BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Hanes Lleol

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Cartref Dylan Thomas yn Nhalacharn, llun gan Bwrdd Croeso Cymru Adnabod Ardal - Dyffryn Tâf
Mae Dyffryn Tâf yn gorwedd i'r gorllewin o Gaerfyrddin ac i'r dwyrain o Arberth ac felly mae ar y ffin rhwng Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro.
Mae'r ardal yn cynnwys trefi Hendy Gwyn ar Daf a Sanclêr yn ogystal ag amryw o bentrefi gwledig.

Pentrefi'r fro
Yng ngogledd yr ardal mae pentrefi gwledig fel Efailwen a Llanboidy. Saif Efailwen ar y ffin rhwng Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro. Mae'n bentref enwog gan mai yma ym Mai 1839 dinistriwyd y dollborth gan griw o ffermwyr, tua 400 i gyd, oedd yn gwisgo dillad merched ac wedi duo eu hwynebau.

Protest oedd hyn yn erbyn y prisiau afresymol oedd yn cael eu codi i gludo deunyddiau fferm ac anifeiliaid drwy'r tollbyrth. Caffi BecaTollborth Efailwen oedd y cyntaf i Ferched Beca ei dymchwel ac felly mae i'r pentref le pwysig yn hanes Cymru. Mae ysgol y pentref a chaffi wedi eu henwi ar ôl Beca.

Gerllaw mae pentref Llandisilio. Dyma lle magwyd y bardd Waldo Williams a ystyrir yn un o feirdd gorau Cymru yn yr Ugeinfed Ganrif.

Llanboidy - ddoe a heddiw
Tua'r dwyrain mae pentref Llanboidy. Ers talwm roedd castell yn Llanboidy. Mae'r olion sydd i'w gweld yma heddiw yn awgrymu mai castell tomen a beili oedd hwn. Nid oes sicrwydd ai'r Cymry neu'r Normaniaid a gododd y castell. Efallai mai castell a adeiladwyd fel rhan o ymgyrch y Normaniaid ydoedd neu un a sefydlwyd gan Rhys ap Gruffydd pan adfeddiannodd yr ardal. Mae'n debyg iddo gael ei adeiladu wedi creu arglwyddiaeth Sanclêr yng nghanol y 12fed ganrif.

Credir mai ffurf syml oedd i'r castell hwn gyda phreswylwyr yn byw yma'n barhaol. Mae'n debyg bod y rheiny wedi gadael y castell erbyn canol y 13eg ganrif gan na chafodd y castell hwn ei ailadeiladu gyda charreg. Nid oes dim i'w weld yma heddiw dim ond twmpath.Yn ystod y 19eg ganrif roedd teulu Maesgwynne yn byw yn Llanboidy. Dyma deulu pwysig a ddylanwadodd ar ddatblygiad y pentref. Un ohonynt oedd Walter Rice Howell Powell a wnaeth nifer o welliannau i bentref Llanboidy yn ystod ei gyfnod.

Marchnad LlanboidyYn 1881 adeiladwyd Neuadd y Farchnad ac ef a dalodd y costau i gyd. Roedd y neuadd yn cynnwys tafarn ac ystafell ddarllen ac roedd yma baneli oedd yn agor i ddarparu stondinau marchnad. Walter Powell sydd hefyd yn gyfrifol am ysgol y pentref a adeiladwyd ym 1863.

Mae Maesgwynne Arms yn perthyn i'r un cyfnod. Roedd y tafarnwyr cynharaf yn gyfrifol hefyd am fferm gyfagos. Dywedir i Walter Powell godi'r adeiladau hyn i gadw ei geffylau hela. Yn ddiweddarach roedd y Llys Ynadon yn cael ei gynnal yn y dafarn ac wedyn defnyddiwyd rhan o'r adeilad gan Fanc y Midland.

Yn ogystal â hyn sefydlodd Walter Powell siop yn y pentref, sicrhau cyflenwad dwr newydd yma ac adfer yr eglwys a'r fynwent. Mae cofeb i'r teulu yn y fynwent.

Heddiw mae Llanboidy yn enwog am y caws arbennig a gynhyrchir yma. Mae'r caws yn cael ei wneud yn ffermdy Cilowen Uchaf. Mae fferm siocled ger Llanboidy hefyd. Dyma fferm siocled Pemberton lle cynhyrchir siocled yn y dull Fictorianaidd. Mae Pemberton yn cynhyrchu dros gant o wahanol fathau o siocledi.

Hywel Dda a Hendy gwyn
Tua'r de mae tref Hendy gwyn ar Daf. Cynyddodd pwysigrwydd y dref hon yn ystod y 19eg ganrif wedi datblygiad y rheilffordd. Roedd tipyn o bobol yn tyrru yma gan ei bod yn dref marchnad.

Gardd Hywel DdaYn fwy na dim cysylltir y dref â Hywel Dda gan mai dyma lle roedd ei lys. Roedd Hywel Dda yn teyrnasu dros y rhan fwyaf o Gymru yn y 10fed ganrif. Cafodd y gŵr hwn ddylanwad mawr ar fywyd Cymru yn ystod y cyfnod hwnnw. Llwyddodd i uno ardal oedd yn draddodiadol wedi bod yn rhanedig a lle roedd tywysogion wedi bod yn ymladd â'i gilydd dros dir. Gwnaeth hynny drwy gyflwyno nifer o gyfreithiau a rhoi i Gymru ei system gyfreithiol ei hun.

Bu'n rheoli'r rhan fwyaf o Gymru o 910 O.C i 950 O.C ag eithrio siroedd Gwent a Morgannwg. Roedd ei gyfreithiau ymysg y tecaf a'r mwyaf datblygedig yn Ewrop.

I goffáu'r gŵr arbennig hwn mae canolfan a gerddi wedi eu hadeiladu yn Hendy Gwyn a'r Daf. Maen nhw wedi eu hadeiladu ar hen safle marchnad.

Mae adeilad y ganolfan wedi ei gynllunio ar yr un egwyddor â'r Tŷ Gwyn sy'n cael ei ddisgrifio yn llawysgrifau'r Oesoedd Canol. Yma mae arddangosfa yn adrodd hanes Hywel a'r gyfraith. Mae'r ardd wedi ei rhannu'n chwe gardd fechan sy'n cynrychioli rhannau arbennig o gyfraith Hywel sef cymdeithas a braint, trosedd a cham, gwragedd, contract, y brenin a'r llys ac eiddo.

Ymhob un o'r gerddi bychan mae coeden arbennig sy'n adlewyrchu ystyr symbolaidd coed i'r Celtiaid. Yng ngardd y gwragedd er enghraifft mae symbolau benywaidd fel yr helygen, coeden y mae'r Celtiaid yn ei chysylltu merched.

Ganrifoedd yn ôl roedd abaty yn Hendy Gwyn ar Daf ac ar un adeg hon oedd y prif dŷ Sisteraidd yng Nghymru. Cafodd ei sefydlu ym 1143 ac yna ym 1151 cafodd ei symud i'w safle bresennol pan ymsefydlodd y mynachod ger yr Afon Taf. Heddiw mae gweddillion yr abaty i'w gweld wrth deithio tua'r gogledd o'r dref.

William Mathias
Un o enwogion Hendy Gwyn ar Daf yw'r cerddor William Mathias. Cafodd ei eni yn y dref ym 1934 yn fab i James Mathias oedd yn ddirprwy brifathro Ysgol Ramadeg Hendy Gwyn ar Daf a Marian Evans oedd yn Ynad Heddwch.

Dechreuodd William Mathias gyfansoddi yn ifanc iawn a dechreuodd ganu'r piano'n bump oed. Aeth i Ysgol Gynradd Hendy Gwyn ac yn ddiweddarach i'r ysgol ramadeg yno. Aeth wedyn i astudio cerddoriaeth ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth ac wedyn i'r Academi Frenhinol yn Llundain.

Wedi hynny bu'n brysur yn cyfansoddi yn ogystal â dilyn gyrfa fel darlithydd ym Mhrifysgol Cymru, Bangor. Wedyn daeth yn uwch ddarlithydd ym Mhrifysgol Caeredin cyn dychwelyd i Fangor i ddod yn bennaeth yr adran gerdd. Bu farw yn 1992.

Mwy am Ddyffryn Tâf - ewch i dudalen 2



Cyfrannwch

Angharad Jones Hwlffordd
Mae dyffryn taf yn ddiflas.


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy