BBC HomeExplore the BBC

GWENER
1af Ionawr 2010
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Cardi Bach
Ysgol Gynradd Llwynderw Rhag yn galw am fwy o ysgolion Cymraeg
Mehefin 2009
Gyda nifer y rhieni sydd am roi addysg Gymraeg i'w plant, mae Rhieni dros Addysg Gymraeg yn galw am ragor o ysgolion.

Mae Rhag Abertawe'n galw am wyth ysgol Gynradd Gymraeg arall i'r ddinas.

Mewn adroddiad gaiff ei gyflwyno i'r awdurdod lleol, mae Rhag yn nodi bod hyd at 38% o rieni Abertawe wedi dweud eu bod am roi addysg Gymraeg i'w plant. Dim ond tua 11% o blant y ddinas sydd ar hyn o bryd mewn addysg Gymraeg. Cynhaliaodd Rhag gyfarfod gyda phenaethiaid ysgolion Cymraeg Abertawe, a chynlluniwyd bod angen mynnu bod yr awdurdod addysg yn ymateb i'r galw sydd yn Abertawe ar hyn o bryd.

Mae'r Sir wedi sôn eu bod yn ystyried cynllun i ehangu ysgol Lon-las fel ei bod yn rhoi lle i 600 o blant. Barn gyffredinol y penaethiaid a Rhag oedd bod hyn yn nifer rhy fawr i ysgol Gynradd, a bod angen ysgolion cynradd mewn gwahanol gymunedau i wasanaethu'r cymunedau yn benodol.

Mae pwysau mawr ar Lon-las, fodd bynnag, gyda 129 yn gofyn am le ym mis Medi, a lle yn yr ysgol i 90 yn unig. Gallai 39 o ddisgyblion golli'r cyfle i gael addysg Gymraeg.

Mae Rhag yn gofyn am ysgolion yn y mannau hyn: Bonymaen/St Thomas, Treforys, Llanmorlais/Llanmadog, Dynfant/Cilâ, Cwmbwrla/Trefansel, Penlan, Gellifedw a Fforestfach/Mayals.

Eisoes, mae mwy na 100 o blant yr un o ardaloedd Treforys, St Thomas/Bonymaen a'r Gellifedw mewn ysgolion Cymraeg, ond heb fod ysgol yn eu cymuned.

Mae'r galw hefyd yn amlwg yn ardal Penlan/Mynydd-bach, gydag Ysgol Tirdeunaw yn anelu am 500 o blant. Mae Rhag yn gobeithio y bydd yr ad-drefnu sy'n digwydd ar hyn o bryd mewn addysg Saesneg yn rhyddhau ysgolion ar gyfer addysg Gymraeg. Bydd Rhag yn cwrdd â'r Sir ganol Gorffennaf i gyflwyno'r ddogfen a hefyd dogfen arall ar sut i gychwyn dosbarthiadau cychwynnol, gan ddefnyddio model Caerdydd.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy