BBC HomeExplore the BBC

IAU
24ain Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Llien Gwyn
Bois y Frenni gyda'r gyfeilyddes Wendy Lewis Codi Arian
Tachwedd 2005
Gweithgareddau lleol i godi arian tuag at Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Sir Gâr 2007
Pwyllgor Apêl Llanboidy, Cilymaenllwyd a Llanwinio
Bu'r noson Caws a gwin yng nghwmni Bois y Frenni yn Neuadd Llanboidy nos Wener, Medi 23 yn un hwyliog a llwyddiannus dros ben. Roedd y Neuadd yn llawn a llwyddwyd i godi swm sylweddol tuag at yr apêl. Diolch i bawb a wnaeth gyfrannu at lwyddiant y noson mewn unrhyw fodd. Gofynnir yn garedig i drigolion ardal y Cardi Bach barhau i fwynhau a chefnogi'r digwyddiadau eraill a gynhelir gan y pwyllgor.

Bydd y pwyllgor yn cynnal Gwasanaethau Carolau yng Nghapel Nebo, Efailwen, nos Sul, Rhagfyr 4ydd. Codir £2 ar oedolion wrth y drws, a bydd mynediad am ddim i blant. Jill Lewis fydd yn arwain a chyflwynir eitemau gan Aelwyd Ffynnonwen, Ysgol Bro Brynach ac Ysgol Beca.

Dylai pawb sydd wedi prynu anagram gofio bod angen eu dychwelyd erbyn Hydref 31ain at Mrs S. Rees, Awel y Grug, Llanwinio, Llanfyrnach, SA35 0DE.

Cynhelir cyfarfod nesaf y Pwyllgor Apêl yn Nhafarn y Pantblaidd nos Lun, Tachwedd 7 2005 am 7.30pm.

Pwyllgor Apêl San Clêr, Llangynin a Bancyfelin
Pawb fu'n cymeryd rhan yn y Gymanfa GanuCynhaliwyd Cymanfa Ganu 'Ar Eich Cais' yng Nghapel Bethlehem, Pwlltrap a Nos Sul, Hydref 9. Llywyddwyd yr Oedfa gan Beti Wyn James, Cadeirydd y pwyllgor Apêl. Cymerwyd at y rhannau arweiniol gan Meirion Williams, Is-gadeirydd y pwyllgor cyn i'r Arweinydd Gwadd, Iwan Evans gymryd at yr awennau yn ei ffordd ddi-hafal ei hun. Cyfeilieyd ar yr organ gan Joan Evans a grŵp o ieuenctid, ar eu hofferynnau.

Roedd nifer fawr o bobl wedi anfon cais am eu hoff emyn a chanwyd un ar ddeg ohonynt a ddaeth i'r brig. 'Top of the pops' pedd 'Gair Disglair Duw.'

Yn ystod yr oedfa cafwyd eitemau gan nifer o ieuenctid y cylch a chyhoeddwyd yr emynau ganddynt hefyd. Croesawyd y gŵr gwadd, Y Cyng. Roy Llewellyn a chafwyd araith bwrpasol ganddo ynglŷn â phwysigrwydd Mudiad Urdd Gobaith Cymru.

Bu'n noson hyfryd a chodwyd arian sylweddol tuag at yr Eisteddfod. Swyddogion y pwyllgor Apêl: cadeirydd - Beti Wyn James; Is -Gadeirydd, Meirion Williams, Ysg. - Beti Thomas; Trysoryddion Nia ac Anharad Lewis; Cynrychiolydd Llangynin - Marian Thomas; San Clêr - Beti Thomas; Bancyfelin - Hilary Evans.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy