo i'w wasanaethu a cheisio dod o hyd i Glyndŵr. Ychydig a wyddai Harri bod dau fab Llywelyn yn ymladd ym myddin Glyndŵr ac na fyddai Llywelyn byth yn bradychu ei wlad, ei deulu na'i Dywysog.

Arweiniodd frenin Lloegr ar hyd ucheldir y Deheubarth ar drywydd cyfeiliornus i roi cyfle i Owain ddianc a chryfhau ei achos ymhellach. Yn y diwedd, collodd Harri ei amynedd a bu'n rhaid i Llywelyn gyfaddef y gwir - sef ei fod yn deyrngar i Owain ac i Gymru. Roedd Harri o'i gof a gorchymynnodd bod Llywelyn yn cael ei lusgo i Lanymddyfri lle cafodd ei ddiberfeddu a'i dynnu'n bedwar aelod a phen yn gyhoeddus wrth y crocbren o flaen pyrth y castell. Dioddefodd am oriau cyn marw. Halltiwyd ei weddillion a'u danfon i drefi eraill yng Nghymru fel rhybudd i eraill. Yn eironig, ni phallodd y gefnogaeth i Glyndŵr ac er i'w ryfel am annibyniaeth fethu yn y diwedd, ni chafodd ei ddal na'i fradychu. Arwr tawel a dewr oedd Llywelyn ap Gruffydd Fychan sy'n llawn teilyngu'r cerflun hardd.

Da chi, peidiwch a gadael Llanymddyfri heb weld y gofeb "sy'n crisialu'r ysbryd sydd wedi cynnal Cenedl y Cymry hyd heddiw ac sydd wedi galluogi'r Cymry, eu diwylliant a'u hiaith i oroesi er gwaethaf yr holl fygythiadau i'w bodolaeth"... MVJ (gan ddiolch yn arbennig i Rhobert ap Steffan am y wybodaeth am Llywelyn ap Gruffydd Fychan).

Dewch am dro i weld rhai o ogoneddau hanesyddol Dinefwr.
Beth am gychwyn yn Nhalyllychau a chael golwg ar yr Abaty sefydlwyd gan yr Arglwydd Rhys ar gyfer Urdd y Premonstratensiaid rhwng 1184 a 1189. Mae rhannau o gapel yr abaty wedi goroesi. Cerddwch trwy'r fynwent, y gat ac allan i'r cae ac o amgylch y llyn hyfryd gyda'r elyrch. Ewch i ddiwedd y llwybr i mewn i'r goedwig - ceisiwch gael gafael yn olion yr hen gastell mot a beili cyn ymlwybro trwy'r coed i'r cwt gwylio adar y llyn pellaf.

Nesaf draw i bentref Bethlehem a dilyn yr arwyddion am fryngaer Garn Goch. Dyma fryngaer oes haearn mwyaf Sir Gâr. Parciwch y car ger y llwybr isaf a cherdded i fyny heibio i gofeb Gwynfor ac i'r gaer isaf. Oedwch i edrych ar amddiffynfeydd y gaer uwchben a rhyfeddu at allu ein cyndeidiau i adeiladu gwrthgloddiau cerrig 20 troedfedd o uchder ac o led. Wedi cyrraedd y gaer cewch gyfle i gael gafael yn eich gwynt cyn ei golli eto wrth syllu ar yr olygfa odidog o ddyffryn Tywi'n ymestyn o Landeilo i Lanymddyfri. Mae i'r gaer arwynebedd o 29 erw a thystiolaeth bod pobl wedi byw ar y safle o'r Oes Efydd (2000-14000C). Yn ystod yr Oes Haearn (5000C tan amser y Rhufeiniaid) roedd y Gaer ar y ffin rhwng ardal llwyth Celtaidd y Silures (De Cymru rhwng yr Hafren a Thywi) a llwyth y Demetiae drigai yn y gaer a'u tiroedd yng ngorllewin Cymru.

Nawr draw ar yr heol gefn o Garn Goch i bentref Trap ac ar y graig uwchben fe welwch un o gestyll mwyaf trawiadol Cymru - Carreg Cennen. Mae'n debyg taw'r Arglwydd Rhys adeiladodd y gastell gyntaf a fu ym meddiant y teulu tan i Edward I ei chipio tua 1277. Mae'r adeiladau presennol o'r cyfnod hynny. Fe fu'r castell dan warchae gan Owain Glyndŵr yn 1403 pan ddinistrwyd llawer o'r adeiladwaith. Mae sawl hanes i'r lle - tybiwyd mai Urien Rheged, un o arglwyddi'r Brenin Arthur, oedd perchennog cyntaf y safle a'i fod yn dal i gysgu o dan y castell yn disgwyl galwad i'r gad gan ei gyd¬ Gymry. Cofiwch fynd i weld yr ogof sydd yng nghrombil y castell ond, cofiwch beidio deffro Urien!

Felly nôl i Landeilo ac wedyn yr hen heol i Gaerfyrddin. Heibio i blas Gelli Aur adeiladwyd gan deulu Cawdor rhwng 1827 a 1832. Mae'n werth oedi i weld yr ardd goed blannwyd yn yr 1860au. Fe welwch hefyd, yn y pellter, ffolineb Tŵr Paxton adeiladwyd tua 1815 i goffau Nelson. Mae'r olygfa o'r fan hon yn fendigedig hefyd. A beth am ddiweddu'r daith yng Nghastell Dryslwyn saif ar fryn yng nghanol y dyffryn. Mae'n debyg taw'r Arglwydd Rhys eto fu'n gyfrifol am adeiladu'r castell gyntaf ac fe fu'n ganolfan bwysig ac, o bosib, yn llys ar gyfer arglwyddiaeth Cantref Mawr. Erbyn diwedd y drydedd ganrif ar ddeg Dryslwyn oedd castell mwyaf y Cymry yn Ne Cymru. Fe fu olion tref canol oesol yn rhan o'r castell hefyd.

O gopa'r bryn fe welwch bod y castell mewn man strategol bwysig i'r dyffryn a fu'n ganolbwynt gwaedlyd yn yr ymladd rhwng Llywelyn ap Gruffudd ac Edward. Yn y pellter gallwch weld castell Dinefwr, ac ar ddiwrnod clir iawn, Carreg Cennen.

Euros Owen

  • Mwy am yr ardal.
  • Gwefan tref Llandeilo.
  • Llwybrau Plas Dinefwr.

  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

    Sylw:




    Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


    0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy