BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Clebran
Y Preseli Hanes Eglwyswrw
10 Hyfref 2002
I esbonio hanes unrhyw gymuned, mae angen lle ac amser ymhell y tu hwnt i gyrraedd colofn yn Clebran. Felly, wrth edrych ar hanes Eglwyswrw, rhaid dewis rhywbeth canolog yn hanes y pentref a cheisio gwneud y defnydd gorau ohono i roi blas i'r darllenydd am yr hyn a fu.
Efallai mai'r canolbwynt amlycaf yw sgwâr y pentre. Heddiw mae nifer o adeiladau o bwys yn sefyll o amgylch y sgwâr sef tafarn y Serjeants, yr Arfdy ac eglwys y plwyf. O ddewis y rhain fel canolbwynt, gallwn adrodd llawer am hanes y fro.

Yn gefn i ni, mae yna ddwy ysgrif Gymraeg werthfawr iawn ar Hanes Eglwyswrw; y naill yn dyddio o 1870-75, gan awdur anhysbys, sy'n cael ei chadw yn Archifdy Hwlffordd, y llall gan Harry Lewis, Pantygarn sy'n dyddio o 1913 ac yn dal yn nwylo teulu lleol.

Ychydig a wyddom am hen hanes Eglwyswrw, ond pan ledaenwyd yr heol rhwng yr ysgol ar eglwys rai blynyddoedd yn ôl, cafwyd cipolwg i mewn i'r gorffennol pell wedi i Archeoleg Cambria fod yn cloddio (Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed gynt).

Beddau o dan y ffordd
Am un peth, profodd archeolegwyr fod beddau o dan y ffordd ac i lawr i gyfeiriad y sgwâr - beddau sy'n gorwedd o dan haenen o gerrig sydd â darnau o grochenwaith canoloesol yn gymysg â nhw. Felly mae'n rhaid mai beddau canoloesol cynnar oedd y rhain: beddau trigolion yr ardal cyn y l3eg ganrif.

Diddorol nodi hen draddodiad sy'n cael sylw awdur anhysbys yr ysgrif yn Archifdy Hwlffordd, fod beddau wedi cael eu ffeindio o dan y sgwâr, o gwmpas y Serjeants a hyd yn oed draw i gyfeiriad y Swyddfa Bost a'r Plough yn y gorffennol.

Mae gwaith archeolegol modern felly wedi profi bod hyn yn debyg o fod yn wir, a bod y fynwent ganoloesol yn llawer mwy na'r fynwent bresennol.

O dan y beddau, gwelwyd olion cynharach. Datgelwyd rhan o ffos gron oedd o bosib yn dynodi ymyl claddfa neu garnedd o'r Oes Efydd, 4,000 o flynyddoedd yn ôl. Ond ni welwyd digon i fod yn sicr ac roedd rhaid gorffen cloddio heb gael atebion pendant.

Yr unig beth amlwg oedd bod y bryncyn lle saif yr eglwys heddiw wedi bod yn ganolbwynt i'r gymuned leol am dros 700 mlynedd, ac o bosib llawer hwy.

Pwy oedd Gwrw?
Un o'r cwestiynau cyntaf i mi ofyn pan welais Eglwyswrw am y tro cyntaf oedd: pwy oedd Gwrw? Wedi'r cyfan mae'r eglwys ei hun wedi ei chysegru i Sant Cristiolus. Yn sicr, nid Eglwys Erw yw'r esboniad cywir am enw'r pentre na'r plwyf.

Dywed traddodiad (a'r hanesydd Elisabethaidd enwog George Owen, Henllys, Felindre Farchog) mai gwyryf o sant oedd Gwrw neu Wrw, a bod capel yn gysegredig iddi wedi sefyll yn y fynwent, hyd at y l6eg ganrif o leiaf.

Dywed traddodiad hefyd bod ofn ar bobol yr ardal i gladdu'r meirw yn y capel am y byddai ysbryd y sant yn siwr o'u taflu allan; ni chysgai Wrw gyda neb arall am mai gwyryf ydoedd wrth gwrs.

Mae'r traddodiad yma yn rhoi gwir ystyr enw'r pentre i ni, dybiwn i, sef Eglwys Wrwyf - The Church of the Virgin. Byddai tafodiaith yr ardal yn sicrhau bod Eglwyswrwyf yn troi yn Eglwyswrwy ac wedyn yn Eglwyswrw.

Mae yna ffynnon sanctaidd hynafol yn ymyl y pentref hefyd (ger yr hen gastell). Ffynnon Fair yw honno ac mae'r cysylltiad rhwng enw'r Forwyn Fair, y ffynnon a'r eglwys yn un amlwg.

Adlais o ddylanwad yr hen eglwys Gatholig sydd i'w gael yma i bob golwg, wedi goroesi mewn traddodiad cymysglyd am Sant Gwrw ers canrifoedd lawer.

Dwy wyl flynyddol
Adlais arall o'r cyfnod Catholig oedd cynnal dwy wyl flynyddol yn y pentre 'slawer dydd. Ar Dachwedd y 3ydd y dathlwyd Dydd Gwyl Wrw yn Eglwyswrw, er yn rhyfedd iawn, Dydd Gwyl Cristiolus yw Tachwedd 3ydd yn ôl y calendr eglwysig. Hydref 21 oedd dyddiad cywir Gwyl Wrw.

Roedd dathlu mawr hefyd ar Iau'r Dyrchafael. Yn ôl awdur anhysbys yr ysgrif yn Archifdy Hwlffordd, roedd y gwyliau hyn wedi troi yn ffeiriau ac yn y diwedd dirywio i fod yn ddiwrnodau o ymladd.

Roedd Iau'r Dyrchafael yr achlysur i wyr Eglwyswrw ymladd yn erbyn gwyr yr Eglwyswen am flynyddoedd lawer. Tybed ai gêm o gnapan rhwng gwyr y ddau blwyf oedd y tu cefn i'r ymladdfa?

I droi yn ôl at hanes Ffynnon Fair, mae'n rhaid nodi bod y ffynnon hon yn dal i gynhyrchu miloedd o alwyni o ddwr ffres bob awr o'r dydd.

Erbyn tua 1800, roedd y llyfrwerthwr a'r siopwr enwog Caleb Evans, Eglwyswrw, wedi adeiladu bath oer iddo'i hun ar safle'r ffynnon sanctaidd.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, trowyd yr hen ffynnon a bath oer Caleb Evans i mewn i ffynhonnell ddwr ar gyfer canolfan y Land Army (oedd hefyd yn cael ei ddefnyddio fel gwersyll i garcharorion rhyfel am dro).

Mae'r gwersyll, i fyny'r rhiw y tu ôl i swyddfa bost y pentre, bellach yn dy annedd wedi ei foderneiddio. Darn mawr o goncrid hyll sy'n cuddio'r ffynnon sanctaidd, ond mae'r dwr gloyw glân yn dal i fyrlymu i'r wyneb a llifo tua'r afon Gafren gerllaw.


Erthygl gan Paul Sambrook o Eglwyswrw, archeolegydd yn gweithio gydag Archeoleg Cambria.

Mae Paul Sambrook bellach yn un o bartneriaid Trysor, ymgynghorwyr treftadaeth yn Ne-orllewin Cymru.
Gol. Mai, 2005.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy