BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Lloffwr
Llong Llongau Abergwaun
Mehefin 2003
'Does dim dwy waith fod llongau Cunard wedi chwarae rhan bwysig iawn yn natblygiad yr harbwr a'r adnoddau yn Abergwaun. Hon oedd y cwmni llongau gyda'r statws uchaf ym Mhrydain Fawr ar y pryd, a tua chan mlynedd yn ôl, 'roedd yna fygythiad y byddai rhai o gwmnïoedd mawr America am brynu'r cwmni yma.

'Roedd y llywodraeth yn y wlad hon yr un mor benderfynol na ddylai hyn ddigwydd. Credir y byddai Prydain Fawr yn colli ei statws yn y byd pe bae hyn yn digwydd, ac i sicrhau ei bod yn aros yn gwmni Brydeinig, cytunodd y llywodraeth i fenthyca £2,600,000 iddynt ar raddfa manteisiol o log (2.5%) am 20 mlynedd ar yr amod na fyddai'r cwmni yn cael ei werthu tu allan i'r wlad hon. Pwrpas yr arian oedd er mwyn adeiladu dwy long newydd.

Tua chan mlynedd yn ôl, bu ras ddifrifol i weld pwy oedd yn galled croesi'r Môr lwerydd yn yr amser cyflyma, ac ar ddechrau'r ganrif ddiwethaf, daliwyd y record hon (The Blue Riband) gan long o'r enw Kaiser Wilhelm der Grosse II o'r Almaen, (rhywbeth tebyg i'r Rhuban Glas yn ein Eisteddfodau.)

Fe welodd y Cunard eu cyfle i adeiladu llong i gystadlu yn y ras yma, ac ym mis Mai, 1905 gosodwyd y 'rivet' gyntaf yn sail y llong newydd gan yr Arglwydd Inverclyde - cadeirydd yr iard Longau John Brown yng Nglasgow.

Yn drist ni welodd ei long yn mynd i'r dwr oherwydd bu farw wyth mis yn ddiweddarach.

Gorffennwyd corff y llong mewn 12 mis, a lansiwyd hi ar 7fed o Fehefin 1906 gan Mary -gwidw y Cadeirydd, ac enwyd hi y Lusitania. Yna gwariwyd 12 mis arall i'w ffitio a'i gorffen. 'Roedd y llong yn 790 o drodfeddu o hyd (hyd dau a hanner cae pêl droed, 88 troedfedd o led a'i uchder bron yn drugain troedfedd. 'Roedd ei phwysau yn fwy na deg ar hugain o filoedd o dunelli, a'i chyflymdra bron yn 30 milltir yr awr, llawer yn gyflymach nag unrhyw long arall oedd ganddynt.

At 27ain o Orffennaf 1907, cynhaliwyd treialon ar y môr, a gwahoddwyd nifer i deithio arni. Yn ystod y treialon hyn, teimlwyd tipyn o vibrations ar y llong, ac felly ymnerthwyd rhannau ohoni cyn cael gwared ar y cryndod annerbyniol yma. Rhoddwyd y llong i fewn i wasanaeth ar 7fed o Fedi 1907, ond rhaid aros mis arall cyn iddi ennill y Blue Riband gyda chyflymdra o tua 27 m.y.a.

Yn y cyswllt lleol, fe glywn llawer mwy am ei chwaer, y Mauretania efallai achos mai hi oedd y llong fawr gyntaf i ymweld â phorthladd Abergwaun ac achos, hi yn y diwedd, oedd yn dal y Rhuban Glas, a hyn am fwy nag ugain mlynedd. Rhaid cofio fodd bynnag fod y Lusitania yn galw yr un mor amal â'r Mauretania, ac felly yn haeddu'r un clod.

Ar ddechrau'r ail ddegawd o'r ganrif ddiwethaf fodd bynnag, gwelwyd cymylau tywyll y rhyfel byd cyntaf yn dechrau ymgasglu. Ar 4ydd o Awst, 1914 dechreuodd y rhyfel gan yr Almaeniaid.

Defnyddiwyd y Llynges Brydeinig i rwystro adnoddau rhag cyrraedd yr Almaen o'r môr. Yn eu tro gosodwyd llongau tanforol o gwmpas yr arfordir gorllewinol o'r wlad hon gan yr Almaenwyr, hyn yn fygythiad i bob llong a fu'n mordeithio i'r wlad hon.

Ar laf o Fai 1915, fe hwyliodd y Lusitunia o Efrog Newydd, a'r tebyg yw y byddai wedi galw yn Abergwaun ar ei ffordd i Lerpwl. Ar y 7fed o Fai, amser oedd hi rhyw 15 milltir o Queenstown (Iwerddon) taniwyd torpedo ati gan long danforol Almaenig, ac o fewn hanner awr, suddwyd un o longau prydferthaf a chyflymaf y byd. Allan o tua dwy fil o bobl ar ei bwrdd, collwyd 1198 o deithwyr ac o'r criw. 'Roedd nifer o'r rhain yn wragedd a phlant. Dywedwyd gan yr Almaenwyr fod y llong yn cario adnoddau ffrwydrol, ac mae yna rhywfaint o dystiolaeth i gefnogi'r cyhuddiad hwn. Pe tae yn gwneud hyn byddai yn torri'r rheolau rhyfela, ond gwadu hyn a wnaeth y llywodraeth Brydeinig.

Martin Lewis


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy