BBC HomeExplore the BBC

IAU
10fed Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Cwlwm
Carol, Bet a Jean. Llun clawr un o recordiau 'Dwy a Dime' Cyngerdd 'Unwaith Eto'
Mehefin 2006
Ar nos Sadwrn Gorffennaf 1, cynhelir cyngerdd go arbennig yn Neuadd San Pedr, Caerfyrddin pryd y gwahoddir artistiaid a sêr yr hanner can mlynedd ddiwethaf yn ôl i ymddangos ar lwyfan.
Mae Pwyllgor Apêl Eisteddfod yr Urdd 2007 Tref Caerfyrddin wedi gwahodd y Grŵp Beca o ardal Login at ei gilydd ynghyd â Dwy a Dime (Carol, Bet a Jean), yr hen ffefryn Phil Davies yr adroddwr digri o Hermon, y ddeuawd wefreiddiol Eirian a Meinir o Gwmann ger Llambed, Meinir Lloyd a Chôr Telynau Tywi yn ôl i ganu 'Cân y Celt' a chaneuon eraill, y cyn-enillydd cenedlaethol Yvonne Francis, y ddau grŵp lleol Y Diddanwyr a Y Melinwyr, y ddeuawd swynol Elin ac Eleri, a'r gantores a chyn Miss Asbri o Cross Hands - Rhian Rowe.

Bydd ymddangosiad arbennig gan yr anfarwol Ronw James Caerfyrddin, enillydd dros gant o gwpanau am ganu emyn. Fe ddaw Catrin Dafydd bob cam o Batagonia ac mae'n debyg y bydd sawl syrpreis arall.

Cyflwynir y noson gan Peter Hughes Griffiths. Y llywyddion fydd Cadeirydd Cyngor Sir Caerfyrddin, Roy Llewellyn, a Rhoswen ei wraig. Un o'r gwahoddedigion fydd Elfyn Lewis, Llanpumsaint - un a fu'n diddori cynulleidfaoedd am ddegawdau gyda'i berfformiadau digri.

Pris tocyn yw £7 a byddant ar gael yn Siop y Pentan ac M&J Caerfyrddin neu gan aelodau'r Pwyllgor. Ffoniwch 01267 232240 i archebu eich tocynnau ymlaen llaw. Mae hon yn argoeli bod yn noson fawr yn hanes adloniant yng Nghymru.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy