BBC HomeExplore the BBC

MAWRTH
8fed Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Cwlwm
Sulwyn Thomas - Cadeirydd  Radio Glangwili Radio Glangwili yn 35
Rhagfyr 2007
Ar ddydd Nadolig fe fydd Radio Glangwili yn 35 oed.

Dechreuodd y gwasanaeth radio i gleifion ysbyty Glangwili fel arbrawf gan Senedd Sir Urdd Gobaith Cymru ar ddiwedd y chwe degau. Wedi i Sulwyn Thomas a Gerwyn Griffiths fod yn arbrofi gyda rhaglenni ar dâp datblygodd y cyfan yn sydyn fel gwasanaeth parhaol o stiwdio fach yn yr ysbyty.

Rhaglenni cais - dwy awr ar foreau Sadwrn - oedd yno ar y dechrau ond o dipyn i beth dyma ddarlledu rhaglenni o'r wardiau ar nos Sul, ac yna bob nos o'r wythnos. Mae'r pwyslais yn bendant ar ddiddori'r cleifion a chwarae eu hoff gerddoriaeth.

Wrth i oes y record, caset a'r crynoddisg ddod i ben, mae Radio Glangwili am ddathlu'r penblwydd drwy gynnal 35 awr ddi-dor o raglenni, gydag un troellwr, Steffan Davies am ddarlledu drwy nos Wener y 14eg o Ragfyr. Erbyn hynny bydd ein trydedd stiwdio wedi ei throi yn stiwdio ddigidol heb yr un record na chaset ar gyfyl y lle.

"Mae llawer wedi newid ym myd radio a darlledu er 1972 ond y bobol bwysicaf yw'r cleifion ac y mae'r casglwyr cyfarchion a cheisiadau llawn mor bwysig â'r gwirfoddolwyr sy'n cyflwyno'r rhaglenni," meddai Sulwyn Thomas, Llywydd/Cadeirydd Radio Glangwili

"Rydym wedi bod mor ffodus bod Cronfa Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol wedi cyfrannu £5,000 at gostau trawsnewid y stiwdio ac y mae Cyngor Tre Caerfyrddin, Tesco, Wilkinsons a'r Ford Gron wedi bod yn hael tuag atom yn ddiweddar fel y gallwn wireddu'r freuddwyd i symud i'r unfed ganrif ar hugain.

"Eisoes rydym yn darlledu ar 87.7FM yn lleol fel y gall pob claf sydd â radio personol glywed ein rhaglenni - symudiad gafodd gefnogaeth arbennig pobol y dre. Mae ein cylchgrawn Radio Glangwili Times yn gwbwl ddibynnol ar hysbysebion gan bobol busnes caredig y dre ac rydym yn ddiolchgar am bob cefnogaeth ar hyd y daith hir."


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Peidiwch â datgelu eich cyfenw os ydych o dan 16 oed.
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy