BBC HomeExplore the BBC

MAWRTH
15fed Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Llien Gwyn
Cannwyll Llewyrch i'm llwybr
Myfyrion yr Adfent gan Denzil Davies, Hebron.
I ddechrau, dyfynnaf yr hyn a ddywed Kate Roberts am yr amser yma o'r flwyddyn, "Mae rhywbeth bach yn fy nghalon o hyd yn tarddu fel ffynnon i'r dyfodol, y bydd y Nadolig y flwyddyn hon yma eto ar slap a llosgwn y neidr wrth ei safn. Ie, mynd, mynd o hyd a'r cylch yn dod nôl i'w unfan."

Ydy, mae'r Nadolig wrth y drws a finnau ddim yn barod. Yr achwyniad cyffredinol yw bod yr Ŵyl wedi mynd yn or-fasnachol. Digon gwir! Gwelir cardiau Nadolig ar werth yn yr Haf ac addurniadau o flaen ein llygaid drwy gydol y flwyddyn. Tybed a yw Santa Clostroffobia wedi cymryd drosodd?

Mae Gŵyl y Nadolig yn werthfawr iawn oblegid gŵyl y teulu yw'r gwir Nadolig. Daw aelodau o'r teulu sydd ar wasgar, yn ôl i' w cartrefi at eu hanwyliaid ond cofier nad yw'r Nadolig yn gyfnod hapus i'r rhai sy'n hiraethu ar ôl aelodau o'r teulu a gollwyd yn ystod y flwyddyn.

Gwell i ni nawr geisio bod yn bositif yn ein myfyrdodau am yr Ŵyl gysegredig hon. Derbyniwn gysur wrth yr adnod sy'n gyfarwydd i ni, "Canys felly y carodd Duw y byd fel y rhoddodd ei unig anedig Fab, fel na choller pwy bynnag a gredo ynddo Ef ond caffael ohono fywyd tragwyddol. Hyd yn oed yn Stori'r Geni, wrth chwilio am lety, cafodd ei gau allan gan y rhai y daeth Ef i fod yn Waredwr iddynt. Dyna ddechrau'r gamdriniaeth a gafodd y "gŵr gofidus a chynefin a dolur."

Yn anffodus, yn ein dyddiau ni, mae'r byd yn ceisio ei gau allan. Gadewch i ni fwynhau'r Ŵyl yn y ffordd draddodiadol, heb anghofio gwir ystyr y Nadolig, neu fel y dywed yr Hen Ficer Pritchard, Llanymddyfri:

Awn i Fethlem bawb dan ganu,
Neidio, dawnsio a difyrru
I gael gweld ein Prynwr c'redig
Aned heddiw, ddydd Nadolig.

Gwerthfawrogwn y cyfoeth sydd gennym yn emynau a charolau'r Nadolig, ac mae un o eiddo ein chwaer annwyl, Mrs. Alice Evans, Henllan Amgoed yn dehongli'r hyn a geisiaf ei ddweud.

Dyma'r pennill olaf:
Faban Bethlem, maddau inni
Am roi mawl i Ti'n y crud
Heb dy arddel yn Waredwr,
Heb dy ddilyn yn y byd;
O holl roddion Duw i ddynion,
Ti, o Grist yw'r pennaf gaed,
Tyrd o'r newydd i'n calonnau,
Tyrd i ddangos gwerth dy waed.

Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i chwi oll.

Ymddangosodd yr erthygl hon gan Denzil Davies, Hebron yn rhifyn Rhagfyr 2005 o bapur bro Y Cardi Bach


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Peidiwch â datgelu eich cyfenw os ydych o dan 16 oed.
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy