BBC HomeExplore the BBC

IAU
24ain Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Llên
Penyberth
D.J.Williams

Ganwyd: 1885

Magwyd: Rhydcymerau, Sir Gaerfyrddin,

Addysg: Prifysgol Aberystwyth a Choleg Iesu, Rhydychen.


Un o 'Tri Penyberth'

Llenor ac aelod blaenllaw o Blaid Cymru oedd D.J.Williams. Plethodd ei lenydda a'i wleidydda yn undod llwyr ar hyd ei oes. Yn wir, anodd gwahaniaethu rhwng y ddau yn ei achos ef.

Ymroddodd i ddiwylliant ei genedl yn ei holl agweddau gan ychwanegu swmp o ryddiaith cywrain i'n llên.

Mae ei gariad at ei wlad yn pefrio trwy bopeth a ysgrifennodd. At hynny, roedd yn weithiwr diflino dros achos Plaid Cymru yn lleol ac yn genedlaethol.

Yn anad dim, fe oedd un o'r tri a weithredodd yn erbyn yr ysgol fomio ym Mhenyberth ym 1936.

Anfarwoli ei filltir sgwâr

Ganwyd David John Williams ym 1885 yn Rhydcymerau, Sir Gaerfyrddin, ardal a anfarwolir yn ei ddwy gyfrol o hunangofiant, Hen Dŷ Fferm (1953) ac Yn Chwech ar Hugain Oed (1959).

Gadawodd ei fro enedigol yn llanc i fod yn löwr yng Nghwm Rhondda a chymoedd eraill, profiad a ddisgrifir yn rhai o'i storïau byrion.

Cafodd ei addysg yng Ngholeg y Brifysgol, Aberystwyth, ac yng Ngholeg Iesu, Rhydychen.

Ei swydd dysgu gyntaf oedd yn Ysgol Lewis, Pengam, ond treuliodd weddill ei oes yn athro Saesneg yn Ysgol Ramadeg Abergwaun, Sir Benfro.

Cymeriad cofiadwy

Yr oedd D. J., fel yr adwaenid y cymeriad hoffus hwn, ymhlith sefydlwyr Plaid Cymru ym 1925.

Cymerodd ran, ynghyd â Saunders Lewis a Lewis Valentine, yn y weithred symbolaidd o losgi siediau ar safle'r ysgol fomio ym Mhenyberth fel protest yn erbyn penderfyniad y Llywodraeth i'w hadeiladu er gwaethaf barn gyhoeddus yng Nghymru.

Nid oedd y rheithgor yng Nghaernarfon yn gallu dod i benderfyniad a symudwyd yr achos i'r Old Bailey, lle cafodd y tri yn euog; yn ystod yr achos gwrthododd D. J. siarad Saesneg, gan aros am y ddedfryd i gael ei chyfieithu i'r Gymraeg cyn gadael y doc.

O ganlyniad, treuliodd naw mis yn Wormwood Scrubs cyn dychwelyd i'w swydd yn Abergwaun; yn annhebyg i Saunders Lewis, cadwodd ei gymeriad siriol trwy gydol y profiad cas hwn.

Pwysigrwydd bro ei febyd

Y weledigaeth a'i gynhaliodd oedd 'y filltir sgwâr' o gwmpas ei fro enedigol - cymdeithas fechan, glòs, lle oedd gwerthoedd dynol yn dyrchafu'r unigolyn a lle oedd ysbryd o gydweithrediad yn agos iawn at y reddf naturiol.

Yn wir, mae yna fwy o sôn yn Yr Hen Dŷ; Fferm am yr ardal nac am yr awdur ei hun.

Mynnai Gwenallt, un arall â chysylltiadau â Rhydcymerau, fod hunangofiant D. J. yn 'rhoi darlun rhy rosynog o gyflwr economaidd y ffermwr'.

Boed hynny fel y bo, prif diddordeb D. J. oedd y cymeriadau a'u harferion, ac o'r herwydd mae ei lyfrau'n ddogfen gymdeithasol o bwys. Yn y gyfrol ddilynol, Yn Chwech ar Hugain Oed, llyfr mwy difyr a darllenadwy efallai, ceir llawer rhagor am yr ardal, gyda'r pwyslais ar y capel, yr ysgol a'r dafarn - roedd D. J. yn hoff iawn o'i beint - yn ogystal â disgrifiadau o brofiadau'r awdur o dan ddaear.

Talentau llenyddol

Yn ei storïau byrion dangosodd D. J. ei dalentau fel cyfarwydd o allu arbennig.

Fe'u cyhoeddwyd mewn tair cyfrol a'u casglu o dan y teitl Storïau'r Tir ym 1966.

Cyfrwystra syml a hiwmor ffraeth yw eu prif nodweddion a hwyrach y gwelir nhw ar eu gorau yn y stori enwog 'Blwyddyn Llwyddiannus', lle mae ffermwr wrth brynu llo yn ennill gwraig yr un pryd. Ceir pedair stori arall yn y gyfrol Y Gaseg Ddu (gol. J. Gwyn Griffiths, 1970).

Cyfrannodd D. J. lu o erthyglau yn ymwneud â Chymru a chenedlaetholdeb i bapurau Plaid Cymru. Ysgrifennodd hefyd astudiaeth o Mazzini, yr arwr Eidaleg, ac o'r llenor Gwyddelig George Russell, yn ogystal â'i atgofion am ddyddiau cynnar Plaid Cymru, o dan y teitl Codi'r Faner (1968).

Nodweddir ei weithiau llenyddol gan arddull gywrain, serch at anifeiliaid (yn enwedig ceffylau), ei hoffter o grwydro'n rhadlon, a'i ddawn dychanol ond caredig.

Bu farw ym 1970 tra'n annerch cynulleidfa yn Rhydcymerau. Fe'i coffheir gan blac ar wal y tŷ; (The Bristol Trader gynt) yn y Stryd Fawr, Abergwaun, lle trigodd yr awdur gyda'i wraig am flynyddoedd lawer.

Meic Stephens

0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy