BBC HomeExplore the BBC

LLUN
28ain Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Llien Gwyn
Bill Beales, prifathro Ysgol Cwmcarn 'Un o'r dynion dewraf' - barn yn dilyn sylwadau prifathro
Mehefin 2002
Yr erthygl olygyddol.

Ymateb golygydd Y Cardi Bach i sylwadau Bill Beales, prifathro Ysgol Cwmcarn, a wnaeth sylwadau dadleuol yng ngwasanaeth boreol yr ysgol.

"Fools rush in where angels fear to tread" yw'r hen ddywediad. Gellir arall-eirio hwn i "The brave rush in where angels fear to tread." Gobeithio nad ydw i'n ffwl ond dydw i ddim yn berson dewr chwaith!

Un o'r dynion dewraf, yn fy marn i, yw Bill Beales, Prifathro Ysgol Uwchradd Cwmcarn. Yn ystod y Gwasanaeth Boreol, soniodd am safonau moesol y ffydd Gristnogol wrth ei ddisgyblion gan ddweud ein bod fel pobl yn gwawdio rheolau Duw sydd wedi eu creu er budd a chyfiawnder i bawb.

Dweud y gwir heb flewyn ar ei dafod
O'r diwedd mae rhywun wedi sefyll lan a dweud y gwir heb flewyn ar ei dafod ac, wrth gwrs, mae wedi tynnu nyth cacwn i'w ben.

Yn y lle cyntaf dim ond dilyn cyfarwyddiadau'r Cwricwlwm Cenedlaethol ar gyfer Addysg Grefyddol yr oedd fel Prifathro cydwybodol.

Dyma ddau o'r pwyntiau:* Helpu disgyblion i sylweddoli fod crefydd yn un o anghenion dyfnaf dynol-ryw, a bod yn ymwybodol fod yna elfen ysbrydol ymhob person unigol.

* Helpu meithrin gwerthoedd, safonau a moesoldeb.

Ie, safonau moesol; dyna wnaeth Bill Beales.

Yn ail, onid dyna mae arweinyddion crefyddol wedi ei wneud ers canrifoedd - dysgu gwerthoedd, safonau a moesoldeb a dangos y gwahaniaeth rhwng da a drwg i'w pobol?

Dirywiad cymdeithas
Wrth ddarllen y papurau ac edrych ar y teledu, beth glywn ni - llofruddio, treisio, dwyn, ymosodiadau erchyll ar yr henoed; yfed, cyffuriau (17 o bobl ifanc wedi marw yn y Cymoedd o effeithiau cyffuriau); pedoffiliaid yn treisio plant; yr anfoesoldeb rhywiol a welwn ar y sgrîn; plant yn ymosod ar athrawon a'r twyllo sy'n digwydd, hyd yn oed yng nghoridorau grym y Llywodraeth a'r Cynulliad.

Onid ydych chi'n meddwl ei bod hi'n bryd i rywun sefyll lan, yn enw Duw ac yn enw popeth sy'n lân a dyrchafol?

Roedd yr Iesu'n dangos i bobol bod eu ffordd o fyw yn anghywir ond gwnâi hynny mewn ysbryd o gariad a chonsrn, fel yn hanes Mair Magdalen a Sacheus.

Ceisio rhoi arweiniad
Efallai fod Bill Beales wedi cael ei gondemnio am iddo enwi rhai carfanau penodol yn ein cymdeithas. Ceisio rhoi arweiniad yr oedd, i bobol ifanc nad oes ganddyn nhw ganllawiau moesol i'w cynorthwyo ar daith bywyd.

Ar hyd y canrifoedd mae 'na bobol ddewr wedi sefyll dros y gwir. Ar y pryd, cawsant eu gwawdio, eu hamharchu a hyd yn oed eu lladd, ond roedd y byd yn well lle oherwydd eu safiad.
Yn fwy na thebyg fe gaiff Bill Beales y sac ond bydd ei gynghorion yn atseinio trwy feddwl ac eneidiau'r rhai sydd wedi clywed ei eiriau a'i gynghorion doeth.

Beth yw eich barn chi?

Ebostiwch i ddweud gan roi Lleisiau Lleol yn bennawd i'ch llythyr.



0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy