BBC HomeExplore the BBC

LLUN
21ain Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Llien Gwyn
Catrin Aur Davies gyda Shirley Bassey Catrin ac Ysgoloriaeth Shirley Bassey
Ionawr 2005
Enillydd cyntaf Ysgoloriaeth y Fonesig Shirley Bassey yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yng Nghaerdydd, yn 2004 oedd Catrin Aur Davies, Beulah, Castell Newydd Emlyn.
Mae Catrin Aur yn fyfyrwraig ôl-raddedig yn y Coleg; ar ôl graddio mewn Hanes o Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth.

Mae'n ferch i Islwyn a Julia Davies, a chanddi dri brawd. Mae ei mam Julia yn enedigol o'r ardal hon a chyn priodi bu'n byw yn Blaensamgoch, Llanboidy.

Mae Catrin yn wyneb cyfarwydd yn Eisteddfodau'r Urdd a'r Genedlaethol ac wedi ennill nifer o wobrau dylanwadol ym myd cerddoriaeth ar hyd y blynyddoedd.

Sefydlwyd yr Ysgoloriaeth hael yma gan y Fonesig Shirley Bassey yn dilyn ocsiwn ei gwisgoedd prydferth yn Christie's Llundain ac mae'r elw wedi galluogi'r Coleg i greu'r wobr flynyddol yma. Bydd myfyrwyr llais ôl-raddedig o Gymru yn cystadlu bob blwyddyn i ennill y wobr a fydd yn cefnogi eu hastudiaethau yn y Coleg Cerdd a Drama. Yn ystod eihymweliad â'r Coleg dadorchuddiodd Shirley Bassey wisg y ddraig goch enwog, sef ei rhodd hael i'r Coleg.

Fe ddewiswyd Catrin eleni hefyd fel un o'r myfyrwyr ar gyfer llwybr opera ôl-raddedigion o dan arweinyddiaeth Pennaeth Opera y Coleg, Donald Maxwell.

Llongyfarchiadau i ti Catrin a phob dymuniad da i ti yn dy yrfa gerddorol.

Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy