BBC HomeExplore the BBC

SUL
29ain Tachwedd 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Cwlwm
Tudur Dylan Jones Llongyfarchiadau i Tudur Dylan
Hydref 2005
Llongyfarchiadau mawr i Tudur Dylan Jones wrth iddo ennill ei ail gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Eryri a'r Cyffiniau eleni.

Ysgrifennodd awdl mewn cynghanedd gyflawn ar y thema 'Gorwelion'. Trosglwyddo etifeddiaeth yw thema'r gwaith a hynny'n cael ei ddarlunio trwy gyfrwng tad yn cyflwyno'r etifeddiaeth Gymreig ar ffurf straeon i'w ferch fach - merch sydd, yn ôl Tudur Dylan, yn gyfuniad o'i ddwy ferch of ei hun: Catrin, 15, a Siwan, 11.

"Efallai ei bod hi'n ofn gan bob un ohonom ni yn y pen draw ein bod ni'n heneiddio a bod straeon oeddem ni'n arfer eu cofio yn mynd yn angof," meddai.

Daeth ei lwyddiant cyntaf yn Eisteddfod Abergele yn 1995, union ddeng mlynedd yn ôl. Mae Dylan yn ymuno â chriw dethol o brifeirdd sydd wedi eu cadeirio ddwywaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Mae rheolau'r Eisteddfod yn dweud na all Prifardd ennill mwy na dwy gadair felly dyma'r tro olaf i ni allu canmol Dylan ar ei gamp.

Cynhaliodd Ysgol Farddol Caerfyrddin noson i'w gyfarch ac i ddathlu ei lwyddiant yn neuadd yr Halliwell yn ddiweddar. Roedd hi'n noson arbennig iawn ac yn gyfle i bobl y cylch i ddangos ein gwerthfawrogiad o'i lwyddiant. Llongyfarchiadau mawr Dylan.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy