BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Twr Paxton Y Lecsiwn Fawr
Gorffennaf 2002
Rhwng mis Mawrth a mis Gorffennaf ddau gan mlynedd yn ôl i eleni, yr oedd tref Llandeilo a'r cyffiniau yng nghanol bwrlwm etholiad.
Yr oedd y cyfnod hwn ym 1802 yn un a fyddai'n cael ei gofio o ganlyniad i enwogrwydd y collwr na lwyddodd i gynrychioli ei Sir yn y Senedd.

O'i gymharu â difaterwch ein dyddiau ni adeg etholiad a sbloet etholiadau'r gorffennol, yr oedd y "Lecsiwn Fawr" yma yn nodedig am ei gormodedd.

Digon o hwyl a sbri
Yn y cyfnod o dan sylw, hwyl a sbri, yn debyg iawn i fwynhad ar adeg gwyliau tymhorol, oedd i'w weld adeg etholiad. Nid oedd yr elfen boliticaidd yn cyfrif fawr ddim oherwydd natur y Senedd ar y pryd. Roedd yr etholwyr yn disgwyl elwa o'r achlysur yn ariannol neu'n faterol.

Yr oedd Syr James Hamlyn, Rhydodin, wedi rhoi'r gorau i'w swydd fel Aelod Seneddol dros Sir Gaerfyrddin wedi iddo gynrychioli'r Torïaid ers 1793, a phenderfynodd ei fab Syr James Hamlyn Williams sefyll am y sedd honno.

Ei wrthwynebydd ar ran y Chwigiaid oedd William Paxton, banciwr o Lundain a oedd wedi gwneud ei ffortiwn yn yr India ac wedi prynu stad Middleton lle mae'r ardd Fotaneg yn awr.

Felly roedd dau deulu cefnog yn ymladd am y bleidlais.

Mynd dros ben llestri
Ar ddechrau'r 19eg ganrif nid oedd terfyn ar y swm y gellid ei wario ar ymgyrch etholiadol ac felly roedd modd mynd dros ben llestri go iawn. A dyna a ddigwyddodd. Cafodd yr etholwyr eu swcro ymhob ffordd bosib.

Dechreuodd y canfasio tua mis Mawrth 1802. Yn ôl yr hyn a gofnodwyd yr oedd ymddygiad y cyhoedd yn frawychus a thrais y ddwy blaid yn beryglus. Yn ôl papur y Times, "The most violent contest ever remembered here."

Dros gyfnod y canfasio o ryw bedwar mis, cadwyd y tafarndai yn agored â'r cyhoedd yn yfed a bwyta ar draul y ddau ymgeisydd.

Dechreuwyd pleidleisio ar 17 Gorffennaf a chodwyd chwe stondin i'r pleidleiswyr ac un i'r siryf ym mynwent yr Eglwys. Cafodd y cyhoedd 15 niwrnod i fwrw eu pleidlais.

Diffyg pleidleiswyr
Wedi pythefnos sylwyd nad oedd llawer wedi trafferthu pleidleisio. A pha ryfedd! Yr oedd y bwyd a'r diod yn dal i lifo o fore gwyn tan nos. Aeth y siryf ati a gorfodi'r bobol i bleidleisio a hynny mewn grwpiau o ddwsin.

Cyhoeddwyd canlyniad yr etholiad yn nhre Llandeilo. Dyna oedd yr arfer hyd nes sefydlu'r Cyngor Sir ar ddiwedd y 19eg ganrif a chanoli popeth yn nhref Caerfyrddin.

A'r canlyniad: Williams 1217 pleidlais, Paxton 1110. Cynhyrfwyd y dorf a mynnwyd cadeirio'r ddau ymgeisydd.

Erbyn diwedd yr ymgyrch yr oedd Paxton wedi gwario £15,690 ar 2,500 o etholwyr. Yr oedd wedi talu am 11,070 brecwast, 36,901 cinio, 684 swper, 25,275 galwyn o gwrw. 11,068 o boteli gwirodydd, 8,879 o gwrw du, 460 potel o sieri, 509 potel o seidr a gwerth £18-18-0 o bwnsh. Talodd £4,521 am logi ceffylau a £786 am rubanau.

Troi ei gefn
Hefyd addawodd godi pont newydd ar draws y Tywi ond wedi gwario'r holl arian, anghofiwyd am y fenter honno a throdd ei gefn hyd yn oed ar ei gefnogwyr mwyaf brwd. Ond ymhen hir a hwyr yn ôl y daeth a llwyddo i gynrychioli'r Sir ym 1806.

A'r twr? Y farn boblogaidd yw mai ffolineb Paxton oedd iddo godi'r twr ym mhen pellaf tiroedd Middleton yn edrych i lawr ar bentref Llanarthne, yn rhannol oherwydd iddo golli'r lecsiwn.

Ond ni chodwyd y twr tan 1806 a hynny flwyddyn wedi buddugoliaeth Nelson ym mrwydr Traffalgar. Ac fel y soniwyd eisoes yr oedd y flwyddyn honno yn flwyddyn fawr iddo.

Erthygl gan Len Richards


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy