BBC HomeExplore the BBC

LLUN
30ain Tachwedd 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Llên
Cofeb Dewi Emrys uwchben Pellderi, yn dwyn geiriau ei gerdd enwog. Llun drwy garedigrwydd geograph.co.uk
Dewi Emrys

Ganwyd: Mai 28, 1881

Magwyd: Ceinewydd, Aberteifi, a Rhosycaerau, Sir Benfro

Addysg: Ysgol Pencaer, Ysgol Ramadeg Jenkins Abergwaun, Ysgol Uwchradd Abergwaun, Coleg Presbyteraidd Caerfyrddin


Bardd eisteddfodol a thafodieithol

Roedd Dewi Emrys yn fardd, nid bardd mawr ond un digon talentog a phoblogaidd yn ei ddydd i gael ei gofio hyd heddiw, a nid yn unig yn y siroedd gorllewinol lle mae beirdd lleol yn tueddu cael eu mawrygu, weithiau, tu hwnt i bob rheswm.

Un o'r ffactorau paham nad yw wedi mynd i angof oedd ei fuchedd fohemaidd lliwgar odiaeth - roedd yn hoff iawn o ddiod ac o ferched ac, fel Dylan Thomas, roedd yn barod pob tro i chwarae rhan i fodloni disgwyliadau rhamantaidd pobl am yr hyn y dylai bardd fod.

Fe'i ganwyd ym 1891 yng Ngheinewydd, Sir Aberteifi, ond fe'i cysylltir fel arfer â Sir Benfro, oblegid ei fagwraeth yn Rhosycaerau yn y sir honno.

Ei enw iawn oedd David Emrys James.

Y gweinidog bohemaidd

Newyddiaduraeth oedd ei waith cyntaf ond ar ôl astudio yng Ngholeg Presbyteraidd Caerfyrddin fe'i ordeinwyd yn weinidog; gwasanaethodd yn Nowlais, Bwcle, Pontypridd a Llundain.

Dychwelodd at newyddiadura ym 1918 a byw yn Llundain.

Ond ym 1940 ymsefydlodd yn Nhalgarreg yn Sir Aberteifi.

Daeth i amlygrwydd fel bardd ym 1926 pan enillodd y Goron yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ac aeth ymlaen i ennill y Gadair ym 1929,1930, 1943 a 1948; bu'n ffigwr cyfarwydd ar y Maes ac yn y Babell Lên.

Cyhoeddodd ddim ond dwy gyfrol o'i gerddi Cymraeg, sef Y Cwm Unig (1930) a Cerddi'r Bwthyn (1950), ac un o'i gerddi Saesneg, Rhymes of the Road (1928) o dan yr enw David Emrys.

Cafwyd gyfrol goffa, Wedi Storom, ym 1965.

Golygydd colofn farddol

Ychwanegodd at ei fri fel llenor ar gyfrif ei olygyddiaeth o'r golofn farddol yn Y Cymro rhwng 1936 a 1952, lle rhoddai gyngor ac anogaeth i lu o feirdd ifainc; cyhoeddwyd pigion o farddoniaeth ei 'ddisgyblion' yn y gyfrol Cerddi'r Babell (1938).

Ysgrifennodd hefyd gyfrol o ysgrifau eithaf gwerthfawr, sef Odl a Chynghanedd (1937).

Ei waith amlycaf

Yr enwocaf o'i gerddi yn ddios, ac yn wir, mae'r cof amdano'n dibynnu i raddau helaeth ar y gerdd hon, yw 'Pwllderi', a ysgrifennwyd yn nhafodiath parthau gogleddol Sir Benfro.

Gwelir cwpled ohoni wedi ei dorri ar y gofgolofn a saif ger Trefaser, nepell o Abergwaun: 'A thina meddylie sy'n dŵad ichi / Pan fo'ch chi'n ishta uwchben Pwllderi'.

Bu farw'r bardd ym 1952 ac ar ei fedd ym mynwent capel Pisgah yn Nhalgarreg gwelir yr arysgrif; 'Melys hedd wedi aml siom / Distawrwydd wedi storom', sy'n crisialu ei fywyd yn ddigon cywir.

Mae yna, yn ogystal, blac ar Y Bwthyn, y tŷ yn y pentref lle treuliodd y bardd ei flynyddoedd olaf.

Meic Stephens

0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy