BBC HomeExplore the BBC

IAU
31ain Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Lloffwr
Parchg Alwyn Daniels Cerdded arfodir er mwyn eraill
Ebrill 2008
Dyma rai manylion ynglŷn â thaith gerdded noddedig a her i unrhyw un i gynorthwyo.

Bydd y Parchg Alwyn Daniels, gweinidog Cylch Carn Ingli a Llywydd Adran Gymraeg Undeb Bedyddwyr Cymru ac Irfon James, un o ddiaconiaid Tabor, Dinas yn gwneud taith gerdded noddedig yn y dyfodol agos.

Y Daith? - Llwybr arfordir sir Benfro. 186 o filltiroedd o Lanrhath (Amroth) i Landudoch.

Pryd? - Rhwng Ebrill 5ed a Mai 17eg. Byddant yn cerdded ar 23 diwrnod yn ystod y cyfnod hwn.

Pam? - Er mwyn codi arian at wahanol achosion ac elusennau.

Yr elusennau? - Bwriedir rhannu'r arian a godir rhwng elusen leol, genedlaethol a thramor.

Bydd swm penodol yn cael ei chlustnodi at waith Clwb y Gateway yn Abergwaun. Bydd gweddill yr arian yn cael ei rannu rhwng Yr Ambiwlans Awyr yng Nghymru a phrosiect Cymorth Cristnogol yn Ethiopia. Mae'r prosiect hwn sy'n cymryd lle trwy gymorth partneriaid Cymorth Cristnogol - "Water Action" yn bwriadu dod â dŵr glân i 55,000 o bobl. Byddai codi £5,000 yn galluogi poblogaeth o 750 i gael dŵr glân. Ond yr hyn sy'n cynyddu gwerth yr arian yw bod y Comisiwn Ewropeaidd yn rhoi £3 am bob £1 a gyfrannwn ni. Felly gallai cyfraniad o £5,000 fod yn werth £20,000.

Yr her? - Helpwch Alwyn ac Irfon i godi'r arian. Beth am i'ch eglwys /cymdeithas / clwb dderbyn ffurflen noddi er mwyn codi arian at yr achosion da hyn? Os byddech yn barod i wneud, cysylltwch â Tabor Villa, Dinas, Trefdraeth, Sir Benfro. SA42 OXQ neu ffoniwch 01348 811430. Beth am gerdded? Os hoffech uno gyda nhw ar y daith am ddiwrnod bydd croeso i chi wneud hynny. Cysylltwch ynglyn â'r trefniadau. Byddant yn croesawu cwmni bach ar nifer o'r diwrnodau, ond bydd tri dydd Sadwrn pan fydd croeso i grwpiau mwy o faint i uno ar y daith.

Y Llwybr - Mae'r Llwybr yn cynnwys golygfeydd godidog bob cam o'r daith. Does ryfedd bod un person lleol yn dweud wrth groesawu pobl i'r fro, - Croeso i Baradwys. Ond cofiwch bod y Llwybr yn anodd hefyd. Nid cerdded tir gwastad yw. Mae llawer o waith esgyn a disgyn ar y rhan fwyaf ohono, felly ystyriwch o ddifrif cyn mentro i gerdded.

Y Nod - Dangos ein bod fel Cristnogion yn barod i wrando ar orchymyn y Meistr i gynorthwyo unrhyw un sydd mewn angen. Codi gymaint o arian ag sy'n bosib i helpu'r elusennau o nodwyd. Dangos cariad Duw at waith yn y byd trwy ein gweithredoedd.

'A boed i eraill trwof fi
adnabod cariad Duw.'

0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy