BBC HomeExplore the BBC

IAU
31ain Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Llien Gwyn
Capel "Plyg fi!"
Hydref 2004
Gan mlynedd yn ôl i'r mis hwn roedd Cymru yng nghanol cyffro Cristnogol anghyffredin a ddaeth â newid rhyfeddol i fywyd miloedd o'n cyn-dadau ni.
Ar y 29ain o Fedi 1904 yng nghapel Blaenannerch yn Sir Aberteifi dechreuodd yr hyn a ddaeth i gael ei alw'n Ddiwygiad 1904-05.

Evan Roberts oedd enw'r gŵr a deimlodd y peth gyntaf, a'r noson honno torrodd mas a gweiddi o'i sedd yn y capel bach, "Plyg fi, Arglwydd". Am y flwyddyn a mwy dilynol ef oedd prif ganolbwynt y cynnwrf ysbrydol yma y lledodd ei ddylanwad i bob cwr o Gymru a thu hwnt.

Rhoddai Evan Roberts bwyslais mawr ar emosiwn a theimlad yr unigolyn. Yn ei oedfaon byddai rhai yn torri mas i ganu a gweiddi mewn ecstasi. Dro arall byddai rhai yn llefain ac yn llewygu o dan angerdd y teimladau dwys.

Cymharodd rhai yr ymateb i Beatle-mania y 60au.

Roedd gan Evan Roberts dîm o ferched a fyddai'n teithio gydag ef o gwmpas capeli Cymru. Byddai rhain yn dechre'r cwrdd gyda chanu emynau. Yna pan deimlai'r diwygiwr bod disgwyliadau'r bobl wedi cyrraedd rhyw uchafbwynt byddai'n dod i mewn i'r capel yn ddramatig ac yn cymryd at arwain yr oedfa.

Yn ogystal â rhoi lle i ferched i gymryd rhan yn gyhoeddus a newid patrwm oedfaon, rhoddodd Evan Roberts hefyd lais i bobl ifanc a chyfle iddynt i fynegi eu hunain mewn oedfaon. Doedd hyn ddim yn dderbyniol gan lawer o weinidogion y cyfnod. Teimlai rhain eu bod yn colli eu hawdurdod a'u pwysigrwydd trwy fod unrhyw un a phob un a ddymunai yn cael dweud eu dweud yn yr oedfaon. Hefyd roedd llawer o genfigen tuag at Evan Roberts yn eu plith ar sail yr holl sylw a'r llwyddiant a ddoi i'w ran.

O ganlyniad, erbyn diwedd 1905 roedd cyffro'r diwygiad wedi dod i ben a hynny'n ddigon ffrwt. Ciliodd y diwygiwr ifanc 26 oed i'r cysgodion gan ddweud bod yna rymoedd yn milwrio yn erbyn y diwygiad. Er iddo fyw tan 1951 ni phrofwyd dim byd tebyg wedyn i'r hyn a welwyd yn 04-05.

Beth sy'n aros o ddylanwadau'r diwygiad gan mlynedd yn ddiweddarach? Fawr ddim yw'r ateb creulon wir falle. Os felly beth yw gwerth y cofio a'r dathlu a fu?

Mae hanes y diwygiad yn awgrymu dau beth eitha' pendant. Yn un peth - eu bod hi'n bosib i fywydau pobl gael eu newid yn gyfan gwbl a hynny gan rym ysbrydol.

Ac yn ail beth dengys fel y gall pobl yn eu hunanoldeb a'u balchder, hyd yn oed o fewn cylchoedd crefyddol, wrthweithio yn erbyn dylanwadau ysbrydol y dydd.

Gallai cofio hynny fod yn obaith ac yn rhybudd amserol i ni heddiw. Un peth na ellir ei wadu yw profiad a thystiolaeth y bobl hynny a gafodd eu 'cyffwrdd' gan y diwygiad. Dyma atgofion rhai o ddarllenwyr y Cardi Bach am berthnasau iddynt a brofodd o'i rym.

Cofia Jennie Griffiths fynd gyda'i mam i Flaenannerch pan oedd yn ferch fach a'r Parch M.P. Morgan yn pregethu. Roedd ei mam yn galw yn y tŷ ar ôl cwrdd ac roedd ganddi "lond bola o ofon."

Cofia dro arall am ferched ifanc yn sefyll arholiad Ysgol Sul gyda'r Methodistiaid ac un ohonynt yn gofyn i'r llall "Os isie J fawr i Jwdas?" "Nag oes, atebodd ei ffrind, fe wnaiff un fach y tro, hen un drwg odd e!"

Cofia Nansi Davies, Rhydgaled gynt, gapel Calfaria a Nebo yn llawn a sawl diacon yn gweddïo am amser o'r frest. Gêm ganddi a'i ffrind Mattie fyddai "teimo" i gael gweld pa ddiacon fyddai wrthi hiraf, a chaent row gan yr oedolion am sibrwd "Mae'n bryd iddo bennu nawr! "

Treuliai Nansi Evans lawer o'i hamser gyda'i mamgu yn Tegryn a byddai yn mynd i'r cwrdd yn Llwynyrhwrdd. Yr hyn a gofia hi yw dynion yn cario ffwrwme i mewn i gapel mor fawr ar gyfer Oedfa Gymun. Mae hefyd yn cofio fel y byddai llyfr emynau a Beibl ar y ford gyda'i mamgu bob amser - gwyddai ei Beibl yn dda, gydag adnoddau lawer ar flaenau ei bysedd. A ninnau'n byw bellch mewn oes falch a hunanol, mor bell ydym o gri Evan Roberts - "Plyg fi" - yr un mor bell ag yr ydym o ddiwygiad arall efallai?


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy