BBC HomeExplore the BBC

MAWRTH
1af Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Cwlwm
Ffermwyr Ifanc Penybont yn dathlu
Tachwedd 2007
Ar nos Wener 19 Hydref a dydd Sadwrn, 20 Hydref cynhaliwyd Eisteddfod lwyddiannus iawn gan Ffederasiwn Clybiau Ffermwyr Ieuainc Sir Gâr yn Neuadd Pontyberem.

Bu yna gystadlu brwd gyda C.Ff.I. Penybont yn fuddugol ac yn ennill y darian, C.Ff.I. Cynwyl Elfed yn ail a C.Ff.I. Llanelli yn drydydd. Mrs Niki Roderick a Mrs Meinir Jones Parry oedd y beirniaid Cerdd, Mrs Gwenda Rees oedd y beirniad Llefaru, Miss Catrin Dafydd oedd y beirniad Gwaith Cartref, Miss Lynwen Griffiths oedd y beirniad Dawnsio Disgo, Mr Huw Watkins y beirniad Dawnsio Gwerin a Mrs Deris Williams a'i merch Anwen Eleri oedd yn beirniadu'r Adran Ysgafn. Cyfeilyddion yr Eisteddfod oedd Mr Geraint Rees a Mr Iwan Evans a diolch yn fawr iawn i bob un ohonynt am eu gwasanaeth arbennig.

Arweinyddion yr Eisteddfod eleni oedd Mr Irwel Jones, Miss Gillian Carpenter a Mr Owen Davies. Mrs Llinos Jones oedd yng ngofal ysgrifennu'r tystysgrifau. Mrs Jane Morgan a Miss Marian Thomas oedd yn cadw'r sgôr, a diolch i bawb am eu gwaith arbennig.

Gwestai yr Eisteddfod ar y nos Wener oedd Mr a Mrs Gareth Thomas, Gelliddu, ac ar y nos Sadwrn, Mr Noel Richards, Coedmoelion. Cafwyd araith wych gan y ddau a chyfraniadau hael tuag at gyllid Ffederasiwn y Sir.

Yn fuddugol yng nghystadleuaeth y Gerdd ac yn ennill Cadair y Sir eleni oedd Miss Gwennan Evans, C.FF.I Dyffryn Cothi. Roedd y gadair yn rhoddedig gan Mr Irwel Jones, Dyffryn Cothi, Cadeirydd y Sir. Mr Deryc Rees oedd yng ngofal Seremoni'r Cadeirio gyda Miss Ffion Thomas, C.FF.I Llangadog yn canu Cân y Cadeirio a Mr Hefin Jones, Llanddarog yn canu'r Corn Gwlad.

Miss Angharad Thomas, C.Ff.I. Dyffryn Tywi; Miss Rhian Price Davies, C.Ff.I. Llanymddyfri; Mr Rhys Williams, C.Ff.I. Llanfynydd a Miss Hannah Witt, C.Ff.I. San Clêr fu'n cyfarch y buddugol. Clwb Ffermwyr Ieuainc Llangadog fu yn stiwardio trwy gydol y ddwy noson a diolch i Amaethwyr Caerfyrddin a Phumsaint am eu cefnogaeth fel noddwyr unwaith yn rhagor.

  • Eisteddfod Genedlaethol y Ffermwyr Ifanc, Corwen


  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Peidiwch â datgelu eich cyfenw os ydych o dan 16 oed.
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

    Sylw:




    Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


    0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy