BBC HomeExplore the BBC

SADWRN
26ain Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Hanes Lleol

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Adnabod Ardal - Preseli (parhad)
Y Mabinogi
Yng nghanol Mynyddoedd y Preseli mae Foel Cwmcerwyn. Mae'r mynydd hwn yn ymddangos yn chwedl Culhwch ac Olwen, efallai'r chwedl hynaf yng Nghymru. Er mwyn ennill Olwen roedd yn rhaid i Gulhwch gyflawni nifer o dasgau.

Un o'r rheiny oedd symud crib, siswrn a rhasal o ben y twrch trwyth, anifail grymus. Dilynodd Arthur, cefnder Culhwch, y twrch trwyth o Iwerddon ac anfon gwyr i lannau afon Nyfer i'w hela. Ond dihangodd y twrch i Gwmcerwyn a lladdodd bedwar o wyr Arthur. Y diwrnod wedyn lladdodd fwy o ddynion a dianc i dde orllewin Prydain.

Mae Carn Arthur, Cerrig Marchogion a Bedd Arthur sydd yn y cyffiniau wedi eu henwi ar ôl y digwyddiad hwn yn ogystal. Cylch o gerrig wrth droed Garn Bica yw Bedd Arthur. Y syniad sydd yma yw bod Arthur, y mab darogan, yn cysgu yn disgwyl i rywun alw arno a'i ddeffro fel y gall arwain y genedl a'i hachub o sefyllfa argyfyngus.

Mae ardal y Preseli hefyd yn ymddangos ym Mhedair Cainc y Mabinogi. Yn chwedl Pwyll cyfeirir at Gwm Cych fel tir hela brenhinoedd cynnar Dyfed. Dyma lle mae Pwyll yn cyfarfod Arawn, brenin Annwn, tra yn hela. Dywedir hefyd bod y fynedfa i deyrnas danddaearol Annwn yn yr ardal hon.

Mae Blaen Cych wedyn yn ymddangos mewn chwedl yn ymwneud â Chadifor. Ef oedd Arglwydd Blaen Cych. Yn ôl y chwedl fe adeiladodd ei balas ar draws yr Afon Cych sy'n llifo rhwng Penfro a Sir Gaerfyrddin. Dywedir mai'r ogof fechan a elwir heddiw yn Ffwrn Cadifor oedd hen gegin y palas.

Yng ngogledd bro'r Preseli, ar yr arfordir, mae Llandudoch. Yma mae abaty a sefydlwyd yn 1120 gan Robert Fiztmartin, arglwydd barwniaeth Cemais. Fe'i adeiladodd fel cangen o abaty Urdd y Benedictiaid yn Tiron. Arhosodd Gerallt Gymro yma ar ei daith o amgylch Cymru ym 1188.

Yn 1983 dechreuodd Cadw gloddio'r safle a daethant o hyd i olion gerddi monastig oedd yn perthyn i'r hen briordy ers talwm. Erbyn heddiw mae nifer o'r gerddi hyn wedi eu hail-blannu gyda phlanhigion a llysiau o oes y mynachlogydd. Dyma'r unig erddi monastig sydd wedi goroesi yng ngwledydd Prydain.

Ger yr abaty mae melin sy'n dal i gynhyrchu blawd yn y dull traddodiadol. Mae'r felin yn gweithio â dwr.

Tua'r dwyrain wedyn mae pentrefi Aberych a Chilgerran. Fe ddeuir i bentref Abercych wrth ddilyn afon Teifi i gyfeiriad y de. Yn y pentref mae tafarn hynod y Nag's Head, lle'r arferid cynnal Llys yr Ynadon flynyddoedd yn ôl. Ar arwyddfwrdd y dafarn mae adnod o'r Beibl: Bydd gall fel sarff, diniwed fel colomen'. Nodwedd unigryw arall sydd gan y dafarn hon yw'r llygoden fawr sydd wedi ei stwffio a'i gosod yn ffenest y bar. Cafodd y llygoden ei darganfod yng ngardd y dafarn yn y pumdegau.

Castell CilgerranWrth ddilyn afon Teifi wedyn tua'r gorllewin deuwn i bentref Cilgerran. Yma mae adfeilion hen gastell. Mae'r castell mewn safle godidog, ar graig mewn cwm coediog gydag afon Teifi yn llifo oddi tano. Mae nifer o arlunwyr wedi paentio darluniau o'r castell gan gynnwys Turner.

Adeiladwyd y castell cyntaf yno gan y Normaniaid tua 1093 ond fe'u trechwyd yn yr Amwythig wedi iddyn nhw wrthryfela yn erbyn Harri'r I. Wedi hyn symudodd y castell yn ôl a blaen rhwng y Cymry a'r Normaniaid. Roedd y Normaniaid yn awyddus iawn i'w feddiannu gan ei fod mewn safle strategol dda, yn ffinio â Cheredigion lle roedd y brenhinoedd Cymreig mewn grym.

Hanes diddorol yn ymwneud â'r castell yw pan ymosododd Owain ap Cadwgan ar yr adeilad a'i losgi. Roedd Owain wedi syrthio mewn cariad â Nest, merch Rhys ap Tewdwr a gwraig Gerald o Windsor. Gerald oedd prif arweinydd y Normaniaid yn Nyfed. Wedi i Owain losgi'r castell rhedodd Nest a'i phlant ymaith gydag ef.

Roedd y weithred hon yn her i'r brenin ac i Gerald o Windsor ac felly arweiniodd at ymosodiad y Normaniaid ar Geredigion a bu'n rhaid i Owain ffoi i Iwerddon. Yn ddiweddarach ym 1223 cafodd y castell ei ailadeiladu ac ychwanegwyd dau dwr crwn o lechen leol.

Castell Henllys
Castell arall yn y cyffiniau yw Castell Henllys ar lan afon Duad ger Crymych. Ond nid castell confensiynol yw hwn ond caer o'r Oes Haearn sydd wedi ei ailadeiladu. Dyma gaer hynafol iawn yn perthyn i'r cyfnod 400 O.C ac felly mae'n safle archeolegol bwysig. Bob haf bydd archeolegwyr yn cloddio yma i geisio darganfod mwy am fywyd y trigolion a arferai fyw yma ganrifoedd lawer yn ôl.

Heddiw ar y safle mae tai crwn, yn union fel yr adeiladau yr oedd y Celtiaid yn byw ynddyn nhw dros 2,000 o flynyddoedd yn ôl. Mae hyd yn oed y defaid a'r gwartheg yma o frîd hynafol. Mae ymwelwyr felly yn cael cyfle i gael golwg ar y cyfnod cyn-hanes.

Waldo
Waldo Williams © Academi GymreigWrth droed mynyddoedd y Preselau mae Mynachlogddu. Ym Mynachlogddu, yn ogystal â Llandyssilio, y magwyd y bardd Waldo Williams. Ystyrir ef yn un o feirdd gorau Cymru yn yr Ugeinfed Ganrif.

Codwyd un o gerrig gleision y Preselau i'w goffáu ar gomin Rhos-fach ym mhlwyf Mynachlog-ddu. Ar y garreg mae geiriau o gerdd enwog Waldo Y Preselau:
"Mur fy mebyd,
Foel Drigarn, Carn Gyfrwy, Tal Mynydd,
Wrth fy nghefn
Ymhob annibyniaeth barn"

Mae carreg las arall ar y tir comin hwn yn ogystal. Mae hon yn un o ddwy garreg a gludwyd o gopa Carnmenyn gan un o hofrenyddion yr Awyrlu Brenhinol yn 1989. Cludwyd y garreg arall i Gôr y Cewri ac mae'r garreg yma yn nodi tarddle'r cerrig.

Ym mynwent capel Bethel ym mhentref Mynachlogddu y claddwyd Thomas Rees neu Twm Carnabwth, arweinydd y terfysg cyntaf gan Ferched Beca. Twm Carnabwth oedd yn arwain y criw a losgodd y dollborth yn Efailwen. Roedd yn byw ar fferm Carnabwth, Mynachlogddu.

Yn Gors Fawr ger y pentref mae cylch o gerrig sy'n perthyn i Oes yr Efydd. Mae 16 o gerrig yn y cylch arbennig hwn ac un ohonynt yw 'r graig las sy'n garreg bwysig yn y Preseli. Gelwir y cerrig hyn ar lafar yn Gerrig Meibion Arthur. Yn ddiweddar darganfuwyd mai calendr cerrig yr hen ffermwyr cyntefig yw'r cylch hwn. Mae cerrig arbennig yn Llandyssilio hefyd sef y Meini Gwyr.

I'r gorllewin o Fynachlogddu mae pentref Rosebush. Datblygodd y pentref o ganlyniad i'r chwareli llechi ar fynyddoedd y Preseli i'r gogledd o'r pentref.

Wedi adeiladu rheilffordd Maenclochog oedd yn cysylltu'r chwareli a'r brif lein yng Nghlunderwen daeth y pentref yn ganolbwynt y diwydiant. Erbyn heddiw wrth gwrs mae economi'r pentref fel yr ardal gyfan yn dibynnu ar dwristiaid sy'n dod yma i grwydro mynyddoedd y Preseli a mwynhau'r golygfeydd gwych.

Cysylltiadau ag enwogion yr ardal
Ymhellach i'r gorllewin wedyn mae pentrefi Casmael a Chasnewydd bach. Bu Waldo yn brifathro Ysgol Casmael yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Mae cofeb iddo wedi ei gosod ar wal yn ysgol Casmael gyda'r geiriau "Mi rodiaf eto Weun Cas Mael".

Yn y pentref hefyd mae cofeb i Evan Rees neu Dyfed wrth ei enw barddol. Cafodd ei eni yma ond gadawodd y pentref pan oedd yn fabi naw mis oed a chafodd ei fagu yn Aberdâr. Enillodd Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol bedair gwaith a bu'n Archdderwydd Cymru o 1906-1923.

Ym mhentref Casnewydd Bach, ddwy filltir o Gasmael, y ganwyd Barti Ddu, un o fôr-ladron enwocaf y byd. Roedd yn fôr-leidr dewr ac ymosododd ar nifer o longau o Sbaen a Phortiwgal. Roedd ei enw'n ddychryn i longwyr y Caribî a gorllewin môr yr Iwerydd.

Dywedir iddo gasglu ffortiwn gwerth 51 miliwn mewn aur yn unig. Barti Ddu oedd y cyntaf i hwylio'r faner ddu a sgerbwd gwyn arni. Yn 1722 cafodd ei ladd mewn cilfach yn Cape Lopez gan long ryfel o Brydain. Saif cofeb iddo ar lawnt y pentref.

Mae nifer o gerrig coffa yn ardal y Preseli ac ym mharc gwledig Llyn y fran mae carreg goffa gwr enwog arall o'r ardal sef William Penfro Rowlands, cyfansoddwr y dôn 'Blaen-wern'.

Cafodd ei eni yn ffermdy Dan y Coed yn 1860 ac mae adfeilion y ffermdy hwnnw i'w gweld y tu ôl i'r gofeb. Daeth 'Blaen-wern' yn emyn poblogaidd iawn, nid yn unig yng Nghymru a Lloegr ond hefyd yn America, Awstralia a Dwyrain Asia. Mae wedi ymddangos yn ogystal mewn casgliad o emynau yn yr iaith Tseiniaidd.

Mae carreg goffa ym mhentref enwog Efailwen hefyd. Saif Efailwen ar y ffin rhwng Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro ar y brif ffordd i Arberth. Yma ym Mai 1839 dinistriwyd tollborth y pentref gan griw o ffermwyr, tua 400 i gyd, oedd yn gwisgo dillad merched ac wedi duo eu hwynebau. Protest oedd hyn yn erbyn y prisiau afresymol oedd yn cael eu codi i gludo deunyddiau fferm ac anifeiliaid drwy'r tollbyrth.

Tollborth Efailwen oedd y cyntaf i Ferched Beca ei dymchwel ac felly mae i'r pentref le pwysig yn hanes Cymru. Yma heddiw mae carreg yn nodi'r fan lle dinistriwyd y dollborth ac mae ysgol y pentref a chaffi wedi eu henwi ar ôl Beca.

Yn ôl i dudalen 1



Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!
Oes gennych chi stori am yr ardal? Cysylltwch â ni os am rannu eich straeon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy