BBC HomeExplore the BBC

LLUN
30ain Tachwedd 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Cwlwm
Llun llong lusitania Trysor
Ebrill 2008
T.Gwyn Jones, Golygydd cyntaf Cwlwm a un o Lywyddion Gŵyl Dramâu Cwlwm 2008 yn sôn am ei drysor ac R.M.S Lustania aeth i'r dyfnder ar Mai 7fed, 1915.

Mae'n siŵr i chi ddarllen yn rhifyn diwethaf o Cwlwm (Mawrth 2008), ein bod yn dathlu pen-blwydd arbennig yn 30 oed eleni ac i'r rhifyn diwethaf ddigwydd bod y tri chanfed rhifyn. Codwyd y syniad i gysylltu a T.Gwynn Jones, Golygydd cyntaf Cwlwm ac un o Lywyddion Gŵyl Dramâu Cwlwm sy'n digwydd ar ddechrau'r mis hwn. Cododd Nan Lewis y ffôn ac roedd yn barod iawn ei gymwynas. Dywedodd y byddai TRYSOR ar ei ben ei hun wedi ei siwtio'n well ac fe gewch weld pam yn y man. Dyma T. Gwynn i sôn am yr hanes.

Fe fenthyciais lyfr o Lyfrgell Abergwaun o'r enw Lusitania - The Ship and Her Record. Fe'i cefais yn llyfr arbennig o ddiddorol, a chan mod i'n byw yng ngolwg y môr, fe fagais ryw ddiddordeb yn y stori, er bod gen i fwy i'w ddweud wrth gi defaid nag wrth long.

'Ychydig o gefndir i gychwyn. Ar ddechrau'r ganrif ddiwethaf, roedd hi'n gyfnod "Rule Britannia, Britannia Rules the Waves". Ond yn 1897, fe adeiladodd yr Almaenwyr long enfawr bedair simne - y llong fwyaf i groesi'r Iwerydd, a'r gyflymaf hefyd. A dyna grib oes Fictoria wedi ei thorri, ac am ddegawd fe aeth pethau o ddrwg i waeth, a llongau'r Almaen yn mynd yn fwy ac yn fwy. A doedd pethau ddim yn dda rhwng Prydain a'r Almaen - roedd sŵn rhyfel ym mrig y moroedd- Rhaid oedd cystadlu â'r Almaen, doed a ddelo.

Rhoddodd Llywodraeth Prydain fenthyg dros ddwy filiwn a hanner o bunnau i gwmni Cunrad i adeiladu dwy llong enfawr - y Mauritania Lusitania i fynd nôl a blaen i'r Amerig. Roedd yna amodau clir. Roedd y ddwy long i gael eu hadeiladu i fod yn llongau rhyfel pe bai raid; roedd y ffurfafen wedi dechrau duo bryd hynny yn 1907 a rhaid oedd cystadlu â'r Almaenwyr ac achub y blaen. A rhaid cofio mai llongau pleser moethus oeddynt.

Roedd y Lusitania yn 790 troedfedd o hyd - hyd dau a hanner o feysydd pêl-droed. Anferth o long a'r llong fwyaf moethus a rodiodd y moroedd. Gallai groesi'r Iwerydd mewn llai na phum niwrnod. Y 'ni' oedd yn rheoli 'nawr, er mawr ofid i'r Almaen, a gyda 'ni' oedd y llaw uchaf.

Fe'i lansiwyd ar ei thaith gyntaf ar Fedi 12, 1907, a 200,000 o bobl yn ei gwylio'n gadael Lerpwl. Fe dorrodd y rhyfel ar Awst 4ydd, 1914. Ar 1af o Fai 1915, hwyliodd y Lusitania o Efrog Newydd am Lerpwl. Ar y 7fed o Fai, a hithau rhyw ddeuddeg milltir o Iwerddon, 'roedd sybmarîn Almaenig - yr U-20 yn llercian. Fe daniodd un torpido at long bleser fwyaf y byd, ac o fewn deunaw munud roedd y Lusitania ar ei ffordd i waelod y mor. Arni yr oedd 1,257 o bobl a 650 o griw. Boddwyd 785 o bobl a 413 o'r criw, a hynny o fewn chwarter awr. Bu sawl ymdrech gan ddeifwyr dros y blynyddoedd i chwilio'r olion. Erbyn hyn, 'does fawr ohoni ar ôl - llong fwyaf ei dydd, a'r harddaf, bellach yn ddim and tomen o fetel ar waelod yr Iwerydd, tua 300 troedfedd i lawr.

Ond mae'n bryd dod â'r stori i ben. Ac nid wyf wedi sôn am y TRYSOR. Roedd yr Almaen mor falch o fod wedi ennill y wobr fawr, ac yn llawenhau cymaint nes taro medal i gofio'r achlysur - 300 o fedalau aur a channoedd o rai pres, a bocs gyda llun y llong arno i ddal y fedal ac mae gen i un o'r medalau pres. O le y daeth hi? Roedd teulu fy nhad yn byw mewn tyddyn bychan o'r enw Cadwst wrth droed mynydd y Berwyn - tyddyn bychan, teulu mawr - a bywyd yn sicr o fod yn galed, ac yn dlawd. Ac wedi i'r olaf o'r teulu adael y tyddyn yn y chwedegau, fe fu clirio.

Ac felly y daeth y fedal i'm dwylo i. " Trysor" meddech chi. Dim and ar un olwg. Mae edrych arni, a'i byseddu yn deffro'r cof am Cadwst, ac yn ail-greu'r darlun sydd gen i yn fy meddwl o fy nhaid, a theulu fy nhad. Hwnnw yw'r trysor - ac mae'n drueni mai un o ddigwyddiadau erchyll y Rhyfel Mawr sydd y tu ôl i'r cyfan. Ond ei chadw yn y cwpwrdd gwydr fydd ei hanes, siŵr o fod.

T. Gwynn Jones

0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy