BBC HomeExplore the BBC

GWENER
1af Ionawr 2010
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Llien Gwyn
Eglwys Annibynnol Penybont Diwrnod dathlu 150 mlynedd yr achos
Chwefror 2007
Diwrnod dathlu canrif a hanner yr achos ym Mhenybont 1856 - 2006, gan y Parchedig Ddr. Felix Elfed Aubel.

Ar Ddydd Sul y 26ain o Dachwedd 2006 am 1.30yp cynhaliwyd oedfa arbennig i ddathlu canmlwyddiant a hanner Eglwys Annibynnol Penybont. Llywyddwyd y cyfarfod gan weinidog yr eglwys y Parchedig Ddr. Felix Elfed Aubel.

Roedd y capel yn llawn gyda llu o bobl o bell ac agos wedi gwneud yr ymdrech i fynychu'r dathliadau. Roedd thema Nadoligaidd yn amlwg yn y gweithgareddau gyda'r capel wedi ei addurno fel yn yr oesoedd a fu. Wedi gair o groeso gan y gweinidog gofynnwyd i'r gynulleidfa godi am funud o dawelwch er cof am rhai oedd wedi gwneud cymaint dros hyrwyddo'r Eglwys ar hyd y blynyddoedd. Fel arwydd gweledig o ddiolchgarwch i rhain, cyflawnodd Dr. Aubel y weithred symbolaidd o gynnu cannwyll gyda thair fflam, un i bob hanner canrif yn hanes y capel ac hefyd un fflam i'r gorffennol, un i'r presennol ac un i'r dyfodol.

Wedi'r digwyddiad arwyddocaol hyn, cafwyd anerchiad Dr. Aubel oedd yn olrhain hanes y capel o'r dyddiau cynnar hyd heddiw. Yna galwyd ar Mr Emlyn Morris, Trewrda fach, sef aelod hynaf y capel oedd yn bresennol, i dorri 'Cacen y Dathlu'.

Y bobl ifanc a'r plant oedd yn gyfrifol am ail hanner y dathlu; eu thema oedd 'Dathliadau Nadolig 1856', sef cyfnod adeiladu Capel Penybont. Pwysleisiwyd mai "Gŵyl sy'n edrych ar yfory yw'r Nadolig; gŵyl sy'n dathlu bywyd newydd, y rhodd mwyaf un".

Gwahoddwyd pawb i barhau y dathlu yn festri'r capel oedd wedi ei addurno yn hardd ac yn arddangos cannoedd o luniau yn ymwneud â hanes y capel. Ymhlith y themâu amrywiol a ddewiswyd oedd, "Gweinidogion Capel Penybont", "Y Ffyddloniaid ar hyd y blynyddoedd", ac "Enwogion â chysylltiad â'r Capel", yn cynnwys darlun enfawr o Elfed a fenthycwyd o'r Gangell.

Paratowyd te arbennig gan wragedd y capel yng Nghanolfan Gymdeithasol Penybont, lle hefyd gwerthwyd crochenwaith y dathlu a wnaethpwyd gan Crochendy Talog. Mae'r crochenwaith ar gael trwy law Mr. Hugh Davies (01994 484 351).

Yn ogystal cyhoeddir llyfr ar hanes Capel Penybont 1856 - 2006 eleni. Ymholiadau i Meryl Jones (07967 927813) neu Mrs Una Williams (01994 484372).

I grynhoi diwrnod byth gofiadwy yn hanes capel Penybont gallwn gydseinio gyda geiriau olaf salm 105:
"Fy enaid, bendithia'r Arglwydd.
Molwch yr Arglwydd".


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy