BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Hanes Lleol

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Cerflun o Dylan Thomas yn Abertawe Adnabod Ardal Abertawe
Mae dinas Abertawe yn gorwedd ym Mae Abertawe sy'n ymestyn am bum milltir o'r ardal arforol yn y ddinas i bentref y Mwmbwls yn y gorllewin.

Ychydig filltiroedd ymhellach i'r gorllewin mae ardal brydferth Penrhyn Gŵyr.

Y Rhufeiniaid oedd yr ymsefydlwyr cyntaf yn yr ardal. Fe aethant hwy ati i adeiladu caer yn Llwchwr er mwyn gwarchod y man croesi ar afon Llwchwr.

Mae hanes Abertawe ei hun yn mynd yn ôl i oes y Llychlynwyr a gafodd eu denu yma oherwydd y lleoliad gan fod afon Tawe yn llifo i Fôr Hafren yma. Aethant ati i enwi'r ardal ar ôl y brenin Llychlynaidd Sweyne Forkbeard a'i alw'n Sweyne's Eye sef Ynys Sweyne.

Yn ystod y canrifoedd wedyn datblygodd Abertawe i fod yn dref farchnad gyda phorthladd llewyrchus.

Datblygiad cynnar Abertawe
Dechreuodd Abertawe ddatblygu o ddifri wedi dyfodiad y Normaniaid yma yn yr 11eg ganrif. Fe adeiladwyd castell yma ganddyn nhw yn y 12fed ganrif a datblygodd y dref o amgylch y castell hwnnw.

Saif castell Abertawe fry ar y bryn. Ers talwm arferai afon Tawe lifo oddi tano. Roedd hwn yn safle strategol dda gan mai dyma lle roedd man croesi isaf yr afon, roedd y brif ffordd rhwng y gorllewin a'r dwyrain yn mynd heibio'r safle ac roedd yma harbwr. Heddiw dim ond rhan fechan o'r castell diweddaraf sydd i'w weld yma.

Hanes Castell Abertawe
Mae hanes y castell yn un cythryblus. Ymosododd y Cymry droeon ar y castell Normanaidd hwn. Sefydlwyd y castell gan Henry de Beaumont, ffrind Harri'r I er mwyn gwarchod arglwyddiaeth Gŵyr. Roedd Harri'r I wedi rhoi'r arglwyddiaeth honno iddo ym 1106. Castell tomen a beili oedd hwn. Ymosododd y Cymry arno ym 1217 ac wedi hynny cafodd ei ailgodi gyda cherrig. Dyma'r 'hen gastell' a does dim ohono i'w weld heddiw.

Castell AbertaweMae olion y castell a welir heddiw yn perthyn i'r 'castell newydd'. Adeiladwyd hwn ar safle mynwent. Mae'r 'castell newydd' yn dyddio o ddiwedd y 13eg ganrif neu ddechrau'r 14eg ganrif. Roedd yn parhau i fod yn ganolfan weinyddol ond i raddau llai. Roedd yn well gan ei berchnogion, teulu'r Brewys, fyw yng nghastell Ystumllwynarth. Dirywio wnaeth y castell wedi hynny ac yn nechrau'r 14eg ganrif gwerthwyd y gatiau a thyrau'r beili.

Ffynnodd Abertawe wedyn fel tref farchnad fechan gyda'i phorthladd. Yna datblygodd y dref yn sylweddol yn ystod y 18fed ganrif pan ddechreuwyd cloddio glo yng Nghwm Tawe a'r cymoedd cyfagos. Ymhen dim roedd glo yn cael ei gloddio ar raddfa fawr a dechreuwyd ei allforio ar hyd afon Tawe i borthladd Abertawe. Yn ystod y 19eg ganrif datblygwyd y dociau a'r camlesi ymhellach.

Roedd y glo'n cael ei ddefnyddio hefyd i doddi haearn, copr, sinc a thun yng Nghwm Tawe, Tre-gŵyr a Phontarddulais. Daeth ardal Abertawe yn un o ganolfannau diwydiannol mwyaf blaengar y byd yn ystod y cyfnod hwn.

Y prif reswm am hynny oedd porthladd Abertawe a'i safle. Roedd yn agos i'r cyflenwadau glo a roedd y glo'n gallu cael ei gludo'n hawdd drwy'r rhwydwaith o gamlesi a rheilffyrdd. Yn ystod y 19eg ganrif Abertawe oedd prif borthladd Cymru cyn i Gaerdydd gipio'r safle yn niwedd y ganrif.

Yn ystod y cyfnod hwn trodd y diwydianwyr, dref marchnad Abertawe yn ganolfan drefol fodern a chrewyd datblygiadau pwysig fel Trên y Mwmbwls. Hwn oedd y trên cyntaf erioed i gludo teithwyr ac fe gludai ymwelwyr o Abertawe i dref glan môr y Mwmbwls. Datblygodd Abertawe yn ardal fasnachol a diwydiannol oedd yn boblogaidd iawn yn arbennig ymysg y dosbarth canol ac uwch.

Abertawe a'r Ail Ryfel Byd
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd cafodd y ddinas ei bomio'n drwm. Er hyn mae Abertawe wedi llwyddo i gadw llawer o'i nodweddion hanesyddol. Mae'r rhain yn bodoli ochr yn ochr â'r adeiladau modern a adeiladwyd wedi'r rhyfel. Canlyniad hyn yw'r cyferbyniad dramatig ym mhensaernïaeth y ddinas heddiw. Wedi 1945 mae'r datblygiadau wedi digwydd yn bennaf yn ardal y bae gyda'r maestrefi yn tyfu hefyd.

Marina AbertaweYn 1982 agorwyd marina Abertawe. Hwn yw canolbwynt yr ardal arfordirol. Mae'r marina'n denu cychod o bob rhan o'r byd. Yma hefyd mae dros fil o dai.

Mae nifer o adeiladau diddorol yn ninas Abertawe. Un ohonynt yw'r Guildhall a agorwyd ym 1934. Mae'r adeilad wedi bod yn ganolfan i lywodraeth leol a materion cyfreithiol a dyma un o brif ganolfannau cymdeithasol a diwylliannol Abertawe.

Neuadd y Brangwyn

Neuadd Brangwyn
Mae Neuadd y Brangwyn yn rhan o'r Guildhall. Yn y neuadd cynhelir cyngherddau a chynadleddau. Yma mae Paneli'r Brangwyn sydd hefyd yn cael eu hadnabod fel Paneli'r Ymerodraeth Brydeinig. Fe'u lluniwyd gan Syr Frank Brangwyn, artist Prydeinig pwysig.

Mae hanes diddorol i'r paneli hyn. Yn 1924 penderfynodd Ty'r Arglwyddi goffau'r Rhyfel Byd Cyntaf drwy gwblhau'r addurniadau Fictoraidd oedd yn cael eu gwneud yn yr Oriel Frenhinol ym Mhalas Westminster. Dewiswyd Frank Brangwyn i gwblhau'r gwaith.

Roedd Brangwyn eisoes yn artist byd enwog. Bwriad Brangwyn oedd bywiogi'r oriel gyda darluniau lliwgar o diriogaethau Prydain.

Ond datblygodd cynnwrf ymysg y cyhoedd pan welsant y gwaith gorffenedig. Roedden nhw'n credu ei fod yn llawer rhy lliwgar a bywiog. Felly gwrthodwyd y gwaith.

Dangosodd Abertawe a Chaerdydd ddiddordeb yn y gwaith oherwydd enwogrwydd Brangwyn a'i gysylltiadau teuluol Cymreig.

Penderfynwyd y byddai'r paneli'n mynd i'r Guildhall, Abertawe gan gynyddu uchder y to i'w gosod yno. Fe'u gosodwyd yno ym 1934. Galwyd y neuadd hon oedd yn rhan o'r Guildhall yn Neuadd y Brangwyn. Ewch i ddarllen mwy am Neuadd y Brangwyn

Theatr y Grand
Adeilad hynafol arall yn y ddinas yw Theatr y Grand sydd yng nghanol y ddinas. Fe'i adeiladwyd ym 1897. Ers hynny mae'r theatr wedi darparu amrywiaeth o ddigwyddiadau diwylliannol ac artistig i drigolion Abertawe a'r ardal. Erbyn heddiw mae dros 500 o berfformiadau yn cael eu cynnal yma'n flynyddol. Theatr y Grand yw theatr hynaf Abertawe a dywedir bod ysbryd merch mewn gwyn yn crwydro'r adeilad heddiw.

Prifysgol AbertaweMae'n debyg mai'r adeilad sy'n denu'r nifer fwyaf o bobol i'r ddinas heddiw yw'r Brifysgol. Sefydlwyd Prifysgol Cymru Abertawe ym 1920. Saif y Brifysgol ar dir parc ar lan y môr rhwng canol y ddinas a'r Mwmbwls. Heddiw mae dros 10,000 mil o fyfyrwyr yn astudio yma.

Mwy am ddinas Abertawe - ewch i dudalen 2



Cyfrannwch

John Walters o Bontardulais
Diolch am yr hanes cryno.Hoffwn godi ambell bwynt. Fel un a gafodd ei eni a'i fagu yn Abertawe, mae'n parhau yn rhyfeddod i mi fod hanes "cynnar" yr ardal bob tro yn son am y Rhufeiniaid ac yna yn llamu ar draws y canrifoedd i'r Llychlynwyr. Onid oedd yma bobl frodorol? A faint o dystiolaeth sydd ar bresenoldeb y Llychlynwyr ar wahan i'r enw? Braidd dim hyd y gwn. Gyda llaw, "Casllwchwr" yw'r dref, "Llwchwr" yw'r afon. Fe fyddem yn son gynt am fynd "i'r Brangwyn", neu fod cyngerdd "yn y Brangwyn" ond yn siarad am "Neuadd Brangwyn", (a chofio wrth gwrs fod yr arlunydd ei hun o dras Gymreig a Belg). Daliwch ati!

Lynda (Jones)Ganatsiou- Groeg
Syniad wych i gynnwys erthygl o'r fath gyda Eisteddfod Abertawe yn cychwyn ym mis Awst. Beth amdani Huw???? Rwy'n edrych ymlaen darllen dy erthygl am hanes Llanelli. A minnau'n byw rhwng y ddwy dref (cyn mynd i fyw tramor) fe fyddaf wrth fy modd yn ychwanegu rhywbeth hanesyddol am ardal Pontarddulias (ar ol i Huw anfon, wrth gwrs!!)

Annwyl Lynda,
Diolch am eich neges. Mae croeso i chi anfon eich erthygl unrhyw dro at deorllewin@bbc.co.uk Byddwn yn falch i roi sylw i dref Pontarddulias yma. GOL

Huw Griffiths o Llanelli
Mae'r dudalen hon yn dda. Ond ga i ofyn am dudalen am hanes Llanelli.

Huw, diolch am eich sylwadau. Rydyn ni'n gobeithio ychwanegu mwy o erthyglau hanesyddol i'r adran hon yn y dyfodol. Mae pob croeso i bobl anfon erthyglau hanes lleol aton ni, a gallwn eu harddangos yma. Diolch yn fawr. GOL.


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy