BBC HomeExplore the BBC

IAU
24ain Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Llien Gwyn
Sctoland Yard a fu'n ymchwilio i'r achos nôl ym 1953-54 Llofruddiaeth Llangynin 1953
Tachwedd 2003
Doedd syndod y boblogaeth leol ddim yn enfawr pan ganfuwyd pâr priod yn farw mewn cae ar fferm Cadno, Pentywyn. Synhwyrwyd y marwolaethau o'r dechrau, ers y diwrnod cyntaf hwnnw pan sylwyd bod ty fferm Y Derlwyn, Llangynin yn anarferol o dawel, a'r drysau ynghau.

Union hanner can mlynedd yn ôl ar fore'r l7eg o Hydref 1953, roedd y brodyr Justin a Rowland James yn gwybod bod rhywbeth ofnadwy wedi digwydd. Yr unig gyffro ar fferm John a Phoebe Harries oedd buches yn brefi'n anesmwyth a ieir aflonydd.

Byddai Justin fel arfer yn cwrdd â John Harries wrth ddod â llaeth i'r stand laeth, a byddai'r ddau yn mynd i ffermdy'r Derlwyn am ddishgled. Doedd dim byd yn torri ar draws y ddefod foreol hon. Ond roedd y bore hwn yn wahanol, yn anarferol o wahanol. Doedd John Harries ddim yno i'w gyfarfod, a'r wraig Pheobe ddim yno i'w groesawu ar yr aelwyd.

Mae helynt y cyfnod hwn yn fyw iawn ym meddyliau pobol yr ardal o hyd, ac mae un wraig o Langain yn cofio'r cyfan yn glir iawn. Roedd Nesta Hobbs yn chwaer i'r diweddar Justin a Rowland James ac mae hi'n cofio'r rhyfeddod a deimlwyd trwy'r gymdeithas gyfan am ddiflaniad anesboniadwy Mr a Mrs Harries.

Roedd Rowland wedi trefnu mynd i ffureta cwningod gyda John Harries y bore hwnnw a Justin wedi trefnu mynd gydag ef i sêl fferm yn y prynhawn, ond gwahanol iawn oedd eu symudiadau ar y diwrnod du hwnnw. Daw'r cyfan yn fyw i Mrs Hobbs, sydd bellach yn 86 oed.

"Doedd John ddim wedi troi lan wrth y stand laeth" meddai, "a phan aeth Rowland draw i weld ar y fferm, o'dd yr anifeiliaid yn cadw stwr - y da heb eu godro, yr ieir yn clwcian, a dim siw na miw o'r ty."

Cafodd yr holl beth effaith fawr ar bobol y pentref a thu hwnt, wedi'r cyfan roedd cwpwl addfwyn a adnabuwyd gan bawb yn lleol wedi cael eu llofruddio yn erchyll. Roedd achos mawr ar droed - cysylltwyd â Heddlu Scotland Yard ac fe wnaethon nhw anfon dau o'u ditectifs blaenaf - y Ditectif Ringyll Bill Heddon a'r Ditectif Uwch Arolygydd John Capstick i bentref Llangynin.

Roedd hanes y cornel bach hwn o Sir Gâr ar dudalennau blaen nifer fawr o bapurau newydd trwy Brydain gyfan. Efallai mai'r peth mwyaf nodedig, ac yn sicr y peth tristaf oedd mai nai y cwpwl o'r Derlwyn, Ronnie Cadno a gyhuddwyd o'u lladd. Roedd yntau'n mynnu tan y diwedd oll "Nid wy'n euog. Mae fy nghydwybod yn dawel", ond roedd yr holl dystiolaeth a ddygwyd yn ei erbyn yn sicr o bennu ei ddiwedd ef.

Ond mae Mrs Hobbs o Langain yn cofio bod ei brodyr yn benderfynol mai celwydd oedd honiadau Ronnie Cadno bod ei ewythr a'i fodryb wedi mynd ar eu gwyliau i Lundain. Odd hi'n amlwg iddyn nhw bod rhywbeth mwy na beth wedodd Ronni wedi digwydd i'r ddou, meddai.

Fe gyrhaeddodd heddlu Scotland Yard i ymchwilio i ddiflaniad y ddau. Roedd pawb yn gwybod nad o'n nhw ar eu gwyliau, do'n nhw erioed wedi ymweld â Llundain o'r blaen, meddai Mrs Hobbs. Roedd cig yn barod i'w goginio yn y ffwrn a d'on nhw ddim wedi dweud dim byd am eu trefniadau i Justin a Rowland.

Bu chwilio mawr am y ddau ar hyd a lled y wlad a diweddar wr Mrs Hobbs yn eu plith ar gefn lori Co-op Llambed. Pan welodd ei brodyr hithau'r cae kale a'r llecyn pwdr, gwyddent mai dyna'r fan lle claddwyd Mr a Mrs Harries.

Meddai Mrs. Hobbs, "Fe wnaethon nhw bwyntio at y fan a'r lle a dweud mai fan 'na byddai dod o hyd i gyrff y ddau. Ro'n nhw a'r gymuned yn gyffredinol yn teimlo'n rhwystredig achos doedd yr heddlu ddim yn gwrando arnyn' nhw. Ond o'dd y teledu yn dweud mai oni bai am waith yr heddlu, mi fyddai'r cyrff yno o hyd - nonsens."

Crogwyd Ronnie 'Cadno' Harries ar y 24ain o Ebrill 1954 wedi ei brofi'n euog o ladd John a Phoebe Harries. Mae'n debyg iddo eu trywanu ar gefn eu pennau â morthwyl. Er i bapur y News of the World gynnig gwobr o £500 am unrhyw wybodaeth am y digwyddiad erchyll, ni welwyd ceiniog goch o'r arian hyn gan drigolion Llangynin - ac roedden nhw'n gwybod.

Heledd ap Gwynfor (Prosiect Papurau Bro)


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy