BBC HomeExplore the BBC

SADWRN
28ain Tachwedd 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Cwlwm
David Tomlin fel Will Parker a Mike Price fel Curly Mclain Adolygiad o Oklahoma!
Mehefin 2005
Cynhaliwyd perfformiad Oklahoma! gan y Gymdeithas Operatig Caerfyrddin "CAOS" yn Theatr Y Lyric, Caerfyrddin ar Fai 11eg i 14eg.

Roedd yr ymateb yn syfrdanol gan lenwi'r lle dan ei sang bob nos. Ysgrifennwyd Oklahoma gan Rogers & Hammerstein nôl yn 1942, ond roedd y perfformiad gan CAOS yn profi ei fod dal mor boblogaidd heddiw gan blesio'r gynulleidfa'n fawr.

Seiliwyd y sioe ar stori serch rhwng dau gymeriad, Laurie a Curly gan gynnwys y caneuon enwog "O What a Beautiful Morning" ac wrth gwrs "Oklahoma!" ei hunan.

Mike Price a Sally Woolridge oedd y ddau brif gymeriad a chafwyd perfformiad cryf iawn gyda'r ddau. Yn ogystal, roedd Kayley Richards a David Tomlin wedi chwarae Ado Annie a Will Parker, eto roedd y ddau wedi perfformio'n arbennig gan ychwanegu Ilawer o gomedi i'r sioe. Roedd Mathew Morgan yn chwarae rhan Ali Hakim, Ann Thomas yn chwarae Aunt Ela a Richard Rasmussen yn chwarae y dyn cas Jud Fry, roedd y tri wedi chwarae ei rôl i'r dim.

Rhaid talu teyrnged hefyd i'r grŵp cyfan oedd yn naill Ilai'n dawnsio, canu neu'n actio ac i bawb arall wnaeth helpu i'w threfnu a chefnogi.

Mae dros pedwar deg o aelodau yn rhan o'r gymdeithas, rhwng un deg pedwar a chwech deg chwech mlwydd oed. Rydym wastad yn edrych am dalentau newydd felly os oes gennych ddiddordeb i ymuno cofiwch gysylltu gyda'n Cadeirydd Mrs Val Hinkin ar 01267 221192.

Cofiwch hefyd os oeddech yn ddigon anffodus i golli'r sioe y tro hwn, mae'r gymdeithas yn cynnal sioe amser Nadolig sef "Robin Hood" ac yna "Me & My Girl" ym mis Mai 2006. Gwnewch nodyn yn eich dyddiadur, allwn sicrhau y byddech yn cael amser wrth eich bodd!


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy