BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Llien Gwyn
Cofio Waldo
Mehefin 2004
Sioe 'Môr o Oleuni'
Carreg Waldo, Gorffennaf 15, 16, 17

Dau ŵr 96 oed, y naill yn cofio Waldo yn ymuno â'r Crynwyr yn Aberdaugleddau, a'r llall yn ei gofio fel cyd-ddisgybl yn ysgol Gynradd Mynachlog ddu.

Dyma ddau o gyfranwyr y sioe Môr o Oleuni fydd yn cychwyn cyfres o ddathliadau i nodi canmlwyddiant geni Waldo Williams.

Mae Steffan Griffiths bellach yn byw yn Neyland a B. G. Owens yn byw yn Aberystwyth ond bydd atgofion y ddau yn cael eu cyfleu trwy gyfrwng sgrîn fideo yn ystod y cyflwyniad wrth Garreg Waldo ar Gomin Mynachlog ddu.

Dyma'r fan lle bu Waldo'n chwarae yn grwt seithmlwydd oed ar ôl symud i'r ardal o Hwlffordd. Yn ystod y chwarae hwnnw y dysgodd Gymraeg yng nghwmni cyfoedion megis Dai Mwntan, Wil Alltygog, Edgar Tycwta, Albert Cwm, Dai Carnabwth a Stanley Glynsaithmaen.

Dyma'r ardal a ddaeth, yn ddiweddarach yn rhan amlwg o'i farddoniaeth ac fe luniodd ei gerddi praffaf ac aeddfetaf sy'n cyfeirio at y fro pan oedd yn alltud yn Lloegr.

Bydd Vernon Beynon yn sôn gydag afiaith am Barc y Blawd a Weun Parc y Blawd ar Fferrn y Cross lle cafodd Waldo brofiadau rhyfedd yn laslanc. Arweiniodd y profiadau hynny ddeugain mlynedd yn ddiweddarach at ei gerdd fawr 'Mewn Dau Gae' sy'n sôn am y 'môr o oleuni'.

Bydd eraill yn sôn am eu hatgofion amdano fel athro ysgol, fel cwmïwr ac fel dyn hynod oedd wastad ar gefn beic ac yn gwisgo trywsus byr ymhob tywydd a thymor. Fe geir yr hanes hwnnw amdano yn mynd mewn i siop tships yn Hwlffordd ac erbyn iddo ddod mas roedd rhywun wedi dwyn ei feic, a'i ymateb - wel, dewch i'r sioe i ffeindio mas.

Fe glywir hefyd lais Waldo yn sgwrsio ag Eirwyn Pontsian. Sgwrs rhwng dau athrylith na chafodd erioed ei chlywed yn gyhoeddus o'r blaen.

Bydd yr atgofion yma yn cael eu dolennu gan aelodau o Gymdeithas Clychau Clochog ac fe fyddan nhw'n cyflwyno rhai o gerddi plant a cherddi adnabyddus bardd a gydnabyddir ymhlith y mwyaf - os nad y mwyaf - o feirdd Cymru.

Byddwch yno yn y cyflwyniad awyr agored ganol mis Gorffennaf. Mae tocynnau ar werth nawr mewn siopau lleol.

Bydd cyfleusterau cyfieithu ar y pryd ar gael a chofiwch wisgo'n gynnes!

Derbyniwyd cefnogaeth ariannol ar gyfer y cyflwyniad gan Gyngor y Celfyddydau, Arian i bawb, Cyngor Sir Penfro a Chronfa Allweddol yr Undeb Ewropeaidd yn ogystal â chefnogaeth ymarferol gan Barc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro, Menter Iaith Sir Benfro, PLANED a Pictureworks, Llanybydder.

Erthygl trwy law Prosiect Papurau Bro


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy