BBC HomeExplore the BBC

GWENER
27ain Tachwedd 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Cwlwm
Sioe amaethyddol Dyddiad newydd i Sioe Sir Gâr
Mehefin 2008
Mae Sioe Sir Gâr yn cael ei chynnal yn Nantyci ac yn ogystal â'r dosbarthiadau amrywiol i'r anifeiliaid bydd digon i ddiddanu'r teulu i gyd.

Dewch i sioe flynyddol newydd Sir Gâr i gwrdd â hen gyfeillion a mwynhau diwrnod allan yng nghwmni pethau gorau cefn gwlad gorllewin Cymru. Cynhelir sioe gyntaf Sioe Sir Car ar ddydd Sadwrn, 21 Mehefin 2008 ar Faes y Sioe, Nantyci, Caerfyrddin.

Bydd y sioe newydd hon yn cynnwys nifer o ddosbarthiadau ar gyfer amrywiaeth o anifeiliaid a fydd yn cystadlu am y prif wobrau - Gwartheg Llaeth a Bîff, Defaid, Ceffylau, Moch a Geifr Pygmy. Mae'r adran ddefaid yn cynnwys dosbarthiadau ar gyfer 16 gwahanol brîd!

Yn ogystal bydd yna amrywiaeth o adloniant ar faes y sioe i ddiddanu'r cyhoedd yn ystod y dydd gan gynnwys arddangosfa goginio gan Gareth Richards, sioe gŵn, Carlos y Clown, Seindorf Arian Crwbin, Carmarthen Twirlers, cystadleuaeth tynnu rhaff gan y Ffermwyr Ifanc, Pony Club Mounted Games a'r Adran Arddio.

Mae'r sioe yn cynnig llawer mwy na dim ond anifeiliaid gorau'r gorllewin. Bydd yna amrywiaeth o stondinau yn gwerthu gwahanol nwyddau gan gynnwys ceir, peiriannau, nwyddau ar gyfer yr ardd, gemwaith a chrefftau.

Darperir bws rhad ac am ddim rhwng y sioe a chanol tref Caerfyrddin. Felly cofiwch ddod yn llu i ymuno yn hwyl Sioe Sir Gâr ar ddydd Sadwrn 21 Mehefin 2008. Am fanylion pellach cysylltwch â Swyddfa'r Sioe: 01267 232141 neu'r wefan.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy