BBC HomeExplore the BBC

GWENER
1af Ionawr 2010
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Cwlwm
Ken Lloyd (Maer Caerfyrddin), Jacob Nyirongo a Tom Defis Tom yn cnoi cil ar y credit crynsh
Gorffennaf 2009
Mae trigolion Caerfyrddin wedi bod yn casglu arian tuag at Gymorth Cristnogol, er gwaetha'r wasgfa ariannol.

Erbyn i'r rhifyn hwn o Cwlwm gyrraedd o'r Wasg, mi fyddwn yn gwybod yn well a fu casgliadau Wythnos Cymorth Cristnogol mor llwyddiannus ag arfer. Nid yw'n argoeli'n dda oherwydd y "credit crynsh", y gosodiad yna sydd yn esgus am bob diffyg bellach.

Y mae ein partneriaid megis Jacob Nyirongo o Malawi yn poeni'n fawr y bydd tipyn llai o arian ar gael i'w ddosbarthu eleni. Bydd lleihad yn incwm Cymorth Cristnogol yn effeithio ar gymaint o gymunedau tlawd y byd, gan mai Cymorth Cristnogol yw'r mudiad gwirfoddol sydd yn dosbarthu'r symiau uchaf o grantiau rhyngwladol i bartneriaid sy'n gweithio i nerthu'r gwan a'r tlawd, a hynny mewn dros hanner cant o wledydd tlota'r byd.

Mi fydd llawer wrth gwrs, yn barod i ddatgan "pam ddylen ni boeni?! Nid dyma ein blaenoriaeth ni yn y sefyllfa ariannol bresennol. Nid ni sydd yn gyfrifol am gyflwr y tlawd. Nid yw tynged y tlawd yn ein dwylo ni.

Y gosodiad ar adnoddau Cymorth Cristnogol yw "Credwn mewn byw cyn marw". Mi fydd lleihad yn yr arian fydd ar gael i gynnal prosiectau ymhlith y tlawd yn fwy difrifol nag effaith y "credit crynsh" arnom ni, gan y bydd yn fater o fywyd neu marwolaeth i lawer.

Sut gallwn ni weithredu i ddiogelu'r gwan a'r tlawd pan fo prinder arian? Y mae Cymorth Cristnogol yn credu bod angen codi arian ond hefyd, fod angen ymgyrchu a gweithredu i newid yr hyn sydd yn cadw'r gwan yn dlawd.

Y mae tre Caerfyrddin a Sir Gaerfyrddin wedi gwneud ymdrech arbennig yn ddiweddar i ennill statws Masnach Deg, a hynny flwyddyn ar ôl i Gymru gofrestru fel y wlad Masnach Deg. Y mae yfed te a choffi, bwyta cacennau a ffrwythau, gwisgo dillad a mwynhau siocled o ddeunyddiau Masnach Deg yn gwneud gwahaniaeth mawr i incwm y tlawd ac yn cyfrannu at brosiectau cymunedol.

Yn ogystal â hynny, y mae'n sicrhau bod lleihad mewn llafur plant, a'u bod hwythau yn cael cyfle i fynd i'r ysgol yn lle gweithio ar y planhigfeydd coco ac ati.

Mi fyddwn yn ymfalchïo ein bod wedi gweld ffrwyth y gwaith caled i gyrraedd y statws, ac yn canmol yr ymdrech arbennig i brynu a defnyddio nwyddau Masnach Deg. Wrth gwrs, y mae'r gosodiad Masnach Deg yn awgrymu bod y fasnach arferol yn annheg, a dyna'r gwir, wrth gwrs. Dim ond gwneud yr hyn sydd yn iawn yw Masnach Deg.

Yr ydym ni yn rhannol gyfrifol am gyflwr y tlawd oherwydd masnach annheg a rheolau masnach ryngwladol sy'n anghyfiawn, fel y'm ni'n gyfrifol am dynged y tlawd oherwydd newid hinsawdd.

Camddefnydd a gorddefnydd o adnoddau'r byd gan y gwledydd sydd wedi datblygu sydd yn achosi'r problemau, a'r gwledydd a'r cymunedau tlawd sy'n dioddef waethaf yn sgil newid hinsawdd.

Y mae'r gwledydd cyfoethog bellach yn torri ar y gwasanaethau hanfodol, fel gofal iechyd ac addysg, er mwyn arbed arian ac osgoi codi trethu. Efallai y caf i gyfle eto i sôn am yr ymgyrch i dynnu sylw at y cwmnïau mawr sy'n osgoi talu treth yn y gwledydd tlawd a hynny'n tanseilio eu system addysg a gofal iechyd.

Y mae cymaint i'w wneud, hyd yn oed mewn sefyllfa o brinder, a all gyfrannu'n sylweddol at yr ymdrech i nerthu'r gwan a'r tlawd.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy