BBC HomeExplore the BBC

MERCHER
2il Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Cwlwm
llun o Ieuan Wyn Jones Agor pont newydd
Ionawr 2008
Agorwyd y bont newydd dros yr afon Tywi yn nhref Caerfyrddin yn ddiweddar, sy'n cysylltu'r orsaf reilffordd â chanol y dref gan Ddirprwy Brif Weinidog y Cynulliad Ieuan Wyn Jones.

Roedd y Dirprwy Brif Weinidog yn agor y bont ynghyd â'r Cynghorydd Meryl Gravell, Arweinydd Cyngor Sir Gaerfyrddin ar ddydd Iau y 6ed o Ragfyr 2007. Hon yw'r bumed bont yn nhref Caerfyrddin sy'n croesi'r afon Tywi ac fe gostiodd y prosiect £2.8 miliwn a talwyd amdani'n llwyr gan Lywodraeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

llun o'r bont newydd.Ei safon uchel a'r manylion sy'n dangos ôl cryn feddwl yw nodweddion amlycaf y bont ac mae'r adeiladwaith dau fast yn gweddu i'r dim i dirwedd y gwastatir.

Enwyd y bont ar ôl y brodyr Jack a Gwyn King Morgan a fu'n rhedeg fferyllfa enwog yn y dref am ddegawdau a chyfrannu miloedd o bunnoedd i achosion lleol.

Ar ddydd yr agoriad y cyntaf i groesi'r bont roedd plant Ysgol Llangynnwr ar un ochr a phlant Ysgolion Caerfyrddin ar yr ochr arall gan gyfarfod yn y canol lle mae plac sy'n dynodi'r agoriad swyddogol.

llun o'r bont King Morgan

Trefnwyd bod lle eang i barcio ceir yn awr wrth yr orsaf ac mae maes parcio bysiau newydd hefyd wrth y bont. Mae'r rheilffordd mor gyfleus bellach i ganol Caerfyrddin, a'r gobaith yn awr yw gweld ardal y cei yn cael ei datblygu fel y bydd glan yr afon yn atyniad pleserus i bawb gan gofio pwysigrwydd hanesyddol y rhan hon o'r dref.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Peidiwch â datgelu eich cyfenw os ydych o dan 16 oed.
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy