Anrhegion
Nadolig.
Rho i mi Sudoku consol
Er ei fod yn ddrud.
Gaf i gêm ciwb
I'm cadw yn llon?
0 Mr, Sion Corn,
Nid yw'n rhestr faith y flwyddyn hon!
Ni allaf
Anghofio
Diolch, Sion Corn,
Oherwydd hoffwn gael
Lego y flwyddyn hon.
I'ch cadw chi fynd drwy'r nos ar ei hyd
Gadawaf siocled sy'n wyn i gyd.
Diolchwn i chi am roddion diri',
A heddiw fe hoffwn gael 'gameboy SP'.
Fe gofiaf amdanoch trwy'r flwyddyn gron. Gobeithio y dewch chi y flwyddyn hon.
Gan: Claire
Hoffwn gael 'gameboy '
A 'Starwars 111',
A 'Fantasic Four',
Plis rhowch nhw i fi.
Rwyf wedi bod yn fachgen da,
Yn helpu dad a helpu mam.
Rwy'n helpu Steffan fy mrawd sy'n llai,
A gwneud yn siŵr nad yw'n cael cam.
Gan: Dafydd
I'r Nadolig,
Fe hoffwn i
Ystafell wely
I fi fy hun.
Ffôn symudol
A sawl CD,
A thrampolin
I fi gael sbri
Yn neidio fry
Gan: Jodie
I'r Nadolig
Os gwelwch yn dda,
Gaf i 'Laptop'
Neu grys Man U
A'r 'gameboy' newydd
A sgramblwr cae,
A ffôn symudol
I ffonio ffrindiau?
Rwyf wedi bod
Yn fachgen da,
Trwy'r flwyddyn gron,
O'r hydref i'r ha'.
Felly a ga'i nhw
Os gwelwch yn dda?
Gan: Robert
Ymddangosodd y penillion hyn yn rhifyn Rhagfyr 2005 o bapur bro Cwlwm.
 |