BBC HomeExplore the BBC

MERCHER
30ain Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Llien Gwyn
Tirana yn Albania Llewyrch i'm Llwybr
Mawrth 2007
Rai blynyddoedd yn ôl cefais y fraint o ymweld ag Albania lle roedd un o'm ffrindiau yn dysgu darpar offeiriaid yr Eglwys Uniongred ar y pryd. O blith fy amryw brofiadau, y mae un yn enwedig yn sefyll ar fy nghof.

Ychydig amser ar ôl i mi gyrraedd y brifddinas, Tirana, aethom am dro tua chanol y lle. Ychydig ddyddiau ar ôl y Pasg ydoedd, a dyma ni'n edrych i fyny a sylweddoli bod baner anferth yn chwifio uwchben. Yn ffodus, roedd fy nghyfaill yn medru cyfieithu'r geiriau ar y faner. Dyma'r genadwri i bawb a gerddai trwy'r strydoedd hynny: "Yn enw y Crist atgyfodedig, y mae Eglwysi Albania yn dymuno Pasg llawen i chwi oll". Tybed a fuasai'n debyg i ni weld y fath neges uwchben strydoedd Caerdydd eleni?

Yng Nghymru, y mae gennym ryddid crefyddol i wneud ein safbwynt yn glir ynglŷn â natur Cristnogaeth. Nid felly y bu yn Albania am flynyddoedd lawer oherwydd, dan yr arweinwyr comiwnyddol a fu mewn grym am bron hanner canrif, poenydiwyd crefyddwyr o unrhyw fath yn ddidrugaredd. Yn wir, amcangyfrifir bod oddeutu deunaw mil o Gristnogion a Mwslemiaid wedi colli eu bywydau yn yr union un cyfnod. Felly, rhyfedd oedd cael cyfle i fynychu gwasanaeth yn y Gadeirlan yn Tirana ar y Sul a chanfod bod cannoedd, ie cannoedd, o bobl ifanc yn bresennol. Mor wahanol yw ein sefyllfa ni ar y cyfan, onide?

Gallwn fentro dweud bod yr Eglwys yn Albania wedi atgyfodi fel petai o'r meirw. Mae'r gair `Atgyfodiad' yn arwyddocaol iawn yr adeg hon o'r flwyddyn, wrth i Gristnogion baratoi erbyn prif Ŵyl ein Ffydd. Ac wrth gyfeirio at brofiad Albania, cwyd cwestiwn anochel - Os na chyfododd Crist, pa reswm y rhoddwn ni am enedigaeth yr Eglwys Gristnogol yn y lle cyntaf? At hyn gellid ychwanegu cwestiwn arall - Sut yr awn ati i esbonio ail enedigaeth yr Eglwys yn Albania?

Mae rhai yn credu bod y gwragedd a ymwelodd â'r bedd ar fore Sul y Pasg wedi breuddwydio yn ofer, neu wedi colli gafael ar eu synnwyr. Mae eraill yn taeru mai gweld drychiolaethau yr oeddent a dim byd mwy. Ond nid dyna'r esboniad a gawn ni yn y Testament Newydd lle mae'r pwyslais ar yr hyn a ddigwyddodd i Iesu ei hun. Bu farw llawer Cristion yn Albania felly, ond ni roddwyd ergyd farwol i'r gred fel y cyfryw.

Dro ar ôl tro, mae nerth y Crist byw wedi trechu, nid yn unig marwolaeth, ond hefyd siniciaeth ac anghrediniaeth. Neges yr Eglwys i'r holl fyd yw hyn: mae Crist yn fyw. O'i Berson y daeth y nerth a gynhaliodd y ffyddloniaid yn Albania ar hyd y blynyddoedd llwm. Mae'r un nerth ar gael i ni yn wyneb difaterwch y Gymru gyfoes hefyd.

Mae'n debyg y bydd rhywrai yn canu'r geiriau canlynol ar fore Sul y Pasg. Yng ngoleuni profiad Albania, onid allwn ni i gyd eu canu yn fwy angerddol fyth, eleni:- Gwelir myrdd yn cilio ymaith
At allorau Duwiau gau;
Cododd Iesu!
I wirionedd gorsedd fydd.

Y Parchedig Jeffrey Gainer


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy