 |
 |
'Roedd yna nifer o ddiwydiannau yn gweithio o fewn y ganllath sgwâr i lawr o'r bont. Hawdd hefyd byddai cymeryd yn ganiataol fod y bont wedi ei lleoli lle mae nawr, ac ei bod wedi bod yno ers canrifoedd lawer o flynyddoedd - ond anghywir byddai hyn. Tua pum can mlynedd yn ôl 'roedd Trefdraeth yn un o'r trefydd pwysicaf yn y wlad - llawer iawn yn bwysicach nag Abergwaun, marchnad swmpus, porthladd pwysig a phrysur gyda llongau yn marchnata 'nôl ag ymlaen o Drefdraeth i Fryste -mewnforio glo a chwlwm, cerrig calch - a'r maes amaethyddol yn llewyrchu yng nghefn gwlad o gwmpas y dre. Hyd at ddiwedd y pymthegfed ganrif, mae'r hanesydd George Owen o Henllys yn sôn fod pont wedi ei adeiladu yn agos i'r lleoliad presennol gyda chwech arch iddi, a'r tebyg yw ei bod wedi ei gwneud o bren. Tua'r adeg yma, dyma'r sweating sickness yn bwrw'r dref. Fe laniodd y clefyd yn Aberdaugleddau yn 1483 a dywedwyd ar y pryd fod y clefyd yn effeithio ar y Saeson yn unig ond erbyn cyrraedd Trefdraeth, 'roedd y clefyd yn ddi-drugaredd. Bu farw dwsinau o drigolion Trefdraeth, a cnociwyd ei chalon allan o'r dref. Meddyliodd trigolion Trefdraeth fod y clefyd difrifol yma wedi dod i'r dref o'r Morfa, ac er mwyn rheoli gwasgariad y clefyd, difwyd y bont, ac am rhyw bedwar can mlynedd, bu Trefdraeth heb bont. Yr unig ffordd i groesi'r afon oedd ar y stepping stones a osodwyd rhyw hanner canllath ochr ucha'r bont (ac maent i'w gweld yno hyd at heddiw), neu ar y fferi a rheolwyd gan nifer o fenywod. Am flynyddoedd rheolwyd y fferi gan Mali'r Cwch, ac yna gan Mam a'i merch Elizabeth a Hannah Davies, nes agor y bont newydd tua 1893. Os edrychwn ar fapiau'r Ordnance Survey am y flwyddyn 1888, fe welwn mai dim ond rhyd sydd yn cael ei ddangos yma ar yr adeg hyn.
 |
 |
 |
 |
 |
Mae'r stori drist yn cael ei adrodd o dro i dro am John Laugharne, un o weithwyr bu'n gweithio ar y fferm, Berry Hill. Gorchmynwyd ef rhyw ddydd i fynd â cart a cheffylau i Harbwr Abergwaun i nôl adnoddau ar y fferm. Rhaid cofio yr adeg hynny, 'roedd y porthladd yn y cwm yn Abergwaun. Bu rhaid amseru ei daith fel y byddai'r llanw allan, a'r cerbyd yn galled croesi'r afon yn ddiogel. Fe aeth pob peth yn iawn, ond ar ei ffordd yn ôl o Abergwaun, penderfynodd John Laugharne dorri ei syched yn y Llew Aur. Bu'n mwynhau'r cwmni a'r cwrw cyn ail ddechrau ei daith yn ôl i'r fferm. Erbyn hyn, roedd y llanw i fewn yn sylweddol, a'r dwr braidd yn ddwfn. Amser cyrhaeddodd yn ôl, dim ond y ceffylau a'r cart, a'r llwyth oedd i'w gweld,- dim sôn am John Laugharne, ac erbyn hyn, yr oedd yn dywyll. Y bore wedyn, amser aeth ei gyflogwyr i chwilio amdano, cawsant ei gorff wedi boddi wrth ymyl y dwr. 'Rwyn ddyledus i Mr. Wm. Lewis o'r Dinas am y stori honno. Fe sylweddolwyd fod gwir angen Pont newydd ar bobl Trefdraeth; ac fe aeth Dr.David Havard, y cynghorydd lleol (tad Dr. Dai) ati o ddifri. Amcangyfrifwyd y byddai'r bont yn costio tua £1,400. Ffurfiwyd Pwyllgor y Bont yn 1891, ac yna addawyd £566 o blwyf Nanhyfer, £148 o Drefdraeth, £20 o Drewyddel, gyda £169 o'r cylch cyfagos. Cyflwynwyd cais i'r Cyngor Sir gan Dr. Havard - cais am arian i fyny at £700 tuag at y gost, ac yn y diwedd cytunwyd ar y ffigwr yma. Adeiladwyd y bont gan y Meistri Clifford & Sampson Morgan o Hwlffordd gyda'r Meistri Pierson o Lundain yn gwneud y gwaith haearn. Danfonwyd yr haearn ar y rheilffordd, a cytunwyd y dylai'r gweithwyr gael 2 neu 3 peint o gwrw yr un ar ôl gorffen y gwaith. Yna agorwyd y bont ym 1893, bont oedd i bara ychydig dros gan mlynedd. Martin Lewis
 |
 |
 |
 |
|

|