BBC HomeExplore the BBC

GWENER
18fed Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Hanes Lleol

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Edward Samuel Atgofion Ail Ryfel Byd
Atgofion Edward John Samuel o Glydach am yr Ail Ryfel Byd ym Mhontrhydyfen ac Abertawe.
"Roeddwn i'n byw ym Mhontrhydyfen yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Y prif atgof sydd gen i o'r rhyfel yw'r bom a ffrwydrodd yn y tŷ drws nesa ond un i ni, ar 17 Mawrth 1942.

"Mas o'r rhai oedd wedi'i claddu dan y rwbel da'th tri byw mas a tri wedi marw. Yr hyn sy'n aros yn y cof ydi fod un o'r rhai gafodd ei achub yn enwog iawn mewn rhai mannau o Gymru, sef Ivor Emanuel. Anghofia i byth y diwrnod 'na.

"Nôl yn yr amser 'na ym Mhontrhydyfen roedd pawb yn un teulu - does neb yn gwybod pwy sy'n byw drws nesa i'w gilydd nawr.

"Roeddwn i lawr yn gwitho yn Abertawe yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Er fy mod i'n gweithio yn gwaith glo roeddwn i hefyd yn mynd mas i helpu gyda'r frigiad dân yn ystod y nos. Part timer oeddwn i, shift o 4 awr, neu ryw 12 awr y mis. Doeddwn i ddim arno bob nos achos oedd tîm 'da ni. Roedd pympiau dŵr ar bwys yr eglwys (sy'n Gadeirlan nawr). A'r hyn fyddwn i'n ei wneud oedd symud y dŵr o un lle i'r llall.

"Yn ystod yr amser pan oeddwn i'n gweithio yn Abertawe, yn edrych ar ôl pwmp dwi'n cofio dau o blant yn dod tuag ataf - "We have lost our parents" medden nhw. Doeddwn i ddim yn eu nabod nhw, ond pwy ddaeth heibio ond y Salvation Army, roedden nhw'n dod â cawl o amgylch i ni. Wedes i wrthyn nhw; "Look, these people have lost their parents" - a chware teg dyma nhw'n mynd â'r ddau blentyn. Dwi ddim yn gwybod os ffindo nhw eu rhieni neu os oedden nhw wedi cael eu lladd.

"Cafodd 11,000 o fywydau eu colli yn Abertawe - dyna faint ddywedwyd ond efallai fod mwy. Roedd y byd ar dân a phan rwy'n mynd i Abertawe nawr rwy'n falch i fynd oddi yna. "


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy