BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Hanes Lleol

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Twm Sion Cati wedi ei ddylunio gan Margaret Jones ar gyfer y llyfr Twm Siôn Cati - Y 'Robin Hood' Cymreig
Mae'r lleidr hoffus yn aml yn dod yn ffigwr diwylliannol poblogaidd, yn enwedig os yw'n ymladd dros y werin ac yn erbyn yr awdurdodau.

Yn rhyngwladol, un o'r enghreifftiau enwocaf o'r ffigwr yma yw'r Robin Hood, a oedd, yn ôl y sôn, yn cuddio yng nghoedwig Sherwood, ger Nottingham yn ystod cyfnod y brenin Rhisiart y Cyntaf o Loegr. Mae ei stori ef yr un mor boblogaidd heddiw ag yr oedd 700 mlynedd yn ôl.

Mae gan Gymru ei fersiwn ei hun o chwedl Robin Hood yn Twm Sion Cati; arwr o herwr o Dregaron, a arferai grwydro ardaloedd gorllewinol a chanolbarth Cymru. Mae cyfoeth o chwedlau poblogaidd wedi codi allan o'i anturiaethau. Caiff ei hanes ei ddathlu mewn cerddi, caneuon a storïau.

Chwedl a hanes yn gymysg
Mae didoli'r dyn oddi wrth y chwedl yn dasg anodd, gan fod mwy o storïau wedi goroesi am anturiaethau ieuenctid Twm nag sydd o gofnodion ffeithiol am ei fywyd go iawn. Er hynny, cafodd ei fywyd ei gofnodi gan ddramodwyr a chofianwyr fel ei gilydd, felly mae ambell ffaith ar gael ar ein cyfer ni. Enw iawn Twm Siôn Cati oedd Thomas Jones, a bardd ac achestrydd Cymreig ydoedd. Roedd yn byw rhwng 1530 a tua 1620, a chafodd ei eni mewn tŷ o'r enw Porth y Ffynnon, ger Tregaron, Sir Aberteifi.

Ceir stori sy'n mynnu bod Twm yn fab anghyfreithlon i'r sgweier lleol, Syr John Wynn o Gwydir,. Ond mewn gwirionedd, ei dad oedd John, mab Dafydd ap Madog ap Howel Motheu. Ei fam oedd Catherine, merch Meredydd ap Ieuan, a dyna o lle y daeth y 'Cati' yn ei enw.

Anturiaethau cynnar
Yn ystod ei flynyddoedd cynnar, datblygodd Jones enw iddo'i hun fel 'Twm Siôn Cati', y lleidr pen ffordd. Nid oedd ond yn dwyn, yn ôl y sôn, oddi ar y cyfoethog. Serch hynny, nid oes yna fawr o dystiolaeth y byddai'n rhoi'n rheolaidd i'r tlawd. Ym 1833 ysgrifennodd Samuel Lewis fod Twm yn "mwynhau, yn ôl traddodiad, hynodrwydd llai dymunol, oherwydd ei arfer o ysbeilio'i gymdogion, a chael ei ystyried yn leidr arbennig a deheuig". ( 'A Topographical Dictionary of Wales' 1833).

Mae'n hysbys bod Twm wedi derbyn peth addysg ffurfiol a bod ganddo'r enw o fod yn fedrus ac yn gyfrwys, yn gastiwr a allai dwyllo ffermwyr ac arglwyddi fel ei gilydd. Yn y rhan fwyaf o storïau am Twm, efallai y caiff ei gofio orau am ei dynerwch i'r rhai yr oedd yn eu hysbeilio. Er mwyn osgoi eu hanafu neu eu lladd, roedd yn anelu saeth a fyddai'n sodro'i brae i'w gyfrwy.

Herwr llawn castiau
Mae un stori enwog yn adrodd hanes Twm yn ymweld â haearnwerthwr yn Llanymddyfri er mwyn prynu potyn uwd. Daeth yr haearnwerthwr allan â nifer o botiau a chafodd Twm wybod, ar ôl holi am ansawdd a chost y potiau, na fyddai gwell i'w gael mewn cegin brenin. Daliodd Twm un o'r potiau i fyny at y golau a dywedodd y gallai weld twll ynddo. Daliodd yr haearnwerthwr y potyn i fyny i'w archwilio a dyma Twm yn rhoi'r pot am ei ben gan ddweud oni bai bod yna dwll ynddo sut allai pen mor fawr a gwirion gael ei ddal y tu fewn!

Yn aml fe guddiai oddi wrth Siryf Sir Gaerfyrddin ar lethrau coediog a charegog Mynydd Dinas, yn agos i bentref Rhandirmwyn, Sir Gaerfyrddin. Mae'r pentref wedi ei leoli wrth droed Mynyddoedd y Cambria, ac roedd y tiriogaeth creigiog a garw yn dir delfrydol i ladron.

Mae'n cael ei dderbyn yn gyffredinol mai ogof oedd cuddfan Twm, - ar y llethrau uwchben ceunant creigiog lle mae'r Tywi'n llifo'n beryglus o gyflym. Hyd heddiw mae 'Ogof Twm Siôn Cati' yn lle anghysbell a diarffordd. Fe'i ceir yn ardal Mynydd Dinas, sydd erbyn hyn yn warchodfa RSPB. Mae llwybr troed wedi ei nodi o gwmpas y mynydd ac mae dargyfeiriad i ogof Twm.

Heneiddio ac ymbarchuso
Mae chwedl boblogaidd yn dweud bod Twm wedi priodi, trwy gynllun craff, â Joan, merch Syr John Price, o'r Priordy, Aberhonddu. Hi oedd etifeddes Ystradffin. Mae'n debyg bod Twm yn ei saithdegau pan briododd, a bod Joan yn weddw gyfoethog i gyn Siryf Sir Gaerfyrddin, swydd a lenwodd Twm ar ôl y briodas, gan ddod wedyn yn ynad lleol hefyd.

Dyna'r eironi olaf mewn gyrfa a welodd Twm yn codi o dlodi i gyfoeth ac yn dod yn rhan o'r dosbarth llywodraethol y bu ef unwaith yn gwrthryfela yn ei erbyn. Y dyddiau hyn, fe fyddai'r cyfryngau yn debyg o'i gyhuddo o ragrith.

Cafodd nifer o straeon am ei fywyd - rhai yn fwy gwir na'i gilydd - eu casglu at ei gilydd gan yr hanesydd, Meyrick, yn ei 'History of Cardiganshire' 1810 ac fe gawson nhw'u datblygu ymhellach, yn fwy-fwy allan o'u cyd-destun gan W.F. Deacon, mewn sgetsh 'Twm John Catty, the Welsh Robin Hood', a gynhwyswyd yn yr 'Innkeeper's Album', 1823, ac mewn drama gan yr un awdur, o dan y teitl 'The Welsh Rob Roy'. Cafodd anturiaethau Twm hefyd eu cynnwys yn yr hyn sydd wedi ei ddisgrifio fel 'Y nofel Gymreig gyntaf yn Saesneg' - 'The Adventures and Vagaries of Twm Shon Cati' gan T. J. Llewelyn Pritchard yn 1828, oedd mor boblogaidd nes iddi gael ei lleidr-argraffu yng nghanol y 19eg ganrif.

Pardwn brenhinol
Ar ôl ei anturiaethau, dywedir i Twm ffoi i Genefa ym 1557, gan ddychwelyd ddwy flynedd yn ddiweddarach i dderbyn Pardwn Brenhinol ar Ionawr 15, 1559, ac felly gael ei esgusodi am ei holl droseddau a'i weithgareddau troseddol. Tra'i fod yn cael ei dderbyn gan y rhan fwyaf o haneswyr bod y storïau am ei ieuenctid yn addurniadau ar orffennol oedd, mae'n sicr, yn cynnwys ysbeilio, mae'r dyn a'r chwedl yn gwahanu ar ôl pardwn Twm ym 1559.

Roedd blynyddoedd olaf bywyd Twm wedi eu neilltuo i astudio hanes a llenyddiaeth Gymreig. Mae'n ymddangos iddo gael ei gyflogi gan brif fonheddwyr Cymreig Sir Aberteifi i lunio'u hachresi teuluol. Roedd herodraeth yn wyddor ddirgelaidd ar y pryd, gydag arlliw o'r ocwlt yn perthyn iddi. Nid rhyfedd felly, i Twm gael ei ddisgrifio fel swynwr o fri. Byddai'r gallu i ymchwilio a chynhyrchu achresi wedi ei roi mewn sefyllfa gref, gan bod achres yn ddogfen o gryn bwysigrwydd ar gyfer y teuluoedd hynny oedd eisiau profi eu treftadaeth a'u statws.

Mae nifer o'i weithiau ar herodraeth ac achresi teuluoedd wedi goroesi, gweithiau sy'n rhoi hanes manwl am deuluoedd Sir Aberteifi ac sy'n ffurfio cyfraniad nodedig i hanes y Gymru Duduraidd yn gyffredinol. Cafodd nifer o'i weithiau barddonol eu cyhoeddi hefyd, ac mae copïau o'r rhain yn cael eu cadw yn y Llyfrgell Brydeinig. Fe ddywedir i Twm iddo fod yn bresennol a chael ei urddo mewn Eisteddfod a gynhaliwyd yn Llandaf ym 1564.

Y chwedl yn parhau
Anturiaethau cynnar drwgenwog Thomas Jones sy'n ffurfio sail y syniad poblogaidd ohono fel Twm Sion Cati y lleidr. Gan roi'r chwedl a'r llysenw heibio, enillodd Thomas Jones enw mwy parchus fel Ustus Heddwch, tirfeddiannwr, bardd a hanesydd. Roedd yn arbennig o enwog am ei wybodaeth o achau ac o herodraeth. Fe'i disgrifiwyd gan ei gyfoedyn, Dr John Davies Rhys, fel arwyddfardd enwocaf, cyflawnaf a chywiraf ei gyfnod (Rhys, 'Gramadeg y Gymraeg' 1592).

Er bod cynifer o gerddi, storïau a dramâu wedi eu hysgrifennu am anturiaethau Twm, nid yw mor enwog â Robin Hood o Loegr. Does dim un ffilm o Hollywood yn dangos gweithgareddau Twm, a does dim diwydiant twristiaeth wedi tyfu o gwmpas man ei eni. Efallai mai un o'r rhesymau am hyn yw am nad oedd ei anturiaethau'n ymwneud â ffigurau brenhinol, ac nad oedd cefndir bonheddig honedig ganddo, fel oedd gan Robin Hood.

Cafodd ail hanner bywyd Twm ei ddogfennu fel hanes dibynadwy, ac mae'n bosibl bod hyn wedi rhwystro'r myth rhag tyfu yn ddilyffethair. Serch hynny, er na ddaeth enwogrwydd byd-eang i ran Twm, mae'r gwirionedd am yr anturiaethwr amryddawn ac aml-weddog hwn yn dal yn procio'r dychymyg ac yn rhoi awyrgylch rhamantaidd i'r bryniau lle bu'n cuddio.



Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Peidiwch â datgelu eich cyfenw os ydych o dan 16 oed.
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy