BBC HomeExplore the BBC
Nid yw'r dudalen hon wedi ei diweddaru ers tipynFe'i gadawyd yma er gwybodaeth.Rhagor o wybodaeth

IAU
21ain Awst 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Lloffwr
Llong Golwg ar y ganrif gynt
Medi 2003
Ni fyddaf byth yn blino ar glywed am hanesion yr R.M.S. Mauretania, ac ar ddiwedd mis Awst pob blwyddyn, bydd fy meddyliau yn troi at yr hen long yma.

Tua'r amser hyn, bron i gan mlynedd yn ôl, gosodwyd keel y llong, yn iard Swan Hunter a Wigham Richardson yn Wallsend wrth ochr yr afon Tyne yng Ngogledd Lloegr.

Hyd at 1897, y Cunard Line oedd deiliaid y Ruban Glas, am groesi Môr yr Iwerydd yn yr amser cyflymaf, a dwy o'i llongau - sef y Campania a'r Lucania oedd yn gyfrifol am hyn. Erbyn 1902 fodd bynnag, collwyd hi i'r Almaenwyr gyda'u llong, y Kaiser Wilhelm dêr Grosse.

Nid oedd y Llywodraeth yn y wlad hon yn hapus am yr hyn a welsant fel colled statws ym myd y môr, ac yr oedd hwn yn ddylanwad sylweddol ar eu penderfyniad i fenthyca £2.6 miliwn i'r Cunard er mwyn eu galluogi i adeiladu dwy long newydd a fyddai â'r gallu i gipio nôl y wobr anrhydeddus hon. Yn ychwanegol at hyn, cytunodd y Llywodraeth i'w cynorthwyo i gynnal y ddwy long gyda rhodd o £150,000 y flwyddyn.

'Roedd yna ddau amod fodd bynnag,- y cyntaf oedd : (a) byddai rhaid adeiladu'r llongau fel y gellir defnyddio arfau arnynt,
a (b) byddai'r ddwy long yn rhan o eiddo y Llywodraeth petasai sefyllfa o argyfwng yn codi. Rhaid felly bod y Llywodraeth wedi rhagweld y pos: biliad o ryfela mwy na degawd cyn y rhyfel byd cyntaf.

Fe aeth yr adeiladu yn ei flaen a gosodwyd gwaelod y llong ym 1904. Lansiwyd hi ar yr 20fed o Fedi 1906,- 97 o flynyddoedd yn ôl ac enwyd hi y Duchess of Roxburghe. Cymerwyd rhyw flwyddyn arall i'w ffitio. Yna, cynhaliwyd treialon ar y môr ac fe aeth pob peth hyd yn oed yn well na'r disgwyl. Dechreuodd y fordaith gyntaf ar y 15fed o Dachwedd 1907, a serch y niwl trwchus a stormydd ofnadwy, fe gyrhaeddodd y llong fawr Efrog Newydd chwe dydd yn ddiweddarach ar yr 22ain o Dachwedd.

Ym mis Mai 1908, meddyliwyd bod sgriw (propeller) y llong wedi taro rhywbeth o dan y dwr, ac wrth ei chynnal yn y doc sych, manteisiwyd ar y cyfle i addasu'r ddwy sgriw fewnol (roedd yna bedair ar y llong) au gwneud yn fwy o faint, a rhoi un llafn ychwanegol arnynt. Erbyn hyn, roedd y Mauretania rhyw fymryn yn gyflymach na'i chwaer, y Lusitania, ac nid rhyfedd felly fod y Mauretania wedi cipio'r Ruban Glas yn y ddau gyfeiriad,- gwobr yr oedd i'w dal am yr ugain mlynedd nesaf.

Serch y ffaith mai y Mauretania oedd y llong mwyaf ei maint, uchaf ei chyflymdra, a mwyaf swmpus a moethus eu safonau, galw wnaeth y cyhoedd am fodd o deithio a fyddai'n hyd yn oed yn gyflymach. Nid ymarferol oedd cynllunio llong arall ar hynny o bryd, ond fe welodd y Great Western Railway (GWR) eu cyfle. Mewn trafodaeth gyda chwmni Cunard, awgrymodd y GWR petasai'r llongau yn galw yn Abergwaun, byddai'r teithwyr yn galled glanio yno, a dal trenau i Lundain a'r cyfandir ac yna ennill dydd o amser,- rhywbeth pwysig i ddynion busnes,- wedi'r cyfan 'roeddem wedi mwynhau rhyw bump dydd o foethusrwydd wrth groesi'r môr mawr.

Ac felly y bu. Y Mauretania oedd y llong fawr gyntaf i alw yn Abergwaun. Dychmygwch petasai'r QE II yn galw yn Abergwaun heddiw ! Tair blynedd i'r dydd, ar ôl agoriad yr harbwr newydd yn Abergwaun (30ain Awst 1909) galwodd y llong fwyaf yn y byd yn y porthladd. 'Roedd yn rhy fawr i ddod i fewn i'r harbwr, ac yna cludwyd teithwyr ar tenders i fewn i'r cei. Fe droeodd miloedd allan i'w gweld, gyda phawb wedi gwisgo yn eu dillad gorau. Bu partïoedd derbyn, o fenywod ar y cei, pob un ohonynt yn gwisgo'r wisg genedlaethol a'r GWR yn rhedeg trenau i Lundain mewn llai na pum awr. Gobaith pawb oedd y byddai Abergwaun ac Wdig i fod yn un o borthladdoedd pwysicaf Prydain Fawr, ond nid oedd hyn i fod.

Martin Lewis


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy