BBC HomeExplore the BBC

GWENER
25ain Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Lloffwr
Gwobr Bydwraig Cymru 2007
Tachwedd 2007
Llongyfarchiadau mawr i Anwen Burge-Williams, sydd wedi derbyn yr anrhydedd o gael ei dewis i fod yn Fydwraig Cymru am y flwyddyn.

Mae'n gweithio yn Ysbyty Llwynhelyg, yn ferch i Capten Chris a Mrs Rhuddian Burge, Abergwaun, ac nid oedd un syniad ganddi ei bod wedi cael ei noddi am y wobr yma.

Gwraig a fu o dan ei gofal pan yn feichiog oedd Mrs. Buffy Roberts, Aberdaugleddau. Roedd Buffy mor ddiolchgar i Anwen am y cymorth a gafodd ar enedigaeth ei mab Jack, pan gorfu hi gael llawdriniaeth cyn iddo ddod i'r byd, felly pan welodd gyfeiriad mewn rhyw bapur am nodi'r Fydwraig orau yn y wlad, rhoddodd enw Anwen ymlaen.

Cafodd y seremoni anrhegu ei chynnal yn Huddersfield, pan bu Ben Cohen, chwaraewr rygbi yn ei anrhegu â'i gwobr - Mamas a Papas BydWraig Cymru am y Flwyddyn. Roedd Mr. Cohen wedi dewis rhoi'r clod iddi, ar ôl genedigaeth ei efeilliaid - dwy ferch. Cafodd Anwen ddiwrnod i gofio yno.

Roedd Anwen hefyd yn un o naw ymgeisydd yn y prawf terfynol, allan o'r wlad i gyd, ond yn anffodus ni chipiodd y fraint yno, ond mae'n hapus dros ben ei bod wedi ennill y wobr yma, Bydwraig Cymru am 2007, a r'yn ni gyd yn ei llongyfarch yn wresog iawn. Da iawn Anwen - i chi'n haeddu'r clod.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Peidiwch â datgelu eich cyfenw os ydych o dan 16 oed.
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy