Barddoniaeth
Ysgrifennodd D.Gwenallt Jones rai o'r cerddi enwocaf yn yr iaith Gymraeg --'Cymru', 'Y Meirwon; a 'Rhydcymerau', i enwi dim ond tair ohonynt. Gwladgarwr a Christion ydoedd, er ei fod wedi brwydro'n hir ac yn galed i gyrraedd y sabwyntiau hyn; yn ystod ei lencyndod roedd yn Farcsydd ac yn anffyddiwr.
Ganwyd David James Jones (i roi ei enw gwreiddiol iddo) ym Mhontardawe ym 1899, ond symudodd y teulu yn fuan wedyn i'r Alltwen gyfagos yng Nghwm Tawe, ac oddi wrth y pentref dur ac alcam hwnnw y cymerodd ei enw barddol.
Disgrifiodd ei bererindod deallusol ac ysbrydol mewn ysgrif tra dadlennol yn y gyfrol Credaf (gol. J.E.Meredith, 1943).
Daeth yn Farcsydd yn rhannol o ganlyniad i wrthrhyfela'n erbyn creulondeb y gyfundrefn gyfalafol ac yn anffyddiwr ar ôl i'w dad gael ei ladd gan fetel tawdd mewn damwain yn y gwaith.
Ymdriniodd â'r gefndir cynnar hwn eto yn y nofel anorffenedig Ffwrneisiau (1982).
Gwrthwynebydd cydwybodol
Yn ystod y Ryfel Byd Cyntaf roedd yn wrthwynebydd ar dir cydwybodol a charcharwyd ef yn Wormwood Scrubs a Dartrmoor.
Yn ei nofel Plasau'r Brenin (1934) gwelir sut y daeth ei Heddychiaeth Gristnogol, ei Sosialaeth Gydwladol a'i Genedlaetholdeb ynghyd yn ei benderfyniad i beidio ymuno yn y rhyfel.
Allan o'r profiad hwn daeth rhai o'i gerddi mwyaf pwerus.
Astudiaethau a gwaith
Ar ô y rhyfel aeth Gwenallt yn fyfyriwr i Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, a graddio yn y Gymraeg a'r Saesneg.
Wedi cyfnod byr fel athro yn Y Barri, fe'i penodwyd yn ddarlithydd yn Adran Gymraeg ei hen goleg, lle arhosodd nes iddo ymddeol.
Ymddiddorai yn nhraddodiadau cenedlaethol Cymru ac Iwerddon a'r dreftadaeth Fethodistaidd Galfinaidd, a pharhaodd i ddadlau dros ddyletswydd y Cristion i hawlio cyfiawnder cymdeithasol.
Daeth Gwenallt i fri fel bardd wedi iddo ennill y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol 1926. Cyhoeddodd pum cyfrol o gerddi: Ysgubau'r Awen (1939), Cnoi Cil (1942), Eples (1951), Gwreiddiau (1959) a Coed (1969) a gyhoeddwyd ar ôl iddo farw.
Yr argraffiad safonol o'i waith barddonol yw Cerddi Gwenallt; y Casgliad Cyflawn (gol. Christine James, 2001).
Bardd cenedlaethol
Y mae elfen delynegol yng ngherddi cynnar Gwenallt tra bod ei arddull ddiweddarach yn fwy garw, mwy chwerw a mwy cryno, ond erys y neges yn glir ac yn rymus bob tro.
Bardd cenedlaethol ydyw, yn anad dim, un o'r goreuon a welodd Cymru erioed, un sy'n uno Cymru wledig â Chymru ddiwydiannol, fel yn y gerdd 'Sir Forgannwg a Sir Gaerfyrddin'.
Fel ysgolhaig hefyd gwnaeth Gwenallt gyfraniad o bwys,gyda gweithiau fel Yr Areithiau Pros (1934), Blodeugerdd o'r Ddeunawfed Ganrif (1936), Detholiad o Ryddiaith Gymraeg R. J. Derfel (1945) a Cofiant Idwal Jones (1958).
Roedd yn un o aelodau cynnar yr Academi Gymreig ac ef oedd golygydd cyntaf ei chylchgrawn Taliesin.
Bu farw Gwenallt yn Aberystwyth ym 1969; fe'i coffheir gyda phlac ar y tŷ yn Wesley Terrace, Pontardawe, lle ganwyd ef.
Meic Stephens