BBC HomeExplore the BBC

IAU
10fed Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Cwlwm
Castell Cydweli Diwrnod Tywysoges Gwenllian
09 Mehefin 2003
Roedd Mehefin 12fed yn ddiwrnod y Dywysoges Gwenllian. Dyma beth o'i hanes ..
Merch Gruffydd ap Cynan, tywysog Gwynedd, oedd Gwenllian. Fe ddaeth hi'n wraig i Gruffydd ap Rhys, tywysog y Deheubarth ac Arglwydd Ystrad Tywi. Roedd e'n ddewr iawn ac ymladdodd lawer tro yn erbyn y Normaniaid. Fe gymerodd sawl castell oddi arnyn nhw, ac ennill yn ôl y tiroedd roedden nhw wedi eu dwyn oddi ar y Cymry.

Un o elynion y Cymry yr adeg honno oedd Maurice de Londres, y Norman drigai yng nghastell Cydweli. Ei fwriad oedd lladd Gruffydd ap Rhys a chymryd meddiant o'r wlad. Fe glywodd Gruffydd fod y gelyn yn paratoi i ymosod arno a bod byddin fawr ar ei ffordd dros y môr i ymuno â Maurice de Londres.

"Rhaid i mi fynd ar unwaith i Wynedd i ofyn am help Gruffydd ap Cynan," ebe Gruffydd ap Rhys. "Os af i ar unwaith fe fydda i'n ôl mewn pryd i arwain fy myddin yn erbyn y gelyn."
Galwodd ei benaethiaid ato a dywedodd wrthyn nhw,
"Fe adawa i'r llys yn eich gofal chi."
"Fe ofalwn ni na ddaw dim niwed i'th deulu nac i'th eiddo di tra byddi di i ffwrdd," oedd ateb y penaethiaid.

Yna, fe aeth y tywysog i Wynedd a'i fab hynaf Rhys gydag ef.

Ar ddydd Gwyl Dewi 1136 roedd gwylwyr ar ben Mynydd y Garreg yn gwarchod y castell. Daeth y newydd fod byddin fawr o Normaniaid wedi glanio ym Morgannwg ac y bydden nhw yng Nghydweli ymhen deuddydd. Aeth y gwylwyr ar frys i ddweud wrth Gwenllian.


Y frwydr
Y frwydr
"Rhaid i ni atal y gelyn rhag croesi afon Llwchwr a chyrraedd Cydweli," ebe Gwenllian.
"Fe anfona i'r rhan gadarnaf o'r fyddin i'w rhwystro nhw. Mi af i fy hun gyda'r rhan arall o'r fyddin i gadw Maurice y tu mewn i'w gastell. Dewch, fy meibion Maelgwn a Morgan, gyda mi."

Rywfodd - ac fe ddywedir mai bradwr o'r cylch fu achos hynny - fe lwyddodd byddin y Normaniaid i osgoi'r Cymry, ac yn fuan roedden nhw'n rhuthro y tu ôl i fyddin fechan Gwenllian. Yr un pryd fe ddaeth Maurice a'i wyr meirch allan o'r castell, ac fe ddaliwyd byddin Gwenllian rhwng byddinoedd y gelyn.

Bu brwydr ofnadwy, ac er i'r Cymry ymladd yn ddewr, fe gollon nhw'r dydd a daliwyd Gwenllian gan y gelyn. Lladdwyd Morgan ei mab dewr; cymerwyd Maelgwn yn garcharor, ac fe dorrwyd pen Gwenllian ar y maes a elwir hyd heddiw yn Faes Gwenllian'. Dyw Cymru ddim wedi anghofio dewrder Gwenllian, na chreulonder y Norman.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy