BBC HomeExplore the BBC

SUL
20fed Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Llien Gwyn
Non a Richard Murray Mentro i fyd busnes
Ionawr 2007
"Dwi'n mynd i brynu'r Lamb yn Llanboidy"! Dyna oedd geiriau proffwydol Richard Murray wrth ei wraig Non, un bore wrth ddihuno yn eu cartref yn Dolau Taf, Llanglydwen.

A chyn pen winc, roedd y ddau wedi prynu'r lle ac erbyn y Nadolig 'roedd y Lamb wedi ailagor a'r cam cyntaf wedi ei gwpla.

Braf iawn yw gweld pâr ifanc Cymraeg eu hiaith, o'r ardal yn bwrw ati i ddechrau busnes a mentro arni yn llawn brwdfrydedd.

Mae ganddynt dair merch fach, sef Hana sy'n 5 oed ac yn ddisgybl yn Ysgol Bro Brynach, Cadi sy'n 18 mis oed a Mali sy'n 3 mis.

Dywedodd Richard fod tipyn o waith adnewyddu mewn mannau o'r dafarn ond mae'n abl iawn i wneud y gwaith ei hunan, gydag ychydig o help gan ffrindiau.

Mae Non a Richard yn bendant eu bod am gadw cymeriad y lle a'r hen awyrgylch gartrefol fel tafarn deuluol, a'r Gymraeg yn sylfaen i'r holl weithgareddau a fydd yn cymryd lle.

Mae'r ystafell fwyta bron yn barod a bydd yn agor yn swyddogol yn y dyfodol agos - er dywedodd deryn bach wrtho i bod 16 o'r teulu wedi mwynhau cinio Nadolig da iawn yno eisoes.

Trwy lwc mae gan Richard a Non deuluoedd a fydd yn gefn iddynt wrth sefydlu'r busnes.

Mae Angela, mam Richard yn edrych mlân i gael dechrau cwcan i'r cwsmeriaid - bwyd traddodiadol blasus wedi ei goginio'n dda.

Maent wedi cael rhai syniadau diddorol yn barod am enwau'r bwydydd. Beth am Noson Gyrri Myrri; Pwdin Angel; Bytis Beti, Pids Piccadilly a Cawl Coedllys.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy