Mae'r estyniad yn cynnwys swyddfa, cegin, ystafell gyfarfod a thoiledau i'r anabl. Croesawodd Cadeirydd Pwyllgor Hywel Dda, sef y Cyng. Roy Llewellyn, bawb i'r agoriad. Braf oedd cael croesawu cynllunydd gwreiddiol y Ganolfan, sef Peter Lord; hefyd y Pensaer David Thomas, a fu'n gyfrifol am yr adeilad gwreiddiol a'r estyniad newydd. Cefndir yr Estyniad
Breuddwyd Ysgrifennydd Pwyllgor Hywel Dda, sef Ken Rees, oedd yr estyniad yma. Er bod peth amheuaeth ar y dechrau ynglŷn â chael cyllid digonol i ariannu'r prosiect, da yw dweud bod y fenter wedi bod yn llwyddiannus - diolch i ddycnwch a dyfalbarhad Ken Rees a'i bwyllgor. Adeiladwyd yr estyniad gan Salem Constructions, San Clêr dan ofal y cyfarwyddwr, Mr. Steven Kirkwood a'r tri crefftwr Steven Evans, Christian Richards a Denzil Brown, ynghyd â gwaith ychwanegol oddi wrth Marsy a Dale Jones a Peter Waters.
Dywedodd yr ysgrifennydd, Ken Rees, ei fod yn gwerthfawrogi y cyd-weithrediad llwyr a fu rhwng yr adeiladwyr i gyd.
Grantiau
Cafwyd cyngor da a chefnogaeth gan Richard Mead o Antur Cwm Taf/Tywi. Derbyniwyd 80% o'r cyllid trwy R.S.T.P. a diolchwyd i Gyngor Sir Caerfyrddin am eu cefnogaeth. Diolchwyd hefyd i Reolwr Prosiect Datblygu Cymunedol yr ardal, John Wilson; Swyddog Grantiau Brian Harries a'i dîm; Rheolwyr Grantiau - Susan Chilcott a Sally Doughton; hefyd Emyr John, Swyddog Cymunedol a roddodd gymaint o gymorth gyda llanw ffurflenni a chyngor.
Cafwyd cyllid ychwanegol gan Asiantaeth y W.D.A. trwy law Emma Jenkins. Y cysylltiad olaf er mwyn derbyn grantiau oedd Antur Cymunedol Cymru, o dan gyfarwyddid Sue John o Glyn Ebwy. Gweithiodd y Cyng. Jimmy Morgan yn galed yn y cefndir, i helpu'r prosiect yn ei flaen.
Cafwyd araith bwrpasol gan Y Cyng. Clive Scourfield, Aelod Bwrdd Gweithredol Cyngor Sir Gaerfyrddin, cyn iddo ef a' i wraig dorri'r rhuban i agor yr estyniad yn swyddogol. Cyflwynwyd tusw o flodau i Mrs. Jennifer Scourfield gan Lowri Jenkins, a blodyn twll-botwm i Mr. Scourfield.
Tro'r plant a ieuenctid y dre oedd hi wedyn. Cafwyd cyfraniad arbennig gan blant Ysgol Gynradd Hendygwyn am Hywel Dda ac yn perfformio golygfeydd yn portreadu rhai o'r Deddfau, sef Deddf Eiddo; Trosedd a Chosb; Y Gwragedd; Cytundeb; Y Brenin a'r Llys a Chymdeithas a Braint. Cafwyd tipyn o hiwmor gan y plant ac roedd ôl paratoi manwl ar eu gwaith.
Perfformiwyd cân bwrpasol i'r achlysur gan rai o ddisgyblion Ysgol Gyfun Dyffryn Taf. Ysgrifennwyd y geiriau gan y disgyblion a'r gerddoriaeth gan Iwan Evans, Menter iaith Taf/Myrddin.
Mae nifer o aelodau'r Pwyllgor wedi gweithio'n galed i gadw'r Ganolfan a'r Gerddi yn raenus a hardd, ar hyd y blynyddoedd Diolch hefyd am gefnogaeth gwragedd aelodau'r Pwyllgor am eu cymorth parod ar gyfer pob achlysur a drefnir yn y ganolfan. Mae gan ferched Cymru ddyled fawr i Hywel Dda am iddo roi statws a lle blaenllaw i fenywod yn ei Ddeddfau!
Rhaid enwi, unwaith eto gyfraniad anhygoel Ysgrifennydd Pwyllgor Hywel Dda, sef Ken Rees, sydd wedi gweithio'n ddygn am oriau maith i sicrhau llwyddiant y fenter newydd. Hefyd, rhaid enwi Trysorydd y Pwyllgor Y Parchedig Tom Defis a'r Is-Drysorydd Mel Jenkins.
Paratowyd fwyd i'r gwesteion gan Faer a Maeres Hendygwyn, Y Cyng. Con ac Ann Harries. Noddwyd costau'r bwyd gan Gwmni Castell Howell. Diolchwyd hefyd i Gideon Peterson y gof/artist am gynllunio ac adeiladu iete newydd ac i Col. Gilbertson am ei gyngor gyda'r planhigion a'r blodau yn y Gerddi.
Dyma flas o 'Gân y Dathlu' gan flwyddyn 9, Ysgol Gyfun Dyffryn Taf.
Lleuad haearn ar ben to
A'r haul fel coron dros yr ardd,
Geiriau yn y llechi llwyd
I gofio ysgolhaig a'r bardd;
llun enamel o bob lliw -
Cadw'r cof o hyd yn fyw!