BBC HomeExplore the BBC

SUL
29ain Tachwedd 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Cwlwm
Y Parchedig Canon Dr. Patrick Thomas Pererindod Patrig
Mawrth 2004
Yn ystod y Canol Oesoedd heidiai pererinion o bob cwr o Dde Cymru i Eglwys Gadeiriol Tyddewi. Ar ddydd Mawrth 17 Chwefror cychwynnodd y Parchedig Canon Dr Patrick Thomas, Ficer Eglwys Dewi Sant ac Eglwys Crist, Caerfyrddin, ar yr un daith.

Cerddodd Canon Thomas 50 milltir i godi arian ar gyfer gwaith atgyweirio i Eglwys Dewi Sant. Dinistriwyd rhan o'r adeilad ym mis Tachwedd y llynedd pan gwympodd darn sylweddol o dalcen dwyreiniol corff yr eglwys i mewn i'r gangell. "Mae'n gwbl wyrthiol na chafodd neb niwed," dywed Canon Patrick, "Er gwaetha'r her sydd o'n blaen ni i adfer yr eglwys, mae gennym lawer i ddiolch i Dduw amdano."

Man cychwyn y pererindod oedd y Clôs Mawr, pen dwyreiniol plwyf Dewi Sant. Dymunwyd yn dda i'r Canon a'i gyd-bererinion gan Gadeirydd Cyngor Sir Gaerfyrddin, Y Cyng. Dilwyn Williams, a Maer Tref Caerfyrddin, Y Cyng. Peter Hughes Griffiths. Croesawyd y pererinion yn ystod eu taith gan y meiri yn Sanclêr, Hendy-gwyn ar Daf, Arberth, Hwlffordd a Thyddewi, a daeth sawl clerigwr i fendithio'r cerddwyr wrth iddynt fynd trwy eu plwyfi. Yn eu plith oedd dau offeiriad â'u gwreiddiau yng Nghaerfyrddin: Canon Derek Evans, Hwlffordd, a'r Parchedig Peter Lewis, Arberth.

Ar y diwrnod cyntaf cerddodd y pererinion mor bell â Hendygwyn, lle roddwyd croeso arbennig iddynt yng Nghanolfan Hywel Dda. Aethant ymlaen trwy Arberth i Glwb Golff Hwlffordd at y dydd Mercher. Ar ddechrau trydydd dydd y daith cafwyd derbyniad swyddogol i'r pererinion ym Mharlwr Maer Hwlffordd. Teithiasant i Solfach y diwrnod hwnnw. Daeth y pererindod i'w derfyn ar y dydd Gwener wrth i'r cerddwyr fynd yn hamddenol yn yr haul ar hyd llwybr yr arfordir o Solfach i Gapel Non.

Cynhaliwyd gwasanaeth arbennig i roi diolch am y pererindod yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi yn y prynhawn. Gweinyddwyd y Cymun Bendigaid gan y Deon, Y Tra Pharchedig J. Wyn Evans.

"Cawsom gymorth gan lu o bobl wrth baratoi ar gyfer y pererindod," medd Canon Patrick. "Trefnwyd y daith yn ofalus gan Mr Malcolm Jones a Mr Eric Jones, ac rwy'n ddiolchgar dros ben iddynt ac i bob un arall a fu'n helpu. Comisiynodd un o aelodau'r eglwys bastwn arbennig gyda wyneb Dewi Sant wedi'i gerfio arno i'm cynorthwyo wrth gerdded. Roedd fy nghydgerddwyr yn bobl hyfryd a'r derbyniad ar hyd y ffordd yn ardderchog.

Gwerthfawrogaf garedigrwydd pobl Caerfyrddin a'r cylch sydd wedi noddi'r pererindod gyda haelioni neilltuol. Nid yw'r arian i gyd wedi dod mewn eto, ond rydym yn ffyddiog ein bod wedi codi rhai miloedd o bunnoedd at yr atgyweirio. Bellach mae'r traed yn dost ond yr ysbryd yn uchel a'r galon yn llawen tu hwnt."

Dyma'r ail dro i'r Canon Patrick Thomas bererindota i Dyddewi. Fe gerddodd a bodiodd ei ffordd yno o'r Amwythig yn 1972 pan roedd yn fyfyriwr ifanc, di-Gymraeg. "Roeddwn yn llawer sioncach bryd hynny," meddai'r Canon. "Chwaraeodd y daith honno ran allweddol yn fy ngalwad i'r offeiriadaeth a'm penderfyniad i ddod yn ôl i Gymru a meistrioli iaith fy nghyndadau. Byddaf yn ddigon hapus os bydd yr ail bererindod hwn yn fodd i helpu ail-agor Eglwys Dewi Sant - eglwys plwyf Cymraeg hynod o hardd."


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy