BBC HomeExplore the BBC
Nid yw'r dudalen hon wedi ei diweddaru ers tipynFe'i gadawyd yma er gwybodaeth.Rhagor o wybodaeth

SUL
27ain Mai 2012
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Glo Mân
Y Tri Tenor Y Tri Tenor
Rhagfyr 2004
Mae aelodau'r 'Tri Tenor' sef John Davies, Crwys Evans a Robyn Lyn Evans yn unawdwyr o fri ac yn enillwyr Cenedlaethol a Rhyngwladol.
Swynwyd y dorf enfawr oedd yn bresennol yn y Capel y noson honno, nid yn unig gan burdeb y sain lleisiol a'r asio celfydd, ond hefyd gan newydd-deb y mynegiant wrth gyflwyno cadwyn o alawon Cymreig. Cyflwynwyd nifer o arias byd enwog yn feistrolgar yn yr ail hanner gan argyhoeddi pawb oedd yn bresennol eu bod yng nghwmni perfformwyr oedd yn parchu a charu cerddoriaeth.

Ers y noson fythgofiadwy honno daeth llu o wahoddiadau i gymryd rhan mewn cyngherddau, nosweithiau llawen a cabaret ar draws Cymru a Lloegr, ac i ymddangos ar raglenni teledu.

Mae'r 'Tri Tenor' yn hynod o ffodus bod ganddynt ddau gyfeilydd o fri y gallant ddibynnu ar eu gwasanaeth a'u cefnogaeth wrth ymarfer a pherfformio. Mae Eirwen Hughes o Benrhyncoch yn gyn - enillydd y Rhuban Glas ac yn gyfeilydd parod, nid yn unig i'r tri tenor ond i lu o gantorion ledled Cymru.

Mae Gareth Wyn Thomas o Gapel Hendre hefyd yn wyneb cyfarwydd mewn cylchoedd Eisteddfodol ac fel un o gyfeilyddion swyddogol yr Eisteddfod Genedlaethol. Mawr yw dyled y 'Tri Tenor' i'r ddau gyfeilydd am eu cyfraniad gwerthfawr wrth baratoi'r gryno ddisg.

Er mwyn cael llwyddiant rhaid wrth gefnogaeth, ac mae'r 'Tri Tenor' yn hynod ddyledus i'w teuluoedd a fu mor amyneddgar a chefnogol iddynt dros y pedair blynedd olaf. Maent hefyd yn gwerthfawrogi'r anogaeth a'r croeso a gawsant gan gynulleidfaoedd ymhob man. Yn olaf mawr yw eu diolch i bob un a gyfrannodd tuag at gynhyrchu'r gryno ddisg hon.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy